Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall bod yn berchen ar y cyfarpar a'r cymhorthion priodol fod yn bwysig er mwyn byw'n annibynnol. Efallai y bydd rhai'n gysylltiedig ag angen penodol o ran iechyd, ac eraill i'ch cefnogi o ddydd i ddydd gyda thasgau penodol.
Gall eich meddyg lleol roi rhai eitemau i chi ar bresgripsiwn o restr gymeradwy. Gall y nyrs ardal ddarparu rhai eitemau; fel arfer, bydd asesiad ac argymhelliad gan nyrs neu therapydd yn ofynnol ar gyfer hyn. Mae'r eitemau'n cynnwys:
Dyma gyfarpar iechyd eraill sydd ar gael:
Gall eich meddyg hefyd eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol ar gyfer mathau eraill o gyfarpar iechyd. Gallwch gysylltu â'r gwasanaethau arbenigol hyn yn uniongyrchol hefyd.
Adrannau gwasanaethau cymdeithasol fel arfer sy'n darparu cyfarpar er mwyn i chi allu ymdopi'n well gartref, a hynny ar ôl asesiad gan therapydd galwedigaethol.
Gall y cyfarpar helpu gyda'r gwaith o baratoi bwyd neu ymdopi â gofal personol. Gall teclyn i dywallt dŵr o'r tegell neu declyn i droi'r tapiau helpu yn y gegin. Gellir cael cyfarpar i godi uchder seddi a gwelyau er mwyn ei gwneud yn haws codi ohonynt. Gall sedd yn y baddon, sedd uwch ar y toiled neu hoistiau helpu yn y stafell ymolchi.
Gellir gwneud addasiadau i'ch cartref, megis gosod canllawiau, newid safle switshis golau neu socedi neu gael systemau mynediad trwy ddrysau.
Cysylltwch â'ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol. Ceir eu manylion yn eich llyfr ffôn neu ar-lein.
Does dim rhaid i bobl anabl dalu TAW pan fyddan nhw'n prynu cyfarpar sydd wedi'i gynllunio ar gyfer eu defnydd hwy yn unig, neu pan fyddan nhw'n cael addasu cyfarpar ar eu cyfer.
Mae'r eitemau y gallwch eu prynu heb dalu TAW arnynt yn cynnwys teclynnau meddygol, aelodau artiffisial, cadeiriau olwyn a dillad arbenigol.
Mae'n bosibl cael gostyngiad TAW hefyd ar gost cynnal a chadw a gwasanaethu rhai eitemau (cadeiriau olwyn, er enghraifft).
Yn ôl cyfraith TAW, rhaid i declyn fod wedi'i gynllunio'n gyfan gwbl 'er mwyn lliniaru abnormalrwydd difrifol neu anaf difrifol' i fod yn gymwys i gael gostyngiad TAW. Gellir ei ddefnyddio y tu mewn i'r corff (megis aelod artiffisial, er enghraifft) neu y tu allan i'r corff.
Mae'r canolfannau hyn yn anelu at roi mwy o gyfleoedd i bobl fyw'n annibynnol. Maent yn rhoi cyfle i bobl anabl weld a rhoi cynnig ar gynnyrch amrywiol er mwyn dod o hyd i'r rhai sy'n addas ar gyfer eu hanghenion hwy.
Maent hefyd yn cynnig cyngor annibynnol a di-dâl ynghylch beth sydd ar gael, y gost ac o ble y gellir cael gafael arnynt. Mae llawer o ganolfannau hefyd yn trefnu hyfforddiant ar nifer o destunau o ddiddordeb i bobl anabl, gofalwyr a phobl broffesiynol. Rhaid talu am hyn fel arfer.
Gall Assist UK, sy'n arwain rhwydwaith o Ganolfannau ar gyfer Byw gydag Anabledd ar draws y DU, roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich canolfan agosaf. Mae gan wefan Assist UK wasanaeth chwilio ar-lein, neu gallwch eu ffonio neu ddefnyddio ffôn testun i gysylltu â nhw.
Rhif ffôn: 0870 770 2866
Ffôn testun: 0870 770 5813