Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Mae Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS) yn darparu iawndal os ydych wedi'ch anafu, neu os oes gennych salwch yn sgil gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Mewn achos o farwolaeth gall ddarparu taliad i'r partner sy'n dal yn fyw.

Pwy sy’n gymwys

Byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun os ydych yn bersonél Arferol (gan gynnwys Gurkhas) neu Wrth Gefn ac wedi’ch anafu neu fod gennych anabledd yn sgil gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog ar 6 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny.

Mae'n gynllun 'dim bai', sy'n golygu bod y dewis o siwio'r Weinyddiaeth Amddiffyn am esgeulustod yn dal gennych, er y byddai iawndal a ddarperid gan y cynllun yn cael ei ystyried petai llys yn penderfynu y dylid talu iawn i chi.

Pwy sydd ddim yn gymwys

Nid ydych yn gymwys os achoswyd eich anaf neu salwch chi neu farwolaeth eich partner gan wasanaeth cyn 6 Ebrill 2005.

Os ydych yn cael Pensiwn Anabledd Rhyfel neu'r Pensiwn Gweddwon Rhyfel ni fydd y cynllun hwn yn effeithio arnoch. Byddwch yn parhau i gael Pensiwn Anabledd Rhyfel neu Bensiwn Gweddwon Rhyfel ac unrhyw fudd-daliadau perthnasol eraill.

Faint fyddwch chi’n ei gael

Os ydych yn gymwys i gael iawndal dan delerau'r cynllun, telir swm ar sail tariff i chi, ac fe fydd hwn yn seiliedig ar ddifrifoldeb eich anaf neu'ch cyflwr iechyd. Ceir 15 lefel i'r tariff. Lefel 1 sy'n rhoi'r taliad uchaf am y cyflyrau mwyaf difrifol, tra mae Lefel 15 yn talu am yr anafiadau llai difrifol, fel mân losgiadau.

Colli'r gallu i ennill cyflog

Dan delerau'r cynllun gellir talu Taliad Incwm wedi'i Warantu (GIP) i chi hefyd os disgwylir i chi golli'r gallu i ennill cyflog yn sylweddol. Fe'i telir am oes ar ôl i chi adael y Lluoedd Arfog, ac mae'n ddi-dreth.

Partneriaid byw

Dan delerau'r cynllun, efallai y telir Taliad Incwm Goroeswr wedi'i Warantu i'ch partner, gan gynnwys partneriaid nad ydych wedi'u priodi a phartneriaid o'r un rhyw, os oes gennych un, os achoswyd eich marwolaeth gan y gwasanaeth. Mae hwn yn drethadwy.

Mae'n rhaid i bartneriaid byw nad ydynt wedi priodi fodloni rhai meini prawf i fod yn gymwys. Un ohonynt yw bod yn rhaid dangos 'perthynas sylweddol'. Gall hyn gynnwys cyplau o'r un rhyw nad ydynt mewn Partneriaeth Sifil.

Yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Os ydych yn hawlio oherwydd salwch neu anaf drwy'r cynllun a'ch bod wedi cael taliad neu bensiwn drwy Gynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog am yr un anaf, fe ystyrir hyn wrth gyfrifo Cynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog. Gallai'r un peth fod yn berthnasol ar gyfer dyfarniadau a roddwyd dan gynlluniau eraill fel y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol neu drwy hawlio esgeulustod cyfrannol.

Os byddwch yn cael unrhyw daliadau y gellir eu cael dan y cynllun a'ch bod yn cael, neu'n bwriadu hawlio, budd-dal sy'n gysylltiedig ag incwm fel Cymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Tai, dylech roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy gyfrwng y Ganolfan Byd Gwaith.

Ni fydd y cynllun yn effeithio ar fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddynt, fel y Lwfans Byw i'r Anabl.

Sut mae hawlio

Gallwch gysylltu ag Asiantaeth Cyn-aelodau a Phersonél y Lluoedd Arfog i gael ffurflen hawlio, a chymorth i'w llenwi:

Rhif Ffôn: 0800 169 2277

Ffôn testun 0800 169 3458

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Gallwch hefyd lwytho ffurflen hawlio a dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cynllun ar wefan Asiantaeth Cyn-Aelodau a Phersonél y Lluoedd Arfog, Veterans UK.

Sut i apelio

Ceir proses ailystyried lle gallwch ofyn am gael adolygu'ch achos neu'ch dyfarniad. Gellir hefyd apelio am y penderfyniadau a wnaed dan y cynllun i'r Tribiwnlys Apêl Pensiynau annibynnol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU