Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod yn wirfoddolwr

Gellir cael llawer o foddhad o wirfoddoli a bydd yn eich helpu i roi 'rhywbeth yn ôl' i'ch cymuned. Gall gwirfoddolwyr ddewis o blith miloedd o wahanol gyfleoedd; o helpu ar fferm ddinas leol i ddod yn arweinydd seminar gydag elusen addysg fusnes.

Sut y gallwch elwa o wirfoddoli

Pan fyddwch yn wirfoddolwr byddwch yn rhoi eich amser i helpu elusennau a grwpiau cymunedol i wella bywydau, ond gall gwirfoddoli gynnig nifer o fuddion i chi, gan gynnwys:

  • y cyfle i gael hwyl yn gwneud rhywbeth nad ydych erioed wedi ei wneud o'r blaen
  • cynyddu'ch hyder
  • ymdeimlad o foddhad a'ch bod wedi cyflawni rhywbeth
  • y cyfle i wneud cysylltiadau a ffrindiau newydd o gefndiroedd amrywiol sydd â phrofiadau gwahanol
  • gwella'ch rhagolygon am swydd a gyrfa a sgiliau newydd – byddai dros 70% o gyflogwyr yn cyflogi ymgeisydd sydd â phrofiad o wirfoddoli cyn rhywun nad yw erioed wedi gwirfoddoli

Dod yn wirfoddolwr

Gallwch wirfoddoli mewn sawl ffordd, yn dibynnu ar faint o amser rhydd sydd gennych. Mae mudiadau amrywiol yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli amser llawn, rhan-amser a chyda'r nos.

Dyma enghreifftiau o rai o'r ffyrdd y gallwch wirfoddoli:

  • gofalu am anifeiliaid a bywyd gwyllt
  • sefydlu cynllun gwirfoddoli yn eich gweithle
  • treulio amser yn mentora unigolyn ifanc neu ffoadur a bod yn ffrind iddo
  • gweithio yn yr awyr agored i wella'r amgylchedd
  • gweithio ar brosiectau cymunedol lleol
  • bod yn llywodraethwr ysgol neu'n llywodraethwr coleg

Cyfyngiadau oedran

Gallwch wirfoddoli beth bynnag yw'ch oedran, ac yn wir, gallai eich oedran eich gwneud yn fwy addas ar gyfer rhai mathau o wirfoddoli. Ond, mae'n bosibl na fydd rhai mudiadau yn derbyn gwirfoddolwyr iau nag 16 gan na allant eu hyswirio. I gael gwybod mwy am wirfoddoli i bobl ifanc, dilynwch y ddolen isod.

Os ydych chi'n hŷn, mae Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol yn rhedeg Rhaglen Wirfoddoli'r Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hŷn ar gyfer pobl dros hanner cant. I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen isod.

Hawlio budd-daliadau wrth wirfoddoli

Mae'r rheoliadau budd-daliadau yn datgan yn ddigon clir na fydd gwirfoddoli yn effeithio ar eich budd-daliadau, cyn belled â'ch bod yn cydymffurfio ag amodau eich budd-dal penodol. Fodd bynnag, os byddwch chi'n dechrau gwirfoddoli, dylech roi gwybod i'ch swyddfa budd-daliadau. I weld rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt, darllenwch 'Hawlio budd-daliadau wrth wirfoddoli'.

Sut i ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli

Yn gyntaf, penderfynwch faint o amser sydd gennych i'w roi ac ym mha faes yr hoffech wirfoddoli eich sgiliau. Mae rhai elusennau yn hyblyg ynghylch pryd y gallwch weithio iddynt, ond bydd eraill eisiau i chi ymrwymo i ddiwrnod rheolaidd.

Y cam nesaf yw dod o hyd i fudiad a chyfle gwirfoddoli sy'n addas i chi. Mae sawl ffordd o wneud hyn – i gael mwy o wybodaeth, darllenwch yr erthygl 'Dod o hyd i gyfle i wirfoddoli' drwy ddilyn y ddolen isod.

Cyn dechrau

Ar ôl dod o hyd i fudiad, mae'n fuddiol mynd i gwrdd â nhw am sgwrs anffurfiol ac i gael gwybod mwy am beth yr hoffech ei wneud. Mae hyn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau am y cyfle gwirfoddoli, i weld ble byddech yn gweithio ac i gwrdd â rhai o'r bobl y byddwch efallai'n gweithio gyda nhw.

Efallai yr hoffech holi am y pwyntiau canlynol:

  • beth mae'r rôl yn ei olygu
  • a gewch unrhyw gostau treuliau i helpu i dalu am eich costau teithio a bwyd
  • pa hyfforddiant a gynigir i'ch helpu i wneud y gwaith
  • a allwch ennill unrhyw gymwysterau wrth wirfoddoli
  • a fydd gennych oruchwyliwr neu fentor y gallwch siarad â nhw os bydd gennych gwestiynau neu bryderon

Hawliau cyflogaeth

Mae'n bwysig gwybod beth yw'ch hawliau fel gwirfoddolwr, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch.

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau tra byddwch yn gwirfoddoli darllenwch 'Eich hawliau cyflogaeth fel gwirfoddolwr' sydd ar gael ar y ddolen isod.

Additional links

Muck In4Life

O glirio pyllau i blannu coed – gallwch ddod o hyd i brosiectau gwirfoddoli cadwraeth i’r teulu i gyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU