Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Costau iechyd

Mae'r rhan fwyaf o driniaethau dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) am ddim, ond weithiau fe godir tâl am rai pethau. Efallai y cewch gymorth gyda chostau'r GIG, er enghraifft os ydych chi ar incwm isel.

Beth sy'n cael ei gynnwys

Mae'n bosib y cewch chi help gyda chostau iechyd megis:

  • costau presgripsiynau'r GIG (lle nad yw’r rhain am ddim)
  • triniaeth ddeintyddol y GIG, gan gynnwys archwiliadau rheolaidd (lle nad yw’r rhain am ddim)
  • profion llygaid (lle nad yw’r rhain am ddim)
  • talebau tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd
  • costau teithio i'r ysbyty ac oddi yno i gael triniaeth gan y GIG dan ofal ymgynghorydd neu drwy atgyfeiriad gan feddyg neu ddeintydd
  • wigiau a gwregysau defnydd, er enghraifft gwregysau i'r stumog a'r meingefn (lle nad yw’r rhain am ddim)

Pwy sy'n gymwys?

Mae'n bosib y cewch chi help gyda chostau os oes o leiaf un o'r canlynol yn berthnasol i chi.

Os ydych chi'n cael, neu wedi eich cynnwys, yn un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag Incwm
  • Credyd Gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith gyda naill ai'r Credyd Treth Plant neu elfen anabledd

Mae'n bosibl y cewch hefyd help gyda chostau:

  • os ydych wedi'ch enwi ar Dystysgrif Eithrio ddilys y GIG (HC2 i gael help llawn, HC3 i gael help rhannol gyda'r gost ac eithrio presgripsiynau)
  • os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn (ar gyfer presgripsiynau'r GIG a phrofion llygaid y GIG)
  • os ydych chi dan 16 oed, neu o dan 18 oed ar gyfer triniaeth ddeintyddol gan y GIG
  • os ydych chi dan 19 oed ac yn dal mewn addysg amser llawn
  • os ydych chi'n dioddef o gyflwr meddygol penodedig (ar gyfer presgripsiynau am ddim gan y GIG yn unig). I gael mwy o wybodaeth ffoniwch llinell gymorth Costau Iechyd ar 0845 850 1166
  • os oes gennych dystysgrif eithrio adeg mamolaeth (ar gyfer triniaeth ddeintyddol dan y GIG a thaliadau presgripsiwn y GIG)
  • os ydych chi'n cael pensiwn anabledd rhyfel neu fod angen presgripsiynau neu driniaeth dan y GIG arnoch ar gyfer eich anabledd cydnabyddedig
  • os ydych chi'n garcharor yn Lloegr

Help os ydych chi ar incwm isel

Cynllun Incwm Isel y GIG

Os nad oes dim un o'r uchod yn berthnasol a'ch bod ar incwm isel, efallai y gallwch gael help gyda chostau drwy Gynllun Incwm Isel y GIG.

Bydd faint o help gewch chi'n dibynnu ar faint o incwm sydd gennych, ond efallai na fyddwch yn gymwys i gael help os yw'ch cynilion yn uwch na'r terfyniadau a ddangosir isod.

Ni allwch gael help:

  • os ydych chi'n byw yn barhaol mewn cartref gofal a bod gennych werth £23,250 mewn eiddo, cynilion neu arian arall
  • os oes gennych chi, neu'ch partner, neu'ch partner sifil, gyda'ch gilydd werth £16,000 mewn eiddo (gan eithrio ble rydych yn byw), cynilion neu arian arall

Sut i hawlio

Bydd angen i chi lenwi ffurflen HC1 gan swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith neu eich ysbyty GIG lleol. Mae'n bosibl y gallech gael ffurflen HC1 gan eich meddyg, eich deintydd neu'ch optegydd hefyd.

Gallwch gael ffurflen HC1 hefyd drwy gysylltu â llinell gyngor Costau Iechyd ar 0845 850 1166 neu, os ydych yn byw yn yr Alban, drwy ffonio 0131 275 6386.

Beth os bydd eich amgylchiadau'n newid

Mae'n bosibl na fydd gennych hawl i fudd-daliadau iechyd mwyach os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft:

  • eich bod bellach yn 19 oed
  • os nad ydych yn cael dim o'r budd-daliadau penodedig mwyach

Cysylltwch â llinell gyngor Costau Iechyd ar 0845 850 1166 i holi a ydych yn gymwys.

Os oes angen llawer o bresgripsiynau arnoch

Os nad oes gennych hawl i bresgripsiynau am ddim a'ch bod yn meddwl y bydd yn rhaid i chi dalu am fwy na 3 eitem mewn 3 mis, neu 14 eitem mewn 12 mis, efallai y bydd yn rhatach i chi brynu tystysgrif i dalu am bresgripsiynau ymlaen llaw (PPC).

I gael mwy o wybodaeth, i wneud cais neu i wybod beth yw costau PPC, ewch i wefan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG neu ffoniwch llinell gyngor PPC ar 0845 850 0030.

Nid yw PPCs ar gael yn yr Alban.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

I gael rhagor o wybodaeth am gostau'r GIG yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gallwch lwytho llyfryn HC11 oddi ar wefan yr Adran Iechyd. Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch lawrlwytho’r dogfennau HCS1 a HCS2 o wefan Llywodraeth yr Alban.

I gael rhagor o gyngor ynghylch cael help gyda chostau iechyd, ffoniwch llinell gyngor Costau Iechyd ar 0845 850 1166. Gallwch hefyd gysylltu â'ch canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU