Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Enillion Is

Mae'n bosib y gallwch chi gael Lwfans Enillion Is os na allwch chi ennill cymaint ag y gallech fel arfer oherwydd damwain neu glefyd a achoswyd gan eich gwaith.

Pwy sy’n gymwys?

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Enillion Is os ydych chi'n dioddef o salwch neu anabledd a achoswyd gan ddamwain neu glefyd yn y gwaith cyn 1 Hydref 1990.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

£63.24 yr wythnos yw'r gyfradd uchaf.

Gall eich amgylchiadau personol chi, er enghraifft, a ydych chi'n gweithio ai peidio, effeithio ar y swm a gewch chi. I gael mwy o fanylion, cysylltwch â'ch canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol.

Sut y caiff Lwfans Enillion is ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Mae'n bosib yr effeithir ar y budd-daliadau canlynol os dechreuwch chi gael Lwfans Enillion Is:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor

I gael mwy o fanylion, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Sut i wneud cais

Mae'n bwysig gwneud cais ar unwaith neu gallech chi golli'r budd-dal. Gofynnwch am ffurflen gais yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Bydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi wrth wneud cais. Bydd yn rhaid i chi hefyd ateb cwestiynau am eich amgylchiadau a'ch cefndir a dangos dogfennau swyddogol i brofi'r wybodaeth honno.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Soniwch wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er hynny, gan amlaf, ni fydd hyn yn effeithio ar daliadau'r Lwfans Enillion Is.

Dyma rai newidiadau na fydd yn cael effaith ar y taliad:

  • mynd i'r ysbyty
  • mynd i gartref nyrsio neu ofal preswyl
  • dechrau gwneud gwaith gwirfoddol

Os byddwch chi'n gadael y DU i fyw'n barhaol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, chewch chi ddim hawlio Lwfans Enillion Is.

Ond, os dros dro y byddwch chi'n ymweld, fel arfer, cewch ei hawlio am dri mis cyntaf eich ymweliad. Gall hyn fod yn hwy dan amgylchiadau arbennig, ond bydd angen i chi holi'r Ganolfan Bensiynau Ryngwladol i weld a ydych chi'n gymwys ai peidio.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Os byddwch yn derbyn mwy na £2 yr wythnos o Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych chi mewn gwaith rheolaidd, cewch fudd-dal arall yn lle'r lwfans hwn, sef Lwfans Ymddeol.

Mae math arall o fudd-dal, Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, ar gael i bobl sydd wedi mynd yn anabl o ganlyniad i ddamwain neu glefyd yn y gwaith.

I gael cyngor cyffredinol, ffoniwch y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar 0800 882 200 (rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Neu ffôn testun 0845 608 8551.

Os hoffech gael rhagor o help gyda budd-daliadau, ffoniwch y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar 0800 882 200 (ffôn testun 0845 608 8551). Gwasanaeth cynghori cyfrinachol yw hwn i bobl anabl a'r bobl sy'n gofalu amdanynt.

Allweddumynediad llywodraeth y DU