Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Addasu eich cartref

Os oes angen gwneud gwelliannau neu addasiadau i'ch cartref er mwyn eich helpu i barhau i fyw'n annibynnol yno, gallwch ofyn i adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol i asesu'ch cartref.

Asesiadau

Fel arfer, bydd therapydd galwedigaethol yn asesu pa addasiadau fydd yn diwallu eich anghenion orau. Os ydynt yn cytuno bod angen gwneud addasiadau i'ch cartref, byddwch yn cael Grant Cyfleusterau i'r Anabl.

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

Mae'n rhaid i gynghorau lleol roi Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl i ymgeiswyr cymwys i wneud tai yn addas ar gyfer pobl anabl. Efallai y bydd disgwyl i chi dalu rhywfaint o'r costau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gael i berchnogion a thenantiaid yn y sector tai preifat a chymdeithasol a hynny hyd at derfyn o £30,000.

Cymorth ychwanegol a all fod ar gael

Weithiau, bydd cynghorau lleol yn darparu cymorth megis benthyciadau cost isel yn ogystal â grantiau i berchnogion tai preifat ac eraill i helpu i adnewyddu, atgyweirio neu addasu eu cartrefi.

Gallant hefyd ddarparu mathau eraill o gymorth, er enghraifft helpu rhywun i symud i le mwy addas, petai hyn yn rhoi'r un math o fudd ag y ceid o wella neu addasu'r eiddo presennol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Adran Tai neu Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor lleol.

Gostyngiad TAW

Does dim rhaid i bobl anabl dalu TAW ar gost peth o'r gwaith adeiladu sy'n gysylltiedig ag addasu'u cartrefi. Os gellir cael gostyngiad TAW ar gyfer addasiad penodol, does dim rhaid talu TAW ychwaith ar y gwaith a wneir i baratoi ar gyfer yr addasiad nac ar y gwaith a wneir i dacluso wedyn.

Gostyngiad yn eich Treth Cyngor

Os byddwch yn addasu'ch cartref er mwyn i chi, neu berson anabl arall, allu byw yno, efallai y cewch ostyngiad o un band yn eich Treth Cyngor. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os yw gwerth eich eiddo wedi codi o ganlyniad i'r gwaith addasu, ond mae'n gymwys os nad dyma'r achos.

Rhaglen Cefnogi Pobl

Un o raglenni'r llywodraeth yw Cefnogi Pobl. Mae'n darparu cefnogaeth sy'n ymwneud â thai i helpu pobl sy'n agored i niwed fyw mor annibynnol ag sy'n bosib yn y gymuned, naill ai yn eu cartrefi eu hunain neu mewn tai â chymorth.

Gwneud gwaith

Asiantaethau Gwella Cartrefi

Efallai y bydd modd i chi gael cymorth gan Asiantaeth Gwella Cartrefi i drefnu gwaith addasu. Mudiadau di-elw yw'r rhain, a reolir yn aml yn lleol gan gynghorau neu gymdeithasau tai. Gallant wneud y canlynol:

  • rhoi cyngor am ddim am y gwaith sydd angen ei wneud
  • cynnig cefnogaeth i denantiaid sydd am addasu'u cartrefi
  • trefnu i osod cyfarpar a gwneud addasiadau bychan
  • trefnu gwaith addasu mwy
  • rhoi trefn ar yr ochr ariannol
  • dod o hyd i syrfëwr, pensaer neu adeiladwr
  • cadw golwg ar y gwaith

Foundations yw'r corff cenedlaethol sy'n cydlynu Asiantaethau Gwella Cartrefi yn Lloegr. Gofal a Thrwsio Cymru yw enw'r corff yng Nghymru a Care & Repair Forum Scotland yw enw'r corff yn yr Alban. Ewch i'r wefan briodol i gael manylion asiantaethau yn eich ardal.

Caniatâd cynllunio a rheoliadau adeiladu

Mae'n bwysig cael caniatâd cynllunio ac ystyried unrhyw reoliadau adeiladu cyn dechrau gwaith adeiladu sylweddol. I gael gwybod sut y gellid gwneud hyn, ewch ar wefan eich cyngor lleol.

Dewis masnachwyr ac adeiladwyr

Os penderfynwch hurio masnachwr neu adeiladwr eich hun, mae'n bwysig dewis rhywun sy'n gweithredu'n gyfreithlon ac sy'n gymwys i wneud y gwaith. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ddewis adeiladwr yn adran 'cartref a chymuned' Cross & Stitch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU