Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiwn Anabledd Rhyfel

Efallai y gallwch hawlio Pensiwn Anabledd Rhyfel o dan y Cynllun Pensiwn Rhyfel os ydych wedi cael eich anafu neu eich gwneud yn anabl o ganlyniad i wasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi (EM), nad ydych bellach yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EM ac achoswyd y cyflwr rydych yn hawlio amdano drwy wasanaethu cyn 6 Ebrill 2005.

Pwy sy'n gymwys?

Mae'n bosib y gallwch gael Pensiwn Anabledd Rhyfel os cawsoch eich anafu neu ddod yn anabl drwy wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM, gan gynnwys:

  • Catrawd Amddiffyn Ulster (y Gatrawd Frenhinol Wyddelig erbyn heddiw)
  • y Gwarchodlu Cartref
  • y gwasanaethau nyrsio a gwasanaethau cynorthwyol

neu

gallwch hawlio os cawsoch eich anafu neu ddod yn anabl wrth wasanaethu fel gwirfoddolwr amddiffyn sifil neu fel rhan o'r Llynges Frenhinol, y gwasanaeth morol cynorthwyol neu wylwyr y glannau a chawsoch eich anafu neu ddod yn anabl oherwydd:

  • amodau yn ystod rhyfel
  • roeddech yn garcharor rhyfel

neu

os oeddech yn ystod yr Ail Ryfel Byd:

  • yn berson sifil a gafodd anaf neu anabledd o ganlyniad i ymosodiad gan y gelyn
  • yn aelod o Fyddin Gwlad Pwyl o dan Reolaeth Prydain (neu yn Lluoedd Ailwladychu Gwlad Pwyl) a chael anaf neu anabledd wrth wasanaethu

Pwy nad ydynt yn gymwys?

Lle achoswyd anabledd gan Wasanaeth yn Lluoedd Arfog EM ar neu ar ôl 6 Ebrill 2005, dylid gwneud ceisiadau o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.

Ni allwch hawlio Pensiwn Anabledd Rhyfel os ydych yn dal i wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM.

Os ydych y'n dal i wasanaethu, mae'n bosib y gallwch gael cymorth ariannol dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar faint eich anabledd.

Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais am eich anabledd cyn i Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog archwilio'ch cofnod gwasanaethu. Yna, bydd cynghorwyr meddygol Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn penderfynu pa mor ddifrifol yw eich anabledd ar ôl gweld eich cofnodion meddygol.

Cyfrifir eich asesiad fel canran.

Os bydd y ganran yn un o'r isod:

  • yn fwy nag 20 y cant, cewch bensiwn
  • yn llai nag 20 y cant, cewch gyfandaliad (neu dâl cydnabod) fel arfer

Mae'r tâl cydnabod yn dibynnu ar faint eich anabledd ac am ba hyd rydych yn debygol o fod yn anabl. Ond, os mai byddardod synwyrnerfol a achoswyd gan sŵna sydd gennych, a bod yr asesiad yn penderfynu bod y ganran yn is na 20 y cant, ni chewch dâl cydnabod.

Gellir cael lwfansau yn ychwanegol i Bensiwn Anabledd Rhyfel hefyd. Er enghraifft, gall eich oed, anghenion gofal a symudedd, neu golli enillion effeithio ar y swm a gewch.

Sut mae'n cael ei dalu

Telir y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, bydd modd anfon siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Gall budd-daliadau eraill y gallwch eu cael, fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Byw i'r Anabl neu Gymhorthdal Incwm, effeithio ar faint o Bensiwn Anabledd Rhyfel a gewch.

I gael rhagor o wybodaeth am ba fudd-daliadau y gall hyn effeithio arnynt, holwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Sut i wneud cais

Gallwch gysylltu ag Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog i gael ffurflen gais a chymorth i'w chwblhau:

Ffoniwch 0800 169 2277

Ffôn testun 0800 169 3458

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Gallwch gael ffurflen hefyd yn eich Swyddfa Gwasanaeth Lles Pensiynwyr Rhyfel agosaf. Gallwch ddod o hyd iddynt yn eich llyfr ffôn lleol dan y testun 'Veterans Agency'.

Neu gallwch lwytho ffurflen oddi ar wefan Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.

Sut i apelio

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog i wrthod eich cais am Bensiwn Anabledd Rhyfel, gallwch ofyn iddynt am esboniad ac ailasesu'ch cais.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn dweud wrthych sut i apelio.

Cymorth rhad ac am ddim gydag apeliadau

Gallwch gael cymorth rhad ac am ddim gydag apêl drwy gysylltu a'r:

  • Lleng Frenhinol Brydeinig
  • Lleng Frenhinol Brydeinig yn yr Alban
  • Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol

Allweddumynediad llywodraeth y DU