Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Diogelwch yng nghanol tref ac atal troseddu

Mae'ch cyngor lleol, yr heddlu a phartneriaid eraill yn gweithio gyda busnesau a'r gymuned i ostwng lefelau troseddu ac anhrefn. Gallwch gael mwy o wybodaeth am atal troseddu yn eich ardal drwy gysylltu â'ch cyngor lleol isod.

Rheoli canol tref

Mae rheoli canol tref yn dwyn at ei gilydd amrywiaeth o bobl a sefydliadau sy'n ceisio mynd i'r afael â materion megis troseddu, cynllun a dodrefn strydoedd, problemau trafnidiaeth ac ansawdd yr amgylchedd.

Mae timau rheoli canol tref yn arolygu ardal yn gyson i sicrhau bod unrhyw newidiadau'n dal i weithio ar ran busnesau a thrigolion. Gallant wella'r ardal leol drwy:

  • osod systemau teledu cylch cyfyng (CCTV) er mwyn lleihau troseddau ar y stryd megis dwyn, delio mewn cyffuriau ac ymosod
  • gwneud ardaloedd siopa yn barthau ar gyfer cerddwyr yn unig
  • tirweddu tir gwastraff nad yw'n cael ei ddefnyddio
  • gwella goleuadau stryd

Gall eich tîm rheoli canol tref lleol gynnwys:

  • trigolion
  • busnesau lleol
  • yr heddlu
  • adrannau'r cyngor
  • grwpiau diogelwch cymunedol
  • cynghorau cyfagos

Os hoffech gael gwybod am gynllun rheoli canol tref yn eich ardal chi neu os hoffech gyfrannu at gynllun o'r fath, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Wardeniaid stryd ac atal troseddu

Mae llawer o gynghorau’n defnyddio wardeiniaid stryd i helpu gyda phrosiectau diogelwch cymunedol a darparu presenoldeb yng nghanol trefi. Mae pob warden stryd yn rhan o gynlluniau swyddogol, ac yn cael eu cefnogi gan eich awdurdod lleol, grwpiau cymunedol a'r heddlu.

Mae'r wardeiniaid hefyd yn cyfrannu at ddatblygu cymunedol ac yn darparu pwynt cyswllt rhyngoch chi, eich awdurdod lleol a'r heddlu.

Dyma rai o'r pethau a wneir gan gynlluniau cymunedol a wardeiniaid ar y stryd ar y cyd:

  • casglu sbwriel ar gyfer pobl ifanc
  • timau a gemau pêl-droed lleol
  • ymweliadau ag ysgolion
  • hebrwng grwpiau bregus, fel yr henoed, pobl anabl a dioddefwyr troseddau

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth wardeiniaid stryd yn eich ardal leol, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

I gael gwybod mwy am atal troseddu yn eich ardal chi, bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych chi'n byw ac yn mynd â chi at wefan eich cyngor lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU