Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r cyfarpar sydd ar gael i bobl fyddar neu bobl sy'n drwm eu clyw i'w ddefnyddio yn eu cartrefi'n cynnwys ffonau testun, dyfeisiau gwrando a dyfeisiau tynnu sylw megis clociau larwm a chlychau drws sydd wedi'u haddasu'n arbennig.
Mae cymorth ar gael gyda sefyllfaoedd bob dydd sy'n cynnwys teleffonau, ffonau testun a chyfarpar gwrando. Mae'r cymhorthion ychwanegol yn cynnwys dolenni sain sy'n gweithio gyda'ch teclyn clywed, larymau, clociau larwm, clychau drws ac addasyddion teletestun.
Gellir cael cyfarpar a chyngor am y gwahanol fathau o gymhorthion sydd ar gael oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol, adrannau clyw'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a mudiadau gwirfoddol.
Dyma declynnau i'ch helpu chi ddefnyddio'r ffôn:
Y Gwasanaeth Text Relay
Text Relay yw'r gwasanaeth cyfnewid testun i lais cenedlaethol. Mae'n eich galluogi chi i gyfathrebu gyda phobl sy'n clywed dros y rhwydwaith ffôn, gan ddefnyddio gweithredwr cyfnewid.
Mae Text Relay ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae cost y galwadau ar gyfradd sylfaenol eich darparwr telathrebu. Ni cheir cost ychwanegol am y gwasanaeth hwn. Oherwydd y gall galwadau o ffôn testun gymryd fwy o amser, dylai eich darparwr telathrebu gynnig ad-daliad ar alwadau ffôn testun.
Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Text Relay
Pan ydych chi’n gwneud galwad o ffôn testun, deialwch 18001 ac wedyn rhif ffôn llawn y person yr ydych am ffonio, gan gynnwys y cod ardal (a’r cod gwlad cenedlaethol os ydych yn ffonio o du allan i’r DU).
Pan ydych chi’n gwneud galwad o ffôn, deialwch 18002 ac wedyn rhif ffôn llawn y person yr ydych am ffonio (gan gynnwys y cod ardal (a’r cod gwlad cenedlaethol os ydych chi’n ffonio o du allan i’r DU).
Gall clociau larwm ar gyfer pobl fyddar neu bobl drwm eu clyw weithio mewn gwahanol ffyrdd. Dyma brif nodweddion y clociau:
Gallwch hefyd brynu watshis sy'n dirgrynu.
Yn ogystal â chlychau drws gyda golau sy'n fflachio neu gloch y mae ei sain yn uchel iawn, mae systemau eraill sy'n defnyddio sawl ffordd o dynnu'ch sylw y gallwch eu defnyddio ar gyfer seiniau yn y cartref, er enghraifft, pan fydd y ffôn yn canu.
Gallwch gael larymau mwg sy'n defnyddio goleuadau strôb a phadiau sy'n dirgrynu i'ch rhybuddio am yr arwydd cyntaf o dân.
Mae larymau mwg â phadiau sy'n dirgrynu wedi'u gosod â phad arbennig sy'n dirgrynu wedi'i gysylltu â'r larwm mwg, a gellir ei roi dan eich gobennydd neu fatres. Bydd y pad yn dirgrynu pan gaiff y larwm ei weithredu.
Bydd goleuadau strôb sydd wedi'u cysylltu â larwm mwg yn allyrru golau strôb sy'n fflachio i'ch rhybuddio pan fydd y larwm mwg yn seinio.
Bydd larymau cysylltiedig wedi'u cysylltu â'r holl larymau mwg eraill yn yr adeilad, gan sicrhau y bydd pob larwm cysylltiedig yn seinio pan gaiff un larwm mwg ei ysgogi. Golyga hyn, hyd yn oed os yw'r tân gryn bellter o lle'r ydych chi, y byddwch yn gwybod amdano ac y gallwch adael yr adeilad cyn iddo ddod yn agosach atoch.
Argymhellir eich bod yn cysylltu â thrydanwr cymwysedig i osod larymau cysylltiedig.
I gael gwybod mwy am y larymau mwg hyn, cyngor am gynllunio eich dihangfa a lle i fynd i gael cymorth a chyngor, llwythwch y llyfryn 'Diogelwch tân i bobl â phroblemau golwg, clyw neu symudedd' oddi ar y we.
Mae is-deitlau teledu a chyfieithiadau o raglenni teledu mewn iaith arwyddion yn golygu bod teledu'n fwy hygyrch i bobl fyddar a thrwm eu clyw.
Os byddwch yn cael asesiad gan eich gwasanaethau cymdeithasol lleol, gall arbenigwr edrych ar eich anghenion unigol er mwyn gallu darparu'r cymorth iawn, gan gynnwys cyfarpar.
Mae cymorth cyfathrebu yn cynnwys dehonglwyr, darllenwyr gwefusau ac ysgrifenwyr nodiadau Iaith Arwyddion Prydain. Dewch i gael gwybod sut y gellir trefnu hyn ac i gael enghreifftiau o gefnogaeth cyfathrebu mewn amgylchiadau penodol.