Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid oes ceisiadau newydd am Lwfans Anabledd Difrifol wedi bod ers mis Ebrill 2001. Mae wedi bod yn bosibl i bobl ail-wneud cais am y budd-dal hwn ar ôl cyfnodau byr ble bo ganddynt hawl blaenorol. O 31 Ionawr 2011 ni fydd hyn yn bosibl bellach, ond gweler ‘Sut i wneud cais’ i gael mwy o wybodaeth.
Ni allwch wneud cais newydd am Lwfans Anabledd Difrifol.
Gallech fod yn cael Lwfans Anabledd Difrifol cyn mis Ebrill 2001 os cawsoch eich asesu gydag anabledd o 80 y cant a'ch bod:
£69.00 os ydych wedi bod yn cael Lwfans Anabledd Difrifol cyn mis Ebrill 2001.
Efallai eich bod yn cael swm wythnosol ychwanegol yn gysylltiedig ag oedran yn dibynnu ar eich oed pan ddaethoch yn analluog i weithio. Er enghraifft os oeddech, cyn mis Ebrill 2001:
Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.
Ni allwch wneud cais am Lwfans Anabledd Difrifol. Gall fod yn bosibl i wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Adolygir eich cais os ydych yn cael Lwfans Anabledd Difrifol i weld a ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Ni adolygir eich cais os byddwch yn cyrraedd oedran pensiwn cyn 6 Ebrill 2014.
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu atoch pan adolygir eich cais am fudd-dal. Ni chaiff pawb ei gysylltu ar yr un adeg. Dechreuodd hyn ym mis Hydref 2010 a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2014.
I gael gwybod mwy am yr adolygiadau defnyddiwch y ddolen ganlynol.
Mae rhai mathau o 'waith wedi'i eithrio' (gwaith a ganiateir) y gallwch ei wneud a chael Lwfans Anabledd Difrifol yr un pryd. Gofynnwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith am ragor o fanylion.
Ond os ydych yn cael Lwfans Anabledd Difrifol a chyflog, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm y gallech fod yn eu cael. Mae'r rhain yn fudd-daliadau fels Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft:
Os byddwch yn mynd dramor, efallai y bydd gennych hawl i gael rhyw fath o Lwfans Anabledd Difrifol dramor. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith leol:
Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol. Ond os oes gennych ymholiad am eich taliad presennol, cysylltwch â'r swyddfa Canolfan Byd Gwaith sy'n delio â'ch cais.
Er nad yw’n bosibl bellach i wneud cais am Lwfans Anabledd Difrifol, efallai y byddwch yn gymwys wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
I gael cyngor cyffredinol, ffoniwch y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar 0800 882 200. Mae'r llinellau ar agos rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.