Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Anabledd Difrifol yn cael eu dileu’n raddol. Os ydych yn byw dramor ac yn cael un o'r budd-daliadau hyn, caiff eich hawliad ei adolygu i weld a allwch gael Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn lle hynny. Cewch wybod sut y caiff eich hawliad ei adolygu.
Caiff eich cais ei adolygu i weld a allwch barhau i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os:
Bydd pobl sy’n cael budd-dal yn y DU yn cael yr un fath o adolygiad â phobl sy'n byw dramor, ond bydd y modd y caiff eich ailasesiad ei drefnu yn wahanol.
Bydd y Ganolfan Pensiynau Ryngwladol yn ysgrifennu atoch pan fydd eich hawliad budd-dal yn cael ei adolygu.
Ni chysylltir â phawb ar yr un pryd. Ar gyfer pobl sy'n byw dramor, bydd y broses hon yn dechrau yn ystod gwanwyn 2011 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2014.
Hyd nes caiff eich hawliad ei adolygu byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r rheolau ar gyfer cael budd-dal.
Bydd y Ganolfan Pensiynau Ryngwladol yn anfon holiadur meddygol atoch. Bydd yr holiadur yn gofyn sut mae eich cyflwr iechyd hirdymor neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau bob dydd.
Rhaid i chi gwblhau'r holiadur hwn gyda chymaint o fanylion â phosibl a’i ddychwelyd erbyn y dyddiad y gofynnwyd amdano. Os na allwch wneud hynny, gallai hyn effeithio ar eich budd-dal
Asesiad Gallu i Weithio
Bydd y wybodaeth a rowch yn eich holiadur yn helpu i benderfynu a oes angen i chi fynychu asesiad wyneb yn wyneb â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Bydd yr asesiad hwn yn helpu i gael gwybod:
Os bydd angen i chi gael asesiad wyneb yn wyneb, bydd y Ganolfan Pensiynau Ryngwladol yn trefnu apwyntiad i chi. Gellir gwneud trefniadau i chi gael asesiad yn y wlad rydych yn byw ynddi. Darperir manylion llawn os yw hyn yn ofynnol. Fel arall, gallwch ddewis i ddychwelyd i'r DU ar gyfer yr asesiad - bydd angen i chi dalu costau teithio i ddychwelyd i'r DU eich hun.
Os gofynnir i chi fynychu asesiad, rhaid i chi fynd a chymryd rhan yn llawn. Os na wnewch hynny, gallai effeithio ar eich budd-dal.
Anfonir canlyniadau’r asesiad at gontractwyr gwasanaethau meddygol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn y DU. Cânt eu defnyddio i gynhyrchu adroddiad ar sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch.
Yn dilyn eich asesiad cewch lythyr i’ch hysbysu a allwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd y llythyr yn dweud wrthych:
Os oes gennych hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw eich anabledd neu gyflwr iechyd, cewch eich gosod mewn un o ddau grŵp:
Grŵp Gweithgareddau sy’n Gysylltiedig â Gwaith
Os ydych yn y grwp hwn ni allwch gael cymorth sydd ar gael i helpu pobl yn y DU i symud i mewn i waith.
Oherwydd hyn, ni fydd yn ofynnol neu ni fydd disgwyl i chi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy'n ymwneud â gwaith er mwyn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Grŵp Cymorth
Os oes gennych anabledd difrifol neu gyflwr iechyd difrifol cewch eich gosod yn y Grŵp Cymorth. Golyga hyn nad yw’n ofynnol neu ni fydd disgwyl i chi gyflawni unrhyw weithgareddau sy'n ymwneud â gwaith er mwyn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os nad oes gennych hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Os nad oes gennych hawl, efallai na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn y DU bellach yn gyfrifol am ddarparu budd-daliadau i chi.
Gallwch barhau i gael yr hawl i rai budd-daliadau'r DU, fel sicrwydd iechyd, os:
Os byddwch yn dechrau cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, mae'n drethadwy, felly bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn hysbysu Cyllid a Thollau EM (HMRC). Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cod treth newydd atoch
Os gewch gredydau treth
Os ydych nawr yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am y newid i'ch budd-dal os gwnaethoch naill ai:
Mae hyn oherwydd bod Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau yn cyfrif fel incwm wrth gyfrifo'ch credydau treth.