Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cynlluniau talebau, prynu neu logi cadair olwyn

Gallwch ariannu neu rannol ariannu cadair olwyn â llaw gan ddefnyddio cynllun talebau, neu gallwch gysylltu â mudiad gwirfoddol neu'r Cynllun Motability sy'n rhoi cyfle i bobl anabl brynu neu logi cadeiriau olwyn â phŵer am bris fforddiadwy.

Cynlluniau talebau

Pwrpas cynlluniau talebau yw gwella'r dewis o gadeiriau olwyn sydd ar gael i chi. Bydd gwasanaethau'n penderfynu'n lleol ynghylch cael cynllun ai peidio, a sut y gweithredir y cynllun hwnnw.

Gyda gwasanaethau sy'n darparu'r cynllun, pan fyddwch yn mynd i glinig ar gyfer cael asesiad o ran cael cadair olwyn, mae'n bosibl y bydd gennych dri opsiwn:

Opsiwn safonol

Byddwch yn cael cadair olwyn am ddim a bydd yn cael ei thrwsio a'i chynnal a'i chadw am ddim.

Opsiwn partneriaeth

Rydych yn dewis cadair olwyn o fath gwahanol i'r un yr aseswyd bod ei hangen arnoch. Fel hyn byddwch yn gallu prynu cadair olwyn o safon uwch na'r math a ddarperir gan Wasanaeth Cadeiriau Olwyn y GIG. Mae'r daleb yn adlewyrchu cost y gadair olwyn a argymhellwyd yn y lle cyntaf, ac rydych chithau wedyn yn talu'r gwahaniaeth yn y gost.

Bydd y gadair olwyn yn cael ei thrwsio a'i chynnal a'i chadw am ddim.

Bydd rhaid ichi ddewis cadair olwyn drwy 'gyflenwr cymeradwy' a fydd yn gorfod bodloni rhai safonau penodol gan gynnwys ansawdd y gwasanaeth.

Opsiwn annibynnol

Mae'r opsiwn hwn yn debyg i'r opsiwn partneriaeth ond chi sy'n berchen ar y gadair olwyn ac yn gyfrifol am ei thrwsio a'i chynnal a'i chadw. Fodd bynnag, bydd y daleb a gewch yn cynnwys swm tuag at amcan gostau trwsio a chynnal a chadw'r gadair dros bum mlynedd.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Pum mlynedd yw cyfnod y daleb fel arfer ac ni fydd gennych hawl i daleb newydd fel arfer tan i'r cyfnod hwn ddod i ben. Ond, os bydd eich anghenion yn newid - gan wneud eich cadair olwyn yn anaddas - byddwch yn gymwys i gael eich anghenion wedi'u hailasesu.

Allwch chi ddim cyfnewid y daleb am arian. Hefyd, os byddwch yn prynu cadair olwyn yn breifat oddi wrth gwmni masnachol neu unigolyn, allwch chi ddim hawlio'r arian yn ôl gan Wasanaeth Cadeiriau Olwyn y GIG.

Nid yw'r daleb yn drethadwy ac felly ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau anabledd yr ydych yn eu cael.

Ffyrdd eraill o gael cadair olwyn

Y Cynllun Motability

Mae'r Cynllun Motability - a redir gan y mudiad annibynnol di-elw Motability - yn rhoi cyfle i bobl anabl brynu neu logi cadeiriau olwyn neu sgwteri â phŵer am bris fforddiadwy.

Mae’r wefan yn cynnwys cyngor a gwybodaeth drylwyr.

Elusennau a mudiadau eraill

Os nad ydych yn gymwys i gael cadair olwyn gan y GIG, neu os dewiswch brynu/llogi cadair olwyn eich hun, bydd gennych sawl opsiwn. Efallai y cewch eich cyfeirio at fudiad gwirfoddol neu elusen megis y Groes Goch ym Mhrydain sy'n aml yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cadair Olwyn y GIG.

Mae rhai elusennau a mudiadau, megis Whizz-Kidz a Chymdeithas Plant mewn Cadeiriau Olwyn, yn darparu hyfforddiant sgiliau cadair olwyn.

Cyflogaeth - rhaglen Mynediad at Waith

Mae Mynediad at Waith yn rhoi cefnogaeth a chyngor ymarferol i bobl anabl a’u cyflogwyr fel eich bod yn cael y cymorth angenrheidiol i allu gweithio. Gall hyn gynnwys cyfarpar megis cadeiriau olwyn.

Cwmnïau masnachol

Mae sawl cwmni'n llogi ac yn gwerthu cynnyrch symudedd - yn aml gyda rhywun yn dod i'ch cartref i ddangos y cynnyrch i chi. Gellir dod o hyd i'r rhain drwy chwilio ar-lein, mewn cylchgronau anabledd neu yn y llyfr ffôn.

Gostyngiad TAW wrth brynu neu logi cadair olwyn

Mae gostyngiad TAW ('cyfradd sero') ar gynnyrch a gwasanaethau i bobl anabl yn cynnwys cadeiriau olwyn a sgwteri.

Cyngor annibynnol

Os penderfynwch brynu eich cadair olwyn eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael rhywfaint o gyngor ymlaen llaw. Cymerwch eich amser i edrych o gwmpas a rhoi cynnig ar wahanol fodelau - drwy wneud hyn gallwch wneud yn siŵr eich bod yn cael cadair olwyn yr ydych yn teimlo'n gyfforddus â hi.

Mae RADAR a'r Sefydliad Byw gydag Anabledd wedi cyhoeddi cyngor defnyddiol iawn, a gallwch lwytho hwn o'u gwefan.

Allweddumynediad llywodraeth y DU