Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Y Gronfa Byw'n Annibynnol - sut y cyfrifwyd eich taliadau

Mae taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn cael eu gwneud i dalu asiantaeth gofal neu gyflogi rhywun i roi gofal personol i chi. Bydd eich cynilion, incwm a budd-daliadau penodol eraill yn effeithio ar faint y gallwch ei gael.

Sut mae’r Gronfa Byw'n Annibynnol yn cyfrifo’r taliad

Pan wnaethoch eich cais cyntaf i’r Gronfa Byw’n Annibynnol, byddai asesydd wedi ymweld â chi i gasglu gwybodaeth amdanoch chi a’ch amgylchiadau. Byddant hefyd wedi sicrhau eich bod yn deall y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chael arian gan y Gronfa Byw'n Annibynnol.

Gwnaeth y Gronfa Byw'n Annibynnol cyfrifo faint byddai’r gofal personol a’r cymorth yn y cartref sydd ei angen arnoch yn ei gostio.

Incwm sydd ar gael

Bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn edrych ar faint o'ch arian eich hun y gallwch ei dalu tuag at eich costau gofal. Gelwir hyn yn 'incwm sydd ar gael'.

Mae'n ystyried hanner eich Lwfans Byw i'r Anabl a'r Premiwm Anabledd Difrifol lawn, os ydych yn ei gael. Mae hefyd yn ystyried budd-daliadau ac incwm eraill rydych chi a'ch partner yn eu cael, fel:

  • pensiwn/pensiynau cwmni
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • pensiwn rhyfel
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • pensiwn gwraig weddw neu ŵr gweddw
  • incwm o gyfalaf, cynilion neu fuddsoddiadau

Nid ystyrir eich enillion o unrhyw swyddi.

Bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn cyfrifo faint y gall ei gynnig tuag at eich gofal yn seiliedig ar eich incwm wythnosol a’ch costau byw.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ffurflen 'Gwybodaeth ariannol'.

Eich cynilion a’ch cyfalaf

Mae'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn gwneud yn siŵr nad oes gennych chi neu'ch partner fwy na £23,250 mewn cyfalaf. Ni all gynnig nawdd i bobl sydd â mwy o arian na hyn.
Caiff y canlynol ei gyfrif fel cyfalaf:

  • cynilion yn eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu chi neu’ch partner
  • stociau neu gyfranddaliadau sydd gennych chi neu’ch partner
  • tai rydych chi neu’ch partner yn berchen nad ydych yn byw ynddynt
  • tir rydych chi neu’ch partner yn berchen arno

Os yw eich cyfalaf chi neu’ch partner yn llai na £14,250, ni fydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn ystyried yr arian hwn. Os oes gennych chi neu’ch partner rhwng £14,250 a £23,250 bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn ystyried rhywfaint o’r arian hwn.

Os nad ydych yn dweud wrth y Gronfa Byw’n Annibynnol bod gennych fwy na £14,250 mewn cyfalaf, efallai y cewch eich gordalu. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian.

Cronfeydd Ymddiriedolaeth a Llysoedd

Ni fydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn gwneud dyfarniad fel arfer os ydych yn fuddiolwr cronfa ymddiriedolaeth sydd ag asedau o fwy na £23,250.

Mae angen i chi ddweud wrth y Gronfa Byw'n Annibynnol os oes gennych arian o ffynonellau eraill. Efallai bod gennych arian sy'n cael ei weinyddu gan yr Uchel Lys, y Llys Sirol neu'r Llys Gwarchod, neu sy'n cynnwys taliadau iawndal. Caiff yr arian hwn ei drin yn yr un ffordd ag arian o gronfa ymddiriedolaeth.

Os yw cyfanswm yr arian yn £23,250 neu lai, ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar sut y gallwch chi neu’ch ymddiriedolwyr wario unrhyw arian a delir ohono. Gellir gwneud taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol o hyd.

Uchafswm y symiau y gallwch eu cael

Grŵp 1 (os gwnaethoch gais cyn mis Ebrill 1993)
Y taliad mwyaf y gall y Gronfa Byw'n Annibynnol ei wneud yw £815 yr wythnos. Nid yw'r swm hwn yn cynnwys unrhyw arian rydych yn ei dalu tuag at eich costau gofal.


Grŵp 2 (os gwnaethoch gais ar ôl mis Ebrill 1993)
Y taliad mwyaf ar gyfer y grŵp hwn yw £475 yr wythnos. Nid yw'r swm hwn yn cynnwys unrhyw arian rydych yn ei dalu tuag at eich costau gofal.

Yr effaith ar eich budd-daliadau

Ni fydd taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn effeithio ar eich budd-daliadau. Cysylltwch â'r Gronfa Byw'n Annibynnol am wybodaeth bellach.

Allweddumynediad llywodraeth y DU