Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwirfoddoli i weithio gydag anifeiliaid

Gellir cael llawer o foddhad o weithio gydag anifeiliaid a gall ddarparu meysydd diddordeb newydd. Mae'r cyfleoedd gwirfoddoli yn amrywiol; o helpu mewn canolfan farchogaeth leol i gyfrif sawl llyffant sy'n byw yn eich gardd.

Yr hyn y gallwch ei wneud

Gall gwirfoddoli i weithio gydag anifeiliaid fod yn hobi neu gall roi'r hyder a'r sgiliau ichi a fydd yn eich helpu i newid gyrfa. Mae’r cyfleoedd yn cynnwys:

  • mynd â chŵn am dro a dyletswyddau mewn cynel
  • gofalu am anifeiliaid sydd wedi brifo
  • gweithio ar ffermydd cymunedol lleol
  • monitro bywyd gwyllt lleol
  • gweithio gyda chathod crwydr a chathod sydd wedi mynd yn wyllt
  • cynorthwyo yn y sŵ leol

Meddyliwch am faint o ymrwymiad y byddwch yn fodlon ei roi. Gall y gwaith o ofalu am anifeiliaid fod yn waith caled a chorfforol ac efallai y bydd angen rhywfaint o hyfforddiant arnoch. Er enghraifft, os hoffech weithio fel gwirfoddolwr mewn canolfan achub bywyd gwyllt dylech allu adnabod symptomau anifeiliaid gwael a gofyn am gymorth arbenigol. Ni fydd y rhan fwyaf o ganolfannau achub anifeiliaid yn disgwyl ichi fod yn arbenigwr ar anifeiliaid, ond bydd awydd i ddysgu a chariad at anifeiliaid wastad o gymorth i chi.

Gallwch hefyd wirfoddoli am swyddi nad ydynt yn ymwneud ag anifeiliaid gydag elusen anifeiliaid neu fywyd gwyllt. Er enghraifft, mae llawer o elusennau'n chwilio am gymorth i i drefnu digwyddiadau neu ar gyfer tynnu lluniau a chodi arian.

I gael gwybod am syniadau gwirfoddoli, cysylltwch â'r elusen o'ch dewis neu ewch i Do-it, y gronfa ddata genedlaethol o gyfleoedd gwirfoddoli yn y DU.

Astudiaethau achos

Un o'r ffyrdd gorau o gael gwybod am wirfoddoli yw darllen astudiaethau achos gan bobl sydd eisoes yn gwirfoddoli.

Amddiffyn cathod

Ar ôl dod o hyd i gath grwydr yn eu gardd, daeth Jo a Julian yn gysylltiedig â changen Gogledd Swydd Hertford o Cats Protecion. Datblygwyd gwefan ganddynt, sy'n darparu lluniau a gwybodaeth sy'n helpu i ailgartrefu cathod.

Meddai Jo: "Gall dod o hyd i amser i wirfoddoli fod yn ystyriaeth fawr i lawer o bobl, a does gen i fawr o amser sbâr rhwng rhedeg busnes a gwirfoddoli. Ond credaf y gallai llawer o bobl ddod o hyd i awr neu ddwy yr wythnos, gan fod nifer o wahanol fathau o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael."

Cerdded cŵn

Dechreuodd Alison wirfoddoli yng Nghartref Cŵn a Chathod Battersea ar ôl i'w hefaill Margaret farw y llynedd o ganser y fron. Dywed fod gwirfoddoli wedi ei helpu i ymdopi ar ôl marwolaeth Margaret, ac wedi ei helpu i wella o'r iselder yr achosodd hynny.

"Rydw i'n teimlo'n llawer gwell ar ôl bod gyda'r cŵn - mae'n anodd bod yn ddigalon o'u cwmpas. Ac mae cerdded gyda chi yn ymarfer da hefyd - sydd yn helpu'r iselder yn ogystal," meddai.

Mae Alison yn gwirfoddoli ddwy waith yr wythnos yn Battersea, ac mae hyn wedi ei harwain i wirfoddoli i fudiadau eraill, yn ogystal â gweithio'n rhan amser. Er bod gweithio gyda'r anifeiliaid wedi bod yn fuddiol iawn iddi, mae'r ffaith ei bod yn cymysgu gyda phobl eraill yn Battersea wedi ei helpu i wella hefyd.

Additional links

Muck In4Life

O glirio pyllau i blannu coed – gallwch ddod o hyd i brosiectau gwirfoddoli cadwraeth i’r teulu i gyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU