Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deddf Niwmoconiosis Ac Ati (Iawndal Gweithwyr) 1979

Os oes gennych glefyd sy'n gysylltiedig â llwch, efallai y byddwch yn gymwys am gyfandaliad untro. Mae'n ofynnol na allwch hawlio iawndal gan y cyflogwyr a achosodd y clefyd oherwydd eu bod wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Dyma ragor o wybodaeth a sut i wneud cais.

Pwy sy'n gymwys

Gall y Ganolfan Byd Gwaith dalu cyfandaliad i chi os oes gennych un o'r clefydau canlynol:

  • niwmoconiosis
  • byssinosis
  • mesothelioma ymledol
  • tewychu pliwraidd ymledol dwyochrol
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint lle ceir asbestosis neu dewychu pliwraidd ymledol dwyochrol

I gael taliad o dan y cynllun hwn rhaid i chi fodloni pob un o'r amodau canlynol:

  • rhaid i'ch clefyd sy'n gysylltiedig â llwch fod wedi'i hachosi gan eich gwaith
  • rydych yn cael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol am un o'r clefydau a restrir
  • ni allwch gymryd, neu nid ydych wedi cymryd, camau sifil oherwydd bod eich cyn-gyflogwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu
  • nid ydych wedi dwyn camau llys yn erbyn cyflogwr, nac wedi cael iawndal ganddo, mewn perthynas â'r clefyd

Os ydych yn ddibynnydd i rywun a gafodd glefyd sy'n gysylltiedig â llwch ond sydd wedi marw, efallai y gallwch wneud cais.

Pryd i wneud cais

Os oes gennych glefyd sy'n gysylltiedig â llwch

Dylech wneud cais cyn gynted â'ch bod yn meddwl bod gennych glefyd a gwmpesir gan y Ddeddf. Os ydych wedi gwneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ond nad ydych wedi cael penderfyniad eto, dylech wneud cais o hyd ar unwaith.

Os ydych yn ddibynnydd i rywun sydd wedi marw

Dylech wneud cais cyn gynted â'ch bod yn gwybod bod yr ymadawedig wedi cael clefyd a gwmpesir gan y Ddeddf. Nid oes angen disgwyl am benderfyniad ar gais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Os oes cyfyngiad amser arnoch o ran gwneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, dylech wneud cais o hyd.

Faint o arian y gallwch ei gael

Mae faint o arian y gallwch ei gael yn dibynnu ar y canlynol:

  • eich oedran pan gafodd y clefyd ei ganfod yn gyntaf
  • pa mor anabl ydych chi

Os ydych yn gwneud cais fel dibynnydd i ddioddefwr sydd wedi marw telir cyfradd is i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfraddau cyfandaliadau cysylltwch â'r Ganolfan Trafod Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol yn Barrow. Mae'r manylion cyswllt isod.

Sut y caiff ei dalu

Telir y cyfandaliad i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa’r Post® neu gyfrif Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Effaith ar fudd-daliadau eraill

Os cewch gyfandaliad, gall effeithio ar fudd-daliadau eraill a gewch yn dibynnu ar faint o gynilion sydd gennych.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r swyddfa sy'n talu eich budd-dal os ydych yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • budd-dal gan eich bod ar incwm isel

Sut i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth a chael ffurflen gais, cysylltwch â:

Barrow Industrial Injuries Benefit Delivery Centre
PWC Team
Jobcentre Plus
Barrow IIDB Centre
Pittman Way
Preston
PR11 2AB

Ffôn: 0800 279 2322

Cynigir gwasanaeth ffôn testun os oes gennych nam ar y lleferydd neu'r clyw.

Ffôn testun: 0845 608 8551

Gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen gais PWC1W, isod, o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU