Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bosib y gallech chi gael cymorth ariannol gan y Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd os ydych chi ar incwm isel, angen triniaeth dan y GIG arnoch mewn ysbyty, canolfan GIG arall neu glinig preifat a’ch bod wedi cael eich cyfeirio yno gan ymgynghorwr ysbyty, meddyg neu ddeintydd y GIG.
Mae gennych yr hawl i wneud cais am Gynllun Costau Teithio Gofal Iechyd yn awtomatig os byddwch chi (neu'r rhai yr ydych yn dibynnu arnynt) yn cael o leiaf un o'r canlynol:
Byddwch hefyd yn gymwys os yw eich incwm yn £15,276 neu'n llai a'ch bod hefyd yn derbyn un o'r canlynol.
Os oes rhaid i oedolyn neu blentyn sy'n dibynnu arnoch deithio gyda chi am resymau meddygol, gallwch hawlio'u costau teithio nhw hefyd.
Os ydych ar incwm isel, ond nad ydych chi'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau neu'r lwfansau hyn, mae'n bosibl y gallech chi ddal i hawlio costau teithio drwy gyfrwng cynllun cymorth incwm isel y GIG (ewch i'r adran 'Cynllun cymorth incwm isel y GIG').
Os bydd gennych hawl i gael budd-daliadau neu lwfansau, gallwch gael y costau teithio llawn yn ôl gan ddefnyddio'r ffurf rataf o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael, gan gynnwys unrhyw gonsesiynau neu hyrwyddiadau.
Os byddwch yn defnyddio car preifat, gallwch hawlio am betrol yn lle (a thaliadau parcio lle na ellir osgoi); dylai'r ysbyty ddweud wrthych beth yw'r gyfradd milltiroedd ar gyfer costau petrol ar gyfer trafnidiaeth breifat.
Os nad yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gael neu'n anymarferol (efallai na allwch gyrraedd eich apwyntiad ar amser neu fod eich symudedd yn gyfyngedig), bydd angen i chi gysylltu â'r ysbyty ymhell cyn eich apwyntiad. Bydd angen iddynt wirio bod eich trefniadau teithio newydd yn cael eu caniatáu.
Os ydych ar gynllun incwm isel GIG efallai y gallwch gael yr holl gostau yn ôl teithio neu rai ohonynt yn ôl yn dibynnu ar y dystysgrif a gawsoch.
Cewch hawlio'r arian yn ysbyty neu glinig y GIG adeg eich apwyntiad. Cewch eich talu'n syth gydag arian parod, ar yr amod eich bod yn dangos:
Cynllun cymorth incwm isel y GIG
I wneud cais am gynllun cymorth incwm isel y GIG, rhaid i chi lenwi ffurflen HC1.
Cewch archebu ffurflen HC1 ar-lein, dros y ffôn, ffoniwch linell Gymorth Gwasanaethau i Gleifion y GIG, ar 0845 850 1166 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener - galwadau ar y gyfradd leol) neu mae hi ar gael hefyd gan y canlynol:
Caiff eich ffurflen ei hasesu ac os oes gennych hawl i gael cymorth ariannol, fe gewch dystysgrif sy'n cadarnhau a fyddwch chi'n cael cymorth llawn neu rannol gyda'ch costau teithio i'r ysbyty.
Cewch hawlio help gyda chostau teithio am hyd at dri mis ar ôl eich apwyntiad, cyn belled ag y gallwch chi brofi eich bod yn gymwys i hawlio ar y pryd. I wneud hyn, rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio ad-daliad (HC5), ac mae honno ar gael gan un o'r canlynol: