Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Gronfa Byw'n Annibynnol

Mae’r Gronfa Byw'n Annibynnol yn gwneud taliadau i bobl anabl i’w helpu i arwain bywyd mwy annibynnol. Nid yw’r Gronfa Byw'n Annibynnol yn derbyn unrhyw geisiadau newydd mwyach.

Ynghylch y Gronfa Byw’n Annibynnol

Sefydlwyd y Gronfa Byw’n Annibynnol fel adnodd cenedlaethol i alluogi pobl anabl i fyw bywydau annibynnol yn eu cymunedau yn hytrach na mewn gofal preswyl. Gallwch ddefnyddio taliadau o’r Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu asiantaeth gofal neu gyflogi rhywun i roi gofal personol a domestig i chi, neu’r ddau.

I barhau i gael arian gan y Gronfa Byw'n Annibynnol, yn y mwyafrif o achosion bydd angen i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • byw yn y DU am o leiaf 26 wythnos y flwyddyn
  • rydych yn cael cymorth gwasanaethau cymdeithasol gwerth o leiaf £340 yr wythnos neu £17,680 y flwyddyn – gallai hyn gynnwys taliadau uniongyrchol neu wasanaethau gan eich cyngor lleol, fel mynd i ganolfan ddydd
  • rydych yn cael neu rydych yn gymwys i gael cyfradd uchaf yr elfen ofal o Lwfans Byw i’r Anabl
  • mae gennych lai na £23,250 mewn cynilion neu gyfalaf – gan gynnwys unrhyw arian sydd gan eich partner, os oes gennych un

Cael gwybod mwy ynghylch y Gronfa Byw’n Annibynnol drwy lawrlwytho ‘Living’ – cylchlythyr y Gronfa Byw’n Annibynnol.

Eich dyfarniad

Mae’r swm a gewch yn seiliedig ar gost y gofal sydd ei angen arnoch, a chaiff ei gyfrif ar sail fesul awr neu wythnos.

Bydd yr uchafswm y gall y Gronfa Byw’n Annibynnol ei ddyfarnu yn dibynnu pryd gwnaethoch gais. Mae eich cynilion, incwm a budd-daliadau a threuliau penodol eraill yn effeithio ar y swm rydych hefyd yn ei gael.

Mae gan y dudalen ‘Y Gronfa Byw’n Annibynnol – sut y cyfrifwyd eich taliadau’ fwy o wybodaeth.

Sut mae'r arian yn cael ei dalu?

Caiff taliadau'r Gronfa Byw'n Annibynnol eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif. Gall y cyfrif hwn fod yn gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.

Pan adolygir eich dyfarniad, bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn gwirio’r cofnodion a gedwir gennych sy’n dangos sut rydych wedi gwario eich arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol. Am y rheswm hwn, mae llawer o bobl yn ffafrio cyfrif ar wahân ar gyfer eu harian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol.

Ceir mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio eich arian ar y dudalen ‘Rheoli a defnyddio eich taliad o’r Gronfa Byw’n Annibynnol’.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Ni fydd taliadau o’r Gronfa yn effeithio ar eich budd-daliadau. Yn y mwyafrif o achosion, bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn ystyried hanner o’ch Lwfans Byw i’r Anabl tuag at eich costau gofal

Beth allwch chi ddefnyddio’r arian hwn ar ei gyfer

Gallwch ddefnyddio’ch arian o’r Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am gymorth a gwasanaethau. Gallwch ddefnyddio asiantaeth gofal neu gyflogi cynorthwyydd personol i'ch helpu gyda thasgau gan gynnwys:

  • mynd i'r tŷ bach, cael bath, ymolchi a gwisgo
  • bwyta ac yfed
  • coginio a siopa
  • golchi dillad, glanhau a thasgau eraill o gwmpas y tŷ

Efallai y gallwch gael gofal personol ar gyfer yr adegau pan fyddwch chi'n cymdeithasu neu yn y gwaith. Ceir rhagor o fanylion ar y dudalen ‘Cyflogi cynorthwyydd personol neu ofalwr proffesiynol’.

Beth na ellir defnyddio'r arian hwn ar ei gyfer?

Ni allwch ddefnyddio taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am y canlynol:

  • gofal a roddir gan bartner neu berthynas (gan gynnwys teulu-yng-nghyfraith) sy'n byw gyda chi
  • unrhyw ofal a roddir gan y gwasanaethau cymdeithasol
  • cynnal eich cartref neu dalu biliau
  • garddio
  • addasiadau i'ch cartref
  • offer, gan gynnwys cadeiriau olwyn
  • petrol, costau tacsi a chostau teithio eraill
  • gwyliau
  • gofal plant
  • ffioedd ysbyty preifat neu gartref gofal preswyl
  • gwasanaeth trin gwallt, trin traed neu ffisiotherapi

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Cysylltwch â’r Gronfa Byw’n Annibynnol i holi os nad ydych yn siŵr a allwch ddefnyddio eich taliad am wasanaeth.

Pryd gaiff eich arian ei adolygu?

Bydd asesydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn ymweld â chi ar ôl i chi gael taliadau’r Gronfa Byw’n Annibynnol am chwe mis. Maent yn sicrhau eich bod yn cyflogi’r math cywir o ofal ac yn edrych ar y cofnodion rydych wedi bod yn eu cadw. Byddant yn ymweld â chi bob dwy flynedd i sicrhau eich bod yn cael y lefel gywir o daliadau a’ch bod yn cadw’r cofnodion iawn.

Sut i apelio

Os ydych yn anfodlon am benderfyniad neu ddyfarniad gan y Gronfa Byw'n Annibynnol, gallwch ofyn am 'adolygiad o’r penderfyniad' o fewn pedair wythnos i ddyddiad y penderfyniad. Os ydych am apelio, yna cysylltwch â’r Gronfa Byw’n Annibynnol.

Llyfrynnau gwybodaeth mewn fformatau eraill

Mae gwybodaeth am y Gronfa Byw'n Annibynnol ar gael mewn fformatau eraill. Os ydych yn cael arian gan y Gronfa Byw'n Annibynnol, gallwch gysylltu â hwy i ofyn am lyfrynnau gwybodaeth sy'n dweud mwy wrthych am sut mae'n gweithio. Mae'r rhain ar gael mewn print bras, Braille, sain ac ieithoedd heblaw Welsh.

Cysylltu â’r Gronfa Byw’n Annibynnol

Gallwch gael gwybod sut i gysylltu â’r Gronfa Byw’n Annibynnol gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU