Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gyda'r math hwn o wirfoddoli, bydd gweithiwr yn gwirfoddoli gyda chefnogaeth y cyflogwr, naill ai yn ystod oriau gwaith neu y tu allan iddynt.
Mae llawer o'r farn bod gweithwyr yn gwirfoddoli yn fanteisiol gan ei fod yn aml iawn yn golygu bod pobl yn gweithio gyda'i gilydd fel tîm - gan loywi eu sgiliau adeiladu tîm a chael profiad gwerthfawr iawn. Mae hefyd yn ffordd dda o estyn cymorth i'ch cymuned leol.
Yn 2001, yng Nghymru a Lloegr, gwirfoddolodd saith y cant o'r boblogaeth gyda chynlluniau a gefnogwyd gan gyflogwyr.
Os ydych chi'n ystyried sefydlu cynllun lle mae gweithwyr yn gwirfoddoli bydd angen i chi benderfynu beth rydych chi eisiau ei wneud a sut fyddech chi'n hoffi cymryd rhan.
Sialensiau tîm
Gellir disgrifio 'sialens' fel tasg ymarferol sy'n helpu sefydliad cymunedol lleol. Gallai sialens o'r fath gynnwys paentio neuadd, clirio afon neu greu cae chwarae i blant.
Aseiniadau secondiad a datblygiad
Lleoliadau cyfnod byr mewn sefydliadau cymunedol ar gyfer unigolion a thimau yw'r rhain. Mae gan bob un o'r prosiectau ffocws amlwg ac fe allant fod o fudd i chi drwy wella'ch sgiliau adeiladu tîm a sgiliau y gellir eu defnyddio yn y gweithle.
Rhith Wirfoddoli
Mae hyn eisoes wedi'i sefydlu yn UDA - mae gwirfoddolwyr yn gweithio wrth eu desg ar ran grwpiau yn y DU, grwpiau o dramor a grwpiau ar y we. Dyma ambell enghraifft:
Mae rhith wirfoddoli yn ddefnyddiol os yw amser yn brin oherwydd gallwch gadw mewn cysylltiad drwy e-bost neu dros y ffôn.
Bod yn aelod o fwrdd, gan gynnwys llywodraethwr ysgol
Gall gwirfoddolwyr gynnig sgiliau proffesiynol neu sgiliau rheoli i fwrdd ysgol neu weithio gyda phwyllgor rheoli mewn sefydliad gwirfoddol neu gyhoeddus. Mae'r sgiliau y gellir eu meithrin yn cynnwys:
Gallwch ymweld â thudalennau ynghylch gwirfoddoli gyda chefnogaeth cyflogwyr ar wefan Volunteering England i gael gwybod mwy am wirfoddoli ar gyfer gweithwyr gan gynnwys: