Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Does gan y rhan fwyaf o wirfoddolwyr ddim contract cyflogaeth ac felly does ganddyn nhw mo'r hawliau sydd gan gyflogai neu weithiwr/wraig cyffredin. Mae'r rhain yn cynnwys yr hawl i isafswm cyflog, tâl gwyliau a salwch, a hawliau statudol eraill.
Os byddwch chi'n gwirfoddoli, fel arfer, bydd eich cytundeb gwirfoddoli'n esbonio hyn. Gan amlaf, bydd y cytundeb hwn yn rhan o set o ddogfennau, sy'n cynnwys polisi gwirfoddoli ac amlinelliad o'r gwaith gwirfoddol a wneir. Bydd hyn yn debyg i ddisgrifiad swydd.
Dylai'r cytundeb gwirfoddoli esbonio:
Oedran ieuengaf
Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yn rhoi gwaith gwirfoddol i blant, ar yr amod bod yswiriant y mudiad yn eu gwarchod.
Fodd bynnag, er mwyn gwarchod plant rhag cael eu hecsbloetio, mae'r gyfraith yn cyfyngu ar yr hyn y gall plant dan oedran-gadael-yr-ysgol ei wneud (mae rhywun dan oedran-gadael-yr-ysgol tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fydd yn troi 16). Er enghraifft, os ydych chi dan 14 oed, yna, chewch chi ddim gweithio i sefydliad sy'n gwneud elw (mae hyn yn wir pa un a ydych chi'n cael eich talu ai peidio).
Iechyd a diogelwch
Dan y gyfraith iechyd a diogelwch, os bydd corff yn talu un cyflogai, yna, mae'n gorff sy'n cyflogi pobl. Os byddwch chi'n gwirfoddoli i gorff sy'n cyflogi, rhaid i'r corff hwnnw asesu unrhyw risg i'ch iechyd a'ch diogelwch a chymryd camau i liniaru'r risg - yn union fel petaech chi'n gyflogai sy'n derbyn tâl.
Os yw'r risgiau iechyd a diogelwch i wirfoddolwyr yn wahanol i'r risgiau i gyflogeion, yna dylai'r warchodaeth a gewch chi adlewyrchu
Fel arfer, bydd gwirfoddolwyr wedi'u heithrio rhag trefniadau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a dim ond treuliau sylfaenol gewch chi ar gyfer eich gwaith. Ni fydd treuliau'n cyfrif fel cyflog, gan mai'r bwriad yw ad-dalu i chi arian na fyddech chi wedi gorfod ei wario oni bai eich bod yn gwneud gwaith gwirfoddol. Fel arfer bydd treuliau'n cael eu cyfyngu i arian am deithio a bwyd/diod yn ogystal ag ar gyfer ad-dalu i chi'r arian rydych chi wedi'i wario (neu y byddwch yn ei wario) ar bethau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwaith
Os byddwch yn derbyn unrhyw fuddiannau yn lle arian, mae'r rhain yn debygol o fod wedi'u cyfyngu i'r hyn sydd ei angen arnoch wrth i chi weithio megis bwyd a diod, ac os ydych chi'n gweithio oddi cartref, llety. Hefyd, o bosib, fe ddarperir hyfforddiant ar gyfer eich gwaith.
Os byddwch chi'n derbyn unrhyw dâl neu fudd arall yn lle arian am wirfoddoli, fe all hyn olygu eich bod mewn gwirionedd yn cael eich ystyried yn 'gyflogai' neu'n 'weithiwr/wraig'. Mae ystyr penodol i'r categorïau hyn ac mae hawliau cyflogaeth penodol yn gysylltiedig â nhw - mae'r erthygl am statws cyflogaeth yn esbonio mwy am hyn.
Enghreifftiau o fuddiannau a allai olygu eich bod yn cael eich ystyried yn 'weithiwr/wraig' yw:
Diogelu data
Mae gan wirfoddolwyr yr un hawliau dan y Ddeddf Diogelu Data ag sydd gan gyflogeion. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r mudiad lle rydych chi'n gwirfoddoli gydymffurfio â'r rheolau ynglŷn â chadw data personol amdanoch ar gyfrifiadur neu mewn ffeiliau papur. Chân nhw ddim prosesu unrhyw ddata fel hyn heb eich caniatâd.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein
Does dim darpariaeth arbennig dan gyfraith mewnfudo'r DU i bobl o'r tu allan i Ardal Economaidd Ewrop ddod i'r DU i wneud gwaith gwirfoddol. Fodd bynnag, er mwyn cefnogi gwaith elusennol a hwyluso pethau i bobl ifanc symud o gwmpas, mae'r llywodraeth yn rhoi goddefiad ar waith. Rhaid cadw at reolau caeth i fod yn gymwys ar gyfer hyn.