Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn sâl neu’n anabl o ganlyniad i glefyd a achoswyd gan fathau penodol o waith, gallech wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (clefydau). Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (clefydau) os oeddech wedi eich cyflogi mewn swydd a achosodd eich clefyd. Mae'r cynllun yn berthnasol i dros 70 o glefydau, gan gynnwys:
Gallwch gael rhestr lawn o afiechydon gan eich canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol.
Newidiadau diweddar
Ers 30 Mawrth 2012 mae pobl sydd ag osteoarthritis yn y pen-glin a oedd yn bennaf yn gweithio yn gosod carpedi neu loriau wedi bod yn gymwys i wneud cais. Mae'n rhaid iddynt fod wedi bod yn gwneud y gwaith hwn am 20 mlynedd neu fwy.
O 1 Awst 2012, os oes gennych ganser ar yr ysgyfaint a’ch bod yn gweithio’n bennaf fel gweithiwr ffwrn golosg, gallech fod yn gymwys i wneud cais. Mae'n rhaid i chi wedi gweithio am o leiaf 5 mlynedd mewn gwaith popty uchaf, neu o leiaf 15 mlynedd mewn gwaith popty arall. Os ydych wedi gweithio llai o flynyddoedd ar y ddau fath o waith, yna gall yr amser a dreulir ar y ddau gael eu hychwanegu at ei gilydd i’ch helpu fod yn gymwys.
I gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â’ch canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol.
Ni allwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig yn y gwaith a achosodd eich clefyd.
Bydd eich amgylchiadau unigol, gan gynnwys eich oedran a difrifoldeb eich anabledd, yn effeithio ar lefel y budd-dal a gewch. Asesir hyn gan feddyg ar raddfa o un i 100 y cant. Ar gyfer rhai clefydau'r ysgyfaint, telir ar gyfradd 100 y cant o ddechrau eich cais.
Arweiniad yn unig yw'r holl symiau hyn:
Difrifoldeb yr anabledd, yn ôl yr asesiad | Dros 18 oed (swm wythnosol) | Dan 18 oed heb ddibynyddion (swm wythnosol) |
---|---|---|
100% | £158.10 | £96.90 |
90% | £142.29 | £87.21 |
80% | £126.48 | £77.52 |
70% | £110.67 | £67.83 |
60% | £94.86 | £58.14 |
50% | £79.05 | £48.45 |
40% | £63.24 | £38.76 |
30% | £47.43 | £29.07 |
20% | £31.62 | £19.38 |
Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.
Os ydych yn cael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael sy’n dibynnu ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn.
Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, neu unrhyw fath arall o fudd-dal am eich bod ar incwm isel, cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio â’ch cais er mwyn cael rhagor o wybodaeth.
Dylech hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar unwaith neu gallech golli'r budd-dal.
Gallwch gael ffurflen gais gan eich canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol neu gallwch lawrlwytho ffurflen gais Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch taliadau os byddwch chi neu rywun rydych yn hawlio drostynt:
Gan amlaf, byddwch chi neu'r person rydych yn gofalu amdano yn parhau i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol – hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor am byth.
Nid yw Lwfans Enillion Is yn daladwy os symudwch dramor yn barhaol.
Gall y swyddfa sy'n delio â'ch taliad roi rhagor o wybodaeth i chi.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gallech hawlio budd-daliadau eraill yn lle neu yn ogystal â Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (clefydau).
Gallwch hawlio am glefydau y bu iddynt ddechrau cyn 1 Hydref 1990, lle bydd asesiad yn penderfynu bod gennych anabledd 100 y cant a bod arnoch angen gofal a sylw dyddiol.
Bydd cyfradd y Lwfans Gweini Cyson a delir i chi yn seiliedig ar asesiad o'ch anghenion.
Mae’n bosib y cewch Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau) os ydych y’n anabl o ganlyniad i ddamwain a oedd yn gysylltiedig â'ch gwaith.
Os ydych yn dioddef o glefydau penodol sy'n ymwneud â llwch mae’n bosib y cewch daliad dan Ddeddf Niwmoconiosis (Iawndal Gweithwyr) 1979.
Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol
Gallwch hawlio £63.30 a delir yn ychwanegol at gyfraddau'r Lwfans Gweini Cyson, os cewch eich asesu ar gyfradd ganolradd neu eithriadol y Lwfans Gweini Cyson a bod arnoch angen gofal a sylw cyson a pharhaus.
Lwfans Enillion Is
Mae’n bosibl y cewch Lwfans Enillion Is os yw eich enillion presennol, neu'ch enillion mewn swydd y tybir y gallech chi ei gwneud, yn is na'r enillion presennol yn eich swydd reolaidd flaenorol.
Dim ond ar gyfer ceisiadau'n ymwneud â chlefydau diwydiannol y bu iddynt ddigwydd yn gyntaf cyn 1 Hydref 1990 y cewch chi Lwfans Enillion Is. Y gyfradd wythnosol uchaf yw £63.24.
Lwfans Ymddeol
Bydd Lwfans Ymddeol yn disodli Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai y byddwch yn gymwys am y gyfradd wythnosol uchaf o £15.81.
Os yw eich iechyd neu eich anabledd yn effeithio ar y ffordd y gwnewch eich swydd, mae’n bosib y gallai’r cynllun Mynediad at Waith eich helpu i aros mewn gwaith.