Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-daliadau os ydych yn sâl neu'n anabl - newidiadau y mae angen i chi wybod amdanynt

Mae Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol a Chymhorthdal Incwm a delir oherwydd salwch neu anabledd yn cael eu dileu'n raddol. Caiff pob hawliad presennol ei adolygu gan y Ganolfan Byd Gwaith i ganfod a yw pobl yn gallu gweithio neu'n gymwys i gael budd-daliadau eraill. Cael gwybod sut y bydd eich hawl yn cael ei adolygu.

Beth sy'n newid?

Mae'r budd-daliadau canlynol yn cael eu dileu'n raddol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm a delir oherwydd salwch neu anabledd
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Os ydych yn dal i dderbyn un o'r budd-daliadau hyn, caiff eich hawliad ei adolygu i weld a ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os ydych yn byw dramor

Bydd eich cais hefyd yn cael ei adolygu os ydych yn byw dramor ac yn cael naill ai:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Dewch i gael gwybod sut y bydd eich cais yn cael ei adolygu os ydych yn byw dramor drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.

Pwy nas effeithir arnynt

Ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch os:

  • ydych eisoes yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2014

Beth sydd angen i chi ei wneud

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu atoch pan gaiff eich hawliad budd-dal adolygu. Ni fyddwn yn cysylltu â phawb ar yr un pryd. Bydd y broses hon yn dechrau ym mis Hydref 2010 a disgwylir iddi gael ei chwblhau yn 2014.

Cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn eich ffonio i gael gwybod a ydych wedi cael y llythyr sy’n dweud y bydd eich hawliad yn cael ei adolygu.

Bydd hwn yn rhoi’r cyfle i chi:

  • ofyn unrhyw gwestiynau efallai y bydd gennych ynghylch yr adolygiad
  • roi gwybod i’r Ganolfan Byd Gwaith os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch

Hyd nes y caiff eich hawliad ei adolygu byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol, cyn belled â'ch bod yn dal i fodloni amodau'r budd-dal hwnnw.

Sut y caiff eich hawliad ei adolygu

Holiadur

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn anfon holiadur atoch i'w gwblhau. Bydd yr holiadur yn holi sut y mae eich cyflwr iechyd hirdymor neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau pob dydd.

Rhaid i chi gwblhau'r holiadur hwn mor fanwl â phosibl a'i ddychwelyd erbyn y dyddiad a nodir. Os na wnewch chi hynny, gallai effeithio ar eich budd-dal.

Asesiad Gallu i Weithio

Bydd y wybodaeth a roddwch yn helpu i benderfynu a oes angen i chi gael asesiad wyneb yn wyneb. Bydd yr asesiad hwn yn helpu i ganfod:

  • beth rydych yn gallu ei wneud
  • a ph’un a allech weithio

Os gofynnir i chi gael asesiad, rhaid i chi fynd a chymryd rhan lawn ynddo. Os na wnewch chi hynny, gallai effeithio ar eich budd-dal.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'ch cais gael ei adolygu

Os gallwch weithio

Os canfyddir eich bod yn gallu gweithio, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn eich ffonio i drafod eich opsiynau o ran budd-daliadau. Bydd hefyd yn ysgrifennu atoch.

Efallai y gallwch hawlio:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm am resymau eraill
  • Credyd Pensiwn

Os oes gennych hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os oes gennych hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn eich ffonio i roi gwybod i chi. Bydd hefyd yn ysgrifennu atoch.

Caiff eich budd-dal ei drosglwyddo'n awtomatig ac ni fydd toriad yn y taliadau a gewch. Os yw eich budd-daliadau analluogrwydd cyfredol yn fwy na chyfradd gyfredol y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch daliad ychwanegol.

Yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw eich anabledd neu gyflwr iechyd, fe'ch rhoddir mewn un o ddau grŵp:

  • Grŵp Gweithgarwch sy'n Gysylltiedig â Gwaith
  • Grŵp Cymorth

Grŵp Gweithgarwch sy'n Gysylltiedig â Gwaith

Os cewch eich rhoi yn y Grŵp Gweithgarwch sy'n Gysylltiedig â Gwaith, cewch gymorth i'ch helpu i baratoi am waith addas.

Os na fyddwch yn derbyn y cymorth sy'n gysylltiedig â gwaith, gallai effeithio ar eich budd-dal.

Grŵp Cymorth

Os oes gennych anabledd difrifol neu'r cyflyrau iechyd mwyaf difrifol fe'ch rhoddir yn y Grŵp Cymorth. Ni ddisgwylir i chi chwilio am waith a chewch y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch.

Ni fydd yn rhaid i chi gael unrhyw gymorth sy'n gysylltiedig â gwaith os nad ydych yn dymuno hynny.

Effaith ar dreth a chredydau treth

Os byddwch yn dechrau cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, mae'n drethadwy, felly bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn hysbysu

Cyllid a Thollau EM (HMRC). Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cod treth newydd atoch

Os gewch gredydau treth

Os ydych nawr yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am y newid i'ch budd-dal os gwnaethoch naill ai:

  • hawlio Budd-dal Analluedd cyn 1995 ac wedi bod yn cael Budd-dal Analluogrwydd ers hynny
  • roeddech yn cael Lwfans Anabledd Difrifol

Mae hyn oherwydd bod Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau yn cyfrif fel incwm wrth gyfrifo'ch credydau treth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU