Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn ymweld â phobl yn achlysurol i asesu p’un a yw eu hamgylchiadau yn parhau i fod yr un fath. Darganfyddwch beth yw proses adolygu’r Gronfa Byw'n Annibynnol a beth i’w wneud os yw eich costau gofal yn newid.
Pan wnaethoch eich cais cyntaf i’r Gronfa Byw'n Annibynnol, byddai asesydd wedi ymweld â chi. Byddant wedi ymweld â chi eto ar ôl chwe mis i drafod eich trefniadau gofal.
Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle i chi drafod sut:
Roedd hefyd yn rhoi cyfle i’r Gronfa Byw'n Annibynnol weld y cofnodion rydych yn eu cadw a rhoi cyngor pellach i chi.
Bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn ymweld â chi o leiaf bob dwy flynedd i:
Gallwch ofyn i ffrind, perthynas neu’ch cynorthwyydd personol i fod yn bresennol yn ystod unrhyw un o’r ymweliadau.
Mae taliadau o’r Gronfa Byw'n Annibynnol yn cael eu hadolygu drwy ddefnyddio nifer o gamau:
Cam 1
Bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn cysylltu â chi i ddweud wrthych y byddai'n hoffi ymweld â chi i adolygu eich anghenion. Bydd yn anfon ffurflen gwybodaeth ariannol atoch. Mae'n gofyn i chi am unrhyw arian neu gyfalaf sydd gennych ac am y budd-daliadau a gewch.
Cam 2
Bydd yr asesydd o’r Gronfa Byw’n Annibynnol neu’ch gweithiwr cymdeithasol yn cysylltu â chi i drefnu diwrnod ac amser i ymweld â chi. Os oes gennych Bŵer Atwrnai neu Benodai Budd-daliadau, rhaid iddynt fod yno hefyd.
Cam 3
Yn ystod yr ymweliad, bydd yr asesydd a’ch gweithiwr cymdeithasol yn siarad â chi am sut rydych yn ymdopi gyda’r arian a gewch gan y Gronfa Byw’n Annibynnol. Bydd angen i chi hefyd ddangos yr anfonebau a chofnodion a gedwir gennych.
Cam 4
Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn cyfrifo p’un a all wneud cynnig newydd i chi. Nodwch ar hyn o bryd, ni fydd y Gronfa Byw’n Annibynnol fel arfer yn gallu cynyddu eich arian.
Cam 5
Bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn ysgrifennu i ddweud wrthych os gall wneud cynnig newydd. Gall gymryd hyd at dri mis i gyflawni’r broses hon. Tra bydd yn adolygu eich sefyllfa ariannol, byddwch yn parhau i gael eich swm arferol o arian.
Dros amser, efallai y gwelwch fod eich costau gofal yn newid oherwydd:
• na all rhywun sydd wedi bod yn rhoi cymorth i chi barhau i wneud hynny
• newid yn eich cyflwr
Weithiau, efallai y bydd cost eich gofal yn newid hyd yn oed os nad yw eich anghenion gofal wedi. Ar hyn o bryd, ni fydd y Gronfa Byw’n Annibynnol fel yn gallu talu am y cynnydd mewn costau gofal neu faint o ofal sydd ei angen arnoch.
Os yw eich trefniadau gofal yn newid, bydd angen i chi hysbysu’r Gronfa Byw’n Annibynnol:
• faint o oriau o ofal a gewch bob wythnos
• costau’r gofal
• pwy fydd yn rhoi cymorth i chi
• y wybodaeth ddiweddaraf am eich arian, incwm a budd-daliadau
Cewch ragor o wybodaeth yn y ffurflen 'Gwybodaeth Ariannol'
Unwaith y byddwch wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen i’r Gronfa Byw’n Annibynnol, byddant yn adolygu unrhyw geisiadau am gynnydd yng nghostau cyflogwr (e.e. cyflogres, hyfforddiant, tâl salwch ac ati). Mae'r dudalen 'Y Gronfa Byw'n Annibynnol - sut y cyfrifwyd eich taliadau yn cynnwys rhagor o fanylion am y math o gostau fydd yn cael eu hystyried.
Bydd hefyd angen ystyried yr arian sydd gennych a'r budd-daliadau a gewch ac yn penderfynu faint y dylech ei dalu tuag at eich gofal.
Gall gymryd hyd at wyth wythnos i’r Gronfa Byw’n Annibynnol wneud penderfyniad. Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch gysylltu â hwy i wirio’r cynnydd.