Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwneud cais am ddod yn elusen – beth mae angen i chi ei wneud

Os ydych chi'n ystyried sefydlu elusen neu wneud cais am i sefydliad sy'n bodoli'n barod gael ei wneud yn elusen, bydd angen i chi wneud rhai penderfyniadau ynghylch a fyddai bod yn elusen gofrestredig yn addas i chi, sut y gweithredir yr elusen a phwy fydd eich ymddiriedolwyr.

Pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen newydd

Cyn penderfynu a ydych am sefydlu elusen newydd, dylech ystyried y pethau canlynol:

  • ai elusen newydd yw'r ffordd orau o fwrw ymlaen?
  • a oes elusennau gyda'r un dibenion a gweithgareddau a chi yn bodoli'n barod?
  • ydych chi wedi ystyried ymuno ag elusen sy'n bodoli'n barod?
  • ydych chi'n gwybod sut mae'n rhaid i elusen weithredu?
  • a oes angen i chi gael eich gwneud yn gwmni cyfyngedig yn ogystal ag elusen (os felly, bydd rhaid i chi wneud hyn yn gyntaf)
  • ym mhle y gwnewch chi ddod o hyd i ymddiriedolwyr?
  • o ble gewch chi nawdd?

I gael gwybod am rai o'r gofynion sylfaenol sydd eu hangen i fod yn elusen, ac i gael gwybod am rywfaint o'r manteision a'r anfanteision darllenwch 'Sefydlu elusen' a 'Dewis ymddiriedolwyr a dod o hyd i nawdd'.

Gwneud cais

Os ydych chi'n dymuno cael eich gwneud yn elusen gofrestredig bydd angen i chi gael pecyn ymgeisio gan y Comisiwn Elusennau.

Bydd angen i chi lenwi:

  • ffurflen gais
  • disgrifiad manwl o'r modd y byddwch yn mynd ati i redeg eich elusen – y ddogfen lywodraethu
  • datganiad wedi'i lofnodi gan yr ymddiriedolwyr

Paratoi dogfen lywodraethu

Dogfen sy'n amlinellu sut y bydd yr elusen yn gweithredu yw'r 'ddogfen lywodraethu', ac fe'i defnyddir drwy gydol oes y sefydliad.

Mae angen i'r ddogfen lywodraethu gynnwys y manylion hyn:

  • beth yw bwriad yr elusen - pam yr ydych am ei sefydlu
  • sut bwriedir iddi weithio
  • beth sy'n digwydd os oes angen gwneud newidiadau i'r ddogfen
  • beth sy'n digwydd os yw'r elusen yn dod i ben
  • pwy fydd yr ymddiriedolwyr a sut y byddant yn rhedeg yr elusen
  • trefniadau mewnol ar gyfer cyfarfodydd, pleidleisio, gofalu am arian ayb

Mae'r Comisiwn Elusennau yn darparu dogfennau llywodraethu enghreifftiol ar ei wefan - gallwch ddefnyddio'r rhain i sefydlu'ch elusen. Os defnyddiwch ddogfen lywodraethu enghreifftiol bydd hyn yn eich galluogi i wneud eich cais yn gynt.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith y derbynnir eich cais cewch ymateb o fewn 15 diwrnod. Mewn rhai achosion bydd angen mwy o wybodaeth cyn y gellir gwneud penderfyniad terfynol.

Os nad yw'ch cais wedi bod yn llwyddiannus, bydd y llythyr yn nodi pam hynny, a gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Os oedd eich cais yn llwyddiannus, bydd manylion yr elusen newydd yn cael eu hychwanegu at y gofrestr gyhoeddus o elusennau.

Cedwir manylion am bob elusen gofrestredig, gan gynnwys eu cyfrifon ac enwau eu hymddiriedolwyr, ar gofrestr gyhoeddus y gellir ei gweld ar-lein.

Allweddumynediad llywodraeth y DU