Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Symud tŷ os ydych chi'n anabl

Os ydych chi'n dymuno symud tŷ, dylech gynllunio ymlaen llaw i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gwasanaethau a'r gefnogaeth yr ydych wedi arfer eu cael pan fyddwch yn symud. Mae gwasanaethau cefnogi yn aml yn cael eu darparu mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol lefydd.

Tai

Tai cyngor a thai cymdeithasol

Os ydych yn byw mewn tŷ cymdeithasol neu dŷ cyngor, un ffordd o ddod o hyd i dŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai mewn ardal arall yw drwy gydgyfnewid.

Gallwch hefyd wneud cais am dŷ yn uniongyrchol i'r gymdeithas dai neu'r awdurdod lleol yn yr ardal yr ydych yn dymuno symud iddi. Mae'n bosib y rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr lleol y mae angen tŷ yn y fwrdeistref arnynt felly efallai y bydd yn rhaid i chi aros am amser hir.

Mae'r cynlluniau symud tŷ 'Lawn' a 'Seaside and Country Homes' yn opsiwn i bobl sy'n byw yn Llundain ond sydd am symud i rywle arall. Er mwyn cofrestru ar gyfer y cynllun Seaside and Country Homes mae'n rhaid i chi - neu eich partner, os oes gennych un - fod yn 60 oed neu'n hŷn. Nid oes cyfyngiadau oedran ar gyfer y cynllun Lawn.

Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl

Os oes angen addasu'r tŷ yr ydych yn mudo iddo i ddiwallu'ch anghenion, dylech wneud cais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl gan eich cyngor lleol newydd. Bydd therapydd galwedigaethol yn dod i gynnal asesiad, fel eich bod yn gwybod ymlaen llaw a ydych yn gymwys i gael grant ac a ydy'r tŷ'n cael ei ystyried yn addas ar gyfer ei addasu.

Os yw'ch tŷ presennol eisoes wedi cael ei addasu gyda chymorth y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, efallai y bydd modd i chi fynd ag eitemau fel lifft grisiau neu declynnau codi o'r bath gyda chi pan fyddwch yn symud, os ydynt yn addas ar gyfer eich cartref newydd. Holwch eich cyngor lleol am eu rheolau penodol nhw ynghylch hyn.

Grantiau adleoli

Os ydych chi wedi gwneud cais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i addasu eich cartref presennol, a bod eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol wedi penderfynu nad yw'ch cartref yn addas ar gyfer ei addasu, efallai y bydd eich cyngor lleol yn cynnig grant adleoli i helpu tuag at y gost o symud tŷ.

Nid yw pob cyngor yn cynnig grantiau adleoli. Gallant bennu beth yw'r grant mwyaf y maen nhw'n ei gynnig, yn ogystal â'r rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys ac a gewch chi ddefnyddio'r grant i symud allan o'r fwrdeistref. Mae'n syniad da sgwrsio â rhywun o'r gwasanaethau cymdeithasol cyn trefnu i symud.

Eich awdurdod lleol newydd

Gwasanaethau gofalu a chefnogi

Os byddwch yn cael unrhyw wasanaethau gofalu neu gefnogi (gan gynnwys cyfarpar) neu daliadau uniongyrchol i drefnu eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun, dylech gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol presennol a rhoi gwybod iddynt eich bod yn mudo.

Dylai eich tîm gwasanaethau cymdeithasol lleol gysylltu â'r adran gwasanaethau cymdeithasol yn eich bwrdeistref newydd. Wedi hynny, bydd y tîm newydd yn gwneud yn siŵr bod yr un gefnogaeth a'r un gwasanaethau yr oeddech yn eu derbyn ar gael i chi, am dymor byr, fel nad oes bwlch yn y gwasanaethau gofal a chefnogi y dylech eu cael pan fyddwch yn symud.

Yn nes ymlaen, bydd eich tîm gwasanaethau cymdeithasol newydd yn cynnal eu hasesiad iechyd a gofal cymdeithasol eu hunain, ac yn penderfynu pa wasanaethau ac offer y mae gennych hawl iddynt, yn ôl eu safonau hwy.

Efallai y bydd gan wahanol gynghorau reolau ychydig yn wahanol ynghylch hyn, felly mae'n bosib na chewch yr un gwasanaethau'n union yn eich lleoliad newydd.

Os byddwch yn mudo heb ddweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol, efallai y bydd oedi cyn i chi gael unrhyw wasanaethau gan eich cyngor lleol newydd

Gwasanaethau gofalu a chefnogi

Os byddwch yn cael unrhyw wasanaethau gofalu neu gefnogi (gan gynnwys cyfarpar) neu daliadau uniongyrchol i drefnu eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun, dylech gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol presennol a rhoi gwybod iddynt eich bod yn mudo.

Dylai eich tîm gwasanaethau cymdeithasol lleol gysylltu â'r adran gwasanaethau cymdeithasol yn eich bwrdeistref newydd. Wedi hynny, bydd y tîm newydd yn gwneud yn siŵr bod yr un gefnogaeth a'r un gwasanaethau yr oeddech yn eu derbyn ar gael i chi, am dymor byr, fel nad oes bwlch yn y gwasanaethau gofal a chefnogi y dylech eu cael pan fyddwch yn symud.

Yn nes ymlaen, bydd eich tîm gwasanaethau cymdeithasol newydd yn cynnal eu hasesiad iechyd a gofal cymdeithasol eu hunain, ac yn penderfynu pa wasanaethau ac offer y mae gennych hawl iddynt, yn ôl eu safonau hwy. Efallai y bydd gan wahanol gynghorau reolau ychydig yn wahanol ynghylch hyn, felly mae'n bosib na chewch yr un gwasanaethau'n union yn eich lleoliad newydd.

Os byddwch yn mudo heb ddweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol, efallai y bydd oedi cyn i chi gael unrhyw wasanaethau gan eich cyngor lleol newydd.

Taliadau uniongyrchol

Os ydych chi wedi arfer cael taliadau uniongyrchol, efallai y gwelwch fod y swm a gewch ychydig yn wahanol pan fyddwch yn mudo, oherwydd gall y cyfraddau a godir fesul awr am ddarparu gwasanaethau amrywio o un cyngor i'r llall.

Gall y polisïau o ran y tâl a godir hefyd amrywio o un cyngor i'r llall, felly efallai y gwelwch fod yn rhaid i chi dalu am wasanaeth yr oeddech yn ei gael am ddim o'r blaen, neu fod gwasanaeth yr oeddech yn arfer talu amdano bellach am ddim.

Efallai y bydd symud i leoliad newydd, yn enwedig os yw'n bell, hefyd yn golygu y bydd yn rhaid i chi gyflogi cynorthwy-ydd personol newydd.

Offer

Os oes gennych unrhyw gyfarpar anabledd i'ch helpu yn eich cartref, a hwnnw'n cael ei ddarparu ac yn cael ei fenthyca gan eich cyngor lleol, rhaid i chi ei ddychwelyd pan fyddwch yn mudo.

Y mwyaf o rybudd a roddwch i'r gwasanaethau cymdeithasol cyn symud, y cynharaf y bydd eich tîm gwasanaethau cymdeithasol newydd yn gallu darparu offer yn ei le.

Bathodynnau Glas, bws a chludiant cymunedol

Mae'r cynllun Bathodynnau Glas yn cael ei weithredu ar draws y DU. Os oes gennych fathodyn glas sy'n rhoi hawl i chi fanteisio ar lefydd parcio i bobl anabl, nid oes rhaid i chi wneud cais am Fathodyn Glas newydd pan fyddwch yn symud i ardal wahanol. Dylech gysylltu â'ch cyngor lleol newydd tua chwe wythnos cyn i'r dyddiad ar eich Bathodyn Glas ddod i ben, fel y gallant roi un newydd i chi.

Os oes gennych docyn bws am ddim lle rydych yn byw nawr, dylech hefyd fod yn gymwys i gael tocyn bws yn y lleoliad newydd. Mae gan rai cynghorau gonsesiynau eraill i drigolion lleol hefyd. Gallwch gael gwybod beth yw'r rheolau gan eich cyngor newydd.

Gall cludiant cymunedol fod yn wahanol iawn o un cyngor i'r llall. Gallwch gael gwybod gan eich cyngor newydd beth sydd ar gael yn yr ardal yr ydych yn symud iddi.

Gwasanaeth Cadair Olwyn y GIG

Os ydych chi wedi cael cadair olwyn gan Wasanaeth Cadair Olwyn y GIG, dylai eich cadair olwyn fynd gyda chi pan fyddwch yn mudo. Efallai y bydd y Gwasanaeth Cadair Olwyn yn eich ardal newydd yn ymgymryd â'r gwaith o gynnal a chadw'r offer, ond mae hyn yn dibynnu ar y math o gytundeb sydd gennych.

Cymorth ariannol

Eich budd-daliadau

Os ydych yn cael Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd, ni fydd symud tŷ yn effeithio ar y rhain, oni bai eich bod yn symud i ofal preswyl (fel cartref gofal neu hosbis). Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch Canolfan Gwaith os bydd eich cyfeiriad yn newid. Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gymorth Budd-daliadau Anabledd i gael manylion am Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini.

Budd-dal Tai

Os na allwch symud i dŷ newydd wedi'i rentu yn syth oherwydd eich bod yn aros iddo gael ei addasu i ddiwallu'ch anghenion, a bod eich cyngor lleol yn cytuno bod yr oedi'n rhesymol, gallwch gael Budd-daliadau Tai tuag at rent eich tŷ newydd am hyd at bedair wythnos cyn i chi symud iddo. Os ydych chi'n dal i dalu rhent ar eich hen dŷ yn ystod y cyfnod hwn, gallwch gael Budd-daliadau Tai ar y ddau dŷ am y pedair wythnos hynny. Dim ond os ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai y bydd hyn yn berthnasol.

Gadael cartref i astudio mewn addysg uwch

Os ydych yn gadael cartref i ddechrau astudio mewn coleg neu brifysgol, efallai y gallwch gael Lwfansau Myfyrwyr Anabl a chymorth ariannol eraill.

Gwasanaethau lleol yn eich cartref newydd

Cewch wybod mwy am lawer o wasanaethau cyhoeddus yn eich ardal leol, gan gynnwys ysgolion a gwasanaethau iechyd, ar Cross & Stitch. Mewn nifer o achosion, gallwch hefyd wneud cais ar-lein am wasanaethau, hawliadau a grantiau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU