Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ar 1 Hydref 2008, cyflwynwyd cynllun newydd gan y llywodraeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o'r clefyd cysylltiedig ag asbestos, mesothelioma ymledol. O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosib y bydd pobl sydd â’r clefyd yr hawl i daliad unswm untro.
Os na allwch chi hawlio dan Ddeddf Niwmoconiosis 1979, os nad ydych chi wedi cael taliad yn gysylltiedig â'r clefyd gan gyflogwr, drwy hawliad sifil neu fel arall, ac os nad oes gennych hawl i gael iawndal drwy un o gynlluniau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gallwch hawlio taliad unswm untro.
Mae'r cynllun yn ymdrin â phobl a ddaeth i gysylltiad ag asbestos yn y Deyrnas Unedig, ond nid o ganlyniad i'w gwaith fel cyflogai, er enghraifft:
Mae'r taliad unswm yn dibynnu ar faint oed oeddech chi pan gawsoch chi ddiagnosis o'r clefyd. Os nad yw dyddiad y diagnosis yn hysbys, bydd yn seiliedig ar eich oedran pan rydych chi'n hawlio.
Mae'r cyfraddau fel a ganlyn:
Oed |
Taliad |
---|---|
37 ac iau |
£ 77,506 |
38 |
£ 75,999 |
39 |
£ 74,495 |
40 |
£ 72,991 |
41 |
£ 71,485 |
42 |
£ 69.980 |
43 |
£ 69.229 |
44 |
£ 68,472 |
45 |
£ 67,723 |
46 |
£ 66,971 |
47 |
£ 66,217 |
48 |
£ 64,113 |
49 |
£ 62,007 |
50 |
£ 59,896 |
51 |
£ 57,791 |
52 |
£ 55,680 |
53 |
£ 54,177 |
54 |
£ 52,673 |
55 |
£ 51,171 |
56 |
£ 49,660 |
57 |
£ 48,156 |
58 |
£ 44,245 |
59 |
£ 40,330 |
60 |
£ 36,422 |
61 |
£ 32,507 |
62 |
£ 28,594 |
63 |
£ 26,184 |
64 |
£ 23,776 |
65 |
£ 21,372 |
66 |
£ 18,963 |
67 |
£ 16,555 |
68 |
£ 16,065 |
69 |
£ 15,574 |
70 |
£ 15,088 |
71 |
£ 14,600 |
72 |
£ 14,110 |
73 |
£ 13,695 |
74 |
£ 13,272 |
75 |
£ 12,865 |
76 |
£ 12,456 |
77 a throsodd |
£ 12,040 |
Mae tair gwahanol gyfradd ar gyfer dibynyddion os yw'r dioddefwr wedi marw.
Dylech hawlio cyn gynted â phosibl.
Daeth y cynllun i rym ar 1 Hydref 2008.
Nid oes terfyn amser ar gyfer hawliadau a wneir yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun. Ar ôl yr amser hwnnw, rhaid derbyn hawliadau o fewn 12 mis i ddyddiad y diagnosis.
Y nod yw talu 95% o hawliadau o fewn chwe wythnos i dderbyn y ffurflen hawlio.
Gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth feddygol gyda'ch hawliad i ddangos eich bod yn dioddef mesothelioma ymledol a achoswyd gan ddod i gysylltiad ag asbestos. Nid fydd angen archwiliad meddygol arall.
Os yw'r dioddefwr wedi marw, efallai y gall eu dibynyddion hawlio. Rhaid derbyn y ffurflen hawlio o fewn 12 mis i ddyddiad y farwolaeth.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen hawlio, ffoniwch neu ysgrifennwch at:
Canolfan Darparu Budd-dal Anafiadau Diwydiannol Barrow
Tîm PWC
Canolfan Byd Gwaith
Canolfan IIDB Barrow
Pittman Way
Preston
PR11 2AB
Rhif ffôn: 0800 279 2322