Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae sawl mudiad yn darparu cŵn cymorth neu gynorthwyo i bobl ag anableddau. Hyfforddir rhai cŵn i helpu gyda thasgau penodol.
Nid yw cŵn cynorthwyo yn addas i bawb. Rhaid i chi benderfynu a fyddai ci cynorthwyo yn addas i chi gan ystyried eich amgylchiadau unigol.
Mae angen edrych ar ôl cŵn cynorthwyo, gan eu cadw'n daclus, eu bwydo, gadael iddynt gael ymarfer corff a'u cymryd at y milfeddyg, yn union fel unrhyw gi arall.
Fodd bynnag, mae cŵn cynorthwyo wedi dod â llawer o annibyniaeth a hyder, yn ogystal â chwmpeini, i fywydau nifer o bobl.
Mae Cymdeithas Cŵn Tywys i Bobl Ddall yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i bobl sy'n ddifrifol wan eu golwg a fyddai'n hoffi cael ci tywys.
Er mwyn dod yn berchen ar gi tywys, rhaid i chi fod dros 16 oed, yn byw yn y DU ac yn ddifrifol wan eich golwg, a all fod law yn llaw ag anableddau eraill. Rhaid i chi fod yn ddigon iach i ddefnyddio'r ci a gofalu amdano hefyd.
Mae Cŵn Clyw ar gyfer Pobl Fyddar yn hyfforddi cŵn i roi gwybod i bobl fyddar am synau nad ydynt yn gallu'u clywed megis cloc larwm, babi'n crio, larymau mwg a llawer o bethau eraill.
I ddod yn berchen ar gi clyw, rhaid i chi fod yn ddifrifol wan eich clyw neu'n hollol fyddar, a rhaid i chi fod dros 18 mlwydd oed. Rhaid i chi hefyd allu gofalu am y ci.
Mae rhai elusennau'n hyfforddi cŵn i helpu a chynorthwyo perchnogion anabl gydag anabledd penodol.
Gellir hyfforddi cŵn cymorth i rai ag anabledd i wneud llawer o bethau. Mae enghreifftiau yn cynnwys
Gellir hyfforddi ci hefyd mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, rhybuddio'r perchennog ei fod ar fin cael ffit epileptig.
Cŵn sy'n cynorthwyo gydag awtistiaeth
Gellir paru cŵn sy'n cynorthwyo gydag awtistiaeth â phlant awtistig a'u teuluoedd.
Mae ci sy'n cynorthwyo gydag awtistiaeth yn gweithio fel tywysydd ac angor i'r plentyn, ac yn ganolbwynt cyson iddo. Gall hyn fod yn galonogol i'r plentyn, gan ei dawelu, sy'n galluogi plant awtistig i wneud gwell synnwyr o'r byd o'u cwmpas, ac ymateb i'r byd hwnnw.