Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Defnyddio sgwter symudedd neu gadair olwyn â phŵer

Rhaid i chi gydymffurfio â Rheolau'r Ffordd Fawr boed hynny ar lwybr troed neu ar briffordd. Mae dilyn awgrymiadau diogelwch a chadw’ch sgwter mewn cyflwr da yn bwyntiau pwysig hefyd.

Hyfforddiant

Os ydych yn defnyddio cerbyd modur am y tro cyntaf, neu os oes cyfnod hir wedi mynd heibio ers i chi yrru ar y ffordd, dylech gael ychydig o hyfforddiant. I gael manylion am gyrsiau, cysylltwch â’ch Canolfan Byw’n Anabl leol, neu Uned Diogelwch Ffordd eich cyngor lleol.

Rheolau ac awgrymiadau diogelwch

Rhaid i chi ddilyn Rheolau'r Ffordd Fawr. Dylech fwrw golwg ar argraffiad diweddar o Reolau’r Ffordd Fawr ac ymgyfarwyddo â'r arwyddion a’r goleuadau traffig amrywiol y gallech ddod ar eu traws wrth yrru.

Nid oes gofynion cyfreithiol o ran golwg, ond dylech allu darllen rhif cofrestru car o bellter o 12.3 metr (40 troedfedd). Rhaid i chi fonitro’ch gallu i wneud hyn yn rheolaidd pan fyddwch yn defnyddio cerbyd dosbarth 3.

Ni ddylid defnyddio corn y cerbyd rhwng 11.30 pm a 7.00 am nac ychwaith pan na fydd y cerbyd yn symud, oni bai bod cerbyd arall symudol yn berygl i chi. Dim ond i rybuddio defnyddwyr eraill y ffordd eich bod yno y dylech ddefnyddio’r corn – peidiwch â’i ddefnyddio fel cyfarchiad neu i gyfleu dicter.

Os oes gan y cerbyd felt glin wedi’i osod, defnyddiwch ef bob amser – hyd yn oed ar gyfer siwrneiau byr.

Dylech wisgo dillad llachar yn ystod y dydd a rhywbeth adlewyrchol yn y nos. Bydd hyn yn helpu eraill i’ch gweld. Peidiwch â gwisgo dillad tywyll yn y nos.

Cynlluniwch eich siwrneiau yn ofalus. Gallai hyn eich helpu chi i osgoi cylchfannau mawr neu ffyrdd prysur. Os bydd y sefyllfa ar y ffordd yn mynd yn rhy anodd, gallwch newid at osodiad y llwybr troed a mynd ar y palmant.

Ar lwybrau troed

Rhowch ystyriaeth i gerddwyr ac ildiwch le iddynt.

Er bod gan gerbyd dosbarth 3 hawl cyfreithiol i deithio ar gyflymder o 4 milltir yr awr (mya) ar lwybrau troed ac mewn ardaloedd i gerddwyr, nid ydyw'n ddiogel bob amser i deithio ar y cyflymder hwn. Addaswch eich cyflymder yn ôl yr amgylchiadau.

Gallwch gymryd mantais o’r croesfannau pelican a’r croesfannau sebra pan fyddwch yn mynd ar gyflymder o 4mya er mwyn croesi o un llwybr troed i'r llall.

Pan fyddwch yn symud oddi ar y llwybr troed i’r ffordd, byddwch yn arbennig o ofalus. Cyn dechrau symud, dylech edrych o'ch cwmpas i sicrhau ei bod hi’n ddiogel i chi ymuno â llif y traffig. Byddwch yn wyliadwrus am feicwyr yn enwedig.

Ar y ffordd

Pan fyddwch ar y ffordd, gyrrwch gyda gofal a sylw priodol, gan deithio gyda llif y traffig bob amser, a chan ufuddhau i arwyddion a goleuadau traffig. Ildiwch i gerddwyr sy’n croesi wrth gyffyrdd neu ar groesfannau cerddwyr.

Chwiliwch am rwystrau ar y ffordd o’ch blaen, megis draeniau, tyllau a cheir wedi'u parcio. Wrth basio ceir sydd wedi’u parcio, byddwch yn wyliadwrus am ddrysau'n cael eu hagor ar draws eich llwybr, neu’r cerbyd yn dechrau symud heb roi arwydd.

Cadwch mewn cof na fydd gyrwyr eraill efallai yn gallu eich gweld yn hawdd. Fel gyrrwr cerbyd dosbarth 3, rydych mewn sefyllfa fregus yn debyg iawn i feicwyr, yn enwedig ar gylchfannau a chyffyrdd.

Cyffyrdd a chylchfannau

Cymerwch ofal arbennig wrth gyffyrdd. Pan fyddwch yn mynd yn syth ymlaen wrth gyffordd, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw gerbydau ar fin croesi’ch llwybr.

Os bydd symud i ganol y ffordd yn anodd neu’n beryglus pan fyddwch yn troi i’r dde, gallwch stopio ar ochr chwith y ffordd ac aros am fwlch diogel yn llif y traffig. Gallwch hefyd gymryd y tro fel cerddwr drwy newid gosodiad y cerbyd i osodiad y palmant a theithio rhwng llwybrau troed.

Pan fyddwch yn mynd ar gylchfannau mawr, gall fod yn fwy diogel i aros yn y lôn chwith, hyd yn oed pan fyddwch yn mynd yn eich blaen, gan ystyried pob allanfa y byddwch yn ei chroesi fel cyffordd. Neu, gall fod yn fwy diogel i newid y gosodiad i osodiad llwybr cerddwyr a defnyddio'r llwybr troed neu ddod o hyd i ffordd sy’n osgoi’r gylchfan.

Parcio

Mae pob cyfyngiad parcio arferol yn berthnasol.

Ni ddylai’ch cerbyd gael ei adael ar lwybr troed heb neb yn cadw llygad arno os bydd yn rhwystr i gerddwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys cadeiriau olwyn a phobl sy’n gwthio pramiau.

Mae consesiynau parcio sy’n cael eu darparu dan y Cynllun Bathodyn Glas yn berthnasol i gerbydau dosbarth 3 sy'n arddangos bathodyn dilys.

Cadw’ch cerbyd yn addas ar gyfer y ffordd

Mae’n hanfodol eich bod yn cadw'ch cerbyd mewn cyflwr gweithio da yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr. Dylai’ch cerbyd gael archwiliad diogelwch trylwyr o leiaf unwaith y flwyddyn.

Os oes gan eich cerbyd fatri, sicrhewch ei fod yn cael ei gadw mewn cyflwr da. Cadwch y cyfarpar goleuo yn lân ac mewn cyflwr gweithio da. Dylai ffenestri, y ffenestr flaen a drychau fod yn lân hefyd ac yn glir o unrhyw rwystrau er mwyn gallu gweld yn glir i bob cyfeiriad.

Dylai darparwyr cerbydau allu ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych ynghylch cynnal a chadw modelau arbennig o gerbydau dosbarth 3.

Allweddumynediad llywodraeth y DU