Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rheoli a defnyddio eich taliadau o’r Gronfa Byw'n Annibynnol

Mae gan y Gronfa Byw'n Annibynnol nifer o reolau ynghylch pryd y gwneir taliadau, pryd fyddant yn dod i ben, a sut y gallant ailddechrau. Darganfyddwch fwy am eich taliadau o’r Gronfa Byw'n Annibynnol, pwy all eich helpu i ddefnyddio eich arian a beth yw eich cyfrifoldebau chi.

Eich taliadau

Pan ddechreuodd y Gronfa Byw’n Annibynnol eich talu, yr oedd rhaid i chi benderfynu pwy fyddai'n darparu’r gofal i chi. Gallai hyn fod:

  • asiantaeth gofal
  • eich cynorthwyydd personol
  • asiantaeth gofal a’ch cynorthwyydd personol

Byddwch chi neu’r sawl a fydd yn gyfrifol am eich arian o’r Gronfa Byw'n Annibynnol (e.e. Pŵer Atwrnai) gwblhau ffurflen gytundeb i gadarnhau:

  • y swm o arian rydych yn ei gael
  • pwy y byddwch yn talu gyda’r arian o’r Gronfa Byw'n Annibynnol
  • manylion y cyfrif banc y bydd yr arian yn cael ei dalu iddo

Os byddwch yn newid sut mae eich gofal yn cael ei ddarparu, bydd angen i chi gwblhau ffurflen cytundeb arall.

Ni all y Gronfa Byw'n Annibynnol dderbyn ffurflen gytundeb rydych wedi argraffu eich hun. Os bydd angen ffurflen gytundeb arnoch, cysylltwch â'r Gronfa Byw'n Annibynnol a byddant yn anfon un atoch yn y post. Gallwch ddod o hyd i enghraifft o’r ffurflen gytundeb isod.

Pŵer Atwrnai, Dirprwyon a Phenodai Budd-daliadau wedi’u penodi

Gall nifer o bobl eraill ymwneud â’ch helpu i gael a defnyddio eich arian o’r Gronfa Byw'n Annibynnol:

  • Pŵer Atwrnai sydd â’r hawl cyfreithiol i weithredu ar eich rhan
  • Dirprwy sy'n ymdrin â'ch materion iechyd a'ch arian
  • Penodai Budd-daliadau sy'n delio â'ch budd-daliadau

Pa mor aml y cewch eich talu

Telir eich arian bob pedair wythnos i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os na allwch reoli eich arian eich hun, gall y Gronfa Byw'n Annibynnol wneud taliadau i drydydd parti.
Fel arfer, cewch yr un swm bob tro, oni bai y bu newid yn eich amgylchiadau.

Yr hyn y gallwch wario’r arian arno

Gallwch ddefnyddio'r arian o’r Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am ofal personol a chymorth yn y cartref. Gall hyn gynnwys dyletswyddau domestig, tacluso a symud o gwmpas.

Os ydych yn cyflogi cynorthwyydd personol, bydd rhai costau yn cael eu hychwanegu at y cyflog a delir gennych, fel cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr a thâl gwyliau.

Ni ellir defnyddio arian o’r Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am ofal a ddarperir gan berthynas sy'n byw gyda chi. Gallwch ond defnyddio arian o’r Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu perthynas i ddarparu gwasanaethau ar yr amod nad ydynt yn byw gyda chi.

Dod yn gyflogwr

Os ydych yn cyflogi rhywun i ddarparu gofal, byddwch yn dod yn gyflogwr. Mae hynny'n golygu ei bod yn ofynnol i gadw cofnodion penodol. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am y swm o arian y byddwch yn talu i’ch gofalwr a'r oriau y maent wedi’u gweithio i chi.

Eich cyfrifoldebau

Mae gennych chi neu’ch cynrychiolydd gyfrifoldebau oherwydd eich bod yn cael arian gan y Gronfa Byw’n Annibynnol. Mae’n rhaid i chi:

  • cadw cofnodion sy'n dangos sut rydych wedi gwario eich arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol
  • hysbysu’r Gronfa Byw’n Annibynnol am newidiadau yn eich bywyd, fel eich statws priodasol neu eich budd-daliadau
  • dychwelyd unrhyw arian at y Gronfa Byw’n Annibynnol nad ydych wedi’i wario ar ofal

Gallwch gadw cronfa wrth gefn o arian am hyd at un wythnos o'ch dyfarniad arferol i dalu am unrhyw ofal rydych ei angen mewn argyfwng. Rhaid dychwelyd unrhyw arian dros y swm hwn sydd heb ei neilltuo ar gyfer costau cyflogaeth.

Beth sy'n digwydd os byddwch yn mynd i ofal preswyl neu ysbyty

Ar ôl i chi fynd i ofal preswyl neu ysbyty, bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol fel arfer yn parhau i’ch talu am 28 diwrnod. Gall yr arian gael ei ddefnyddio i dalu eich gofalwr tra rydych yn yr ysbyty neu am unrhyw ofal ychwanegol rydych ei angen pan rydych wedi mynd gartref. Os nad ydych am i'ch taliadau barhau tra byddwch mewn gofal neu yn yr ysbyty, bydd yn rhaid i chi hysbysu’r Gronfa Byw’n Annibynnol.

O'r diwrnod 29, ni fydd unrhyw daliadau pellach nes i chi ddweud wrth y Gronfa Byw'n Annibynnol rydych wedi mynd adref ac yn cyflogi gofal eto.

Mae'n rhaid i chi hysbysu’r Gronfa Byw’n Annibynnol bob tro y byddwch yn mynd i ofal preswyl neu’r ysbyty. Os na wnewch hynny, efallai y bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn talu gormod i chi, a bydd rhaid i chi ad-dalu'r arian hwn.

Sut y bydd eich taliadau'n cael eu hailddechrau

Unwaith y bydd y taliadau wedi dod i ben, cedwir eich cais ar agor am dri mis. Mae hyn yn golygu os byddwch yn dechrau cyflogi gofal o fewn tri mis, bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn eich talu eto.

Os bu newid yn eich amgylchiadau, efallai y bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn ymweld â chi i sicrhau ei bod yn talu'r swm cywir.

Os bydd angen rhagor o amser arnoch a’ch bod yn dal i fod o fewn y tri mis cyntaf, gallwch ofyn am estyniad o dri mis arall. Naw mis yw’r amser hiraf y gall y Gronfa Byw’n Annibynnol gadw eich ffeil ar agor.

Nodwch fod y Gronfa Byw’n Annibynnol ar gau’n barhaol i geisiadau newydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU