Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn eich cymuned, a sut mae gofyn am gael gweld lluniau

Defnyddir Camerâu Teledu Cylch Cyfyng mewn rhai ardaloedd cyhoeddus penodol er mwyn amddiffyn eich cymuned, gan gynnwys canol trefi, ffyrdd, meysydd awyr ac ar rai mathau o drafnidiaeth gyhoeddus. Gellir defnyddio lluniau Camerâu Teledu Cylch Cyfyng fel tystiolaeth yn y llys ac fe allwch hefyd ofyn am gael gweld lluniau o'ch hun ar Deledu Cylch Cyfyng.

Lluniau Camerâu Teledu Cylch Cyfyng fel tystiolaeth

Gellir defnyddio Teledu Cylch Cyfyng weithiau fel tystiolaeth mewn llys er mwyn profi bod rhywun wedi bod mewn lle penodol neu eu bod wedi cyflawni trosedd.

Gellir defnyddio Teledu Cylch Cyfyng hefyd i wella diogelwch yn y gymuned ac i atal troseddu, drwy wneud i rywun feddwl ddwywaith cyn cyflawni trosedd, megis lladrad, os ydyn nhw'n gwybod y caiff y cyfan ei recordio.

Sut mae gofyn am gael gweld lluniau Teledu Cylch Cyfyng

Mae gennych hawl i gael gweld lluniau o'ch hun a allai fod wedi cael eu recordio gan system o Gamerâu Teledu Cylch Cyfyng. Mae hyn oherwydd bod Deddf Diogelu Data 1998 yn golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus megis cynghorau lleol sicrhau bod unrhyw ddata personol ar gael i chi os ydych chi'n gofyn amdano. Gwybodaeth sy'n berthnasol i unigolyn yw data personol, a chaiff ei gadw gan y corff cyhoeddus.

Bydd angen i chi wneud cais ar bapur i berchennog y system o Gamerâu Teledu Cylch Cyfyng. Fel arfer, gallwch weld manylion y perchennog ar arwydd sydd wedi'i gysylltu â'r camera. Bydd angen i chi roi digon o wybodaeth iddynt allu eich adnabod - dyddiad ac amser penodol, er enghraifft, a disgrifiad ohonoch eich hun a'ch dillad. Fe allan nhw godi ffi o hyd at £10 y copi am y lluniau.

Os byddwch chi'n cysylltu â chorff cyhoeddus sy'n cadw'r lluniau hyn ohonoch, rhaid iddyn nhw roi copi ohonynt i chi o fewn 40 diwrnod. Efallai y byddan nhw'n gyrru fersiwn wedi'i golygu o'r lluniau Teledu Cylch Cyfyng, rhag datgelu pwy yw'r bobl eraill a ddangosir yn y lluniau.

Lluniau wedi'u golygu

Efallai y bydd y recordiad Teledu Cylch Cyfyng wedi ei olygu er mwyn sicrhau na allwch weld data personol arall nad yw'n berthnasol i chi. Gall hyn gynnwys:

  • rhif cofrestru cerbyd nad ydych yn berchen arno
  • ymyrraeth annheg ar breifatrwydd person arall

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth am sut y defnyddir Camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn eich cymuned, neu er mwyn cael gweld eu cod ymarfer ar gyfer defnyddio Camerâu Teledu Cylch Cyfyng a'r Ddeddf Diogelu Data.

Allweddumynediad llywodraeth y DU