Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel - nod cynlluniau diogelwch yn y gymuned yw gostwng nifer y troseddau a lleddfu'r ofn o gael eich bygwth.
Gall cynlluniau diogelwch yn y gymuned leol olygu sawl peth, o raglenni magu plant, cynlluniau addysgol a mentora i bobl ifanc, i newid yr amgylchedd ffisegol drwy gyfrwng cynlluniau dylunio trefol, gosod camerâu cylch cyfyng, a gwella diogelwch gyda chloeon, bolltiau a gatiau bob pen i strydoedd cul.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol a mynnwch sgwrs gyda'ch swyddog atal troseddu i gael gwybod am gynlluniau sydd eisoes ar y gweill yn eich ardal chi. Gallech hefyd edrych ar wefan Poeni am Droseddu i gael gwybodaeth am brosiectau yng Nghymru a Lloegr sydd wedi'u hanelu at greu cymunedau mwy diogel a sut y gallwch chi helpu.
Mae cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth yn chwarae rhan bwysig o safbwynt gwneud eich cymuned yn fan mwy diogel i fyw. Mae Cynllun Gweithredu'r llywodraeth ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol hefyd yn cefnogi asiantaethau lleol i fynd i'r afael â'r math o broblemau sy'n bla mewn cymaint o gymunedau. Mae'r Cynllun Gweithredu ar wefan y Swyddfa Gartref.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Cyflwynodd Deddf Cyfraith a Throsedd 1998 gamau i'w defnyddio gan bobl leol sy'n cydweithredu â'r heddlu i wella diogelwch eu cymuned. Er enghraifft: