Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cadeiriau olwyn

Un ffordd o gael gafael ar gadair olwyn yw drwy Wasanaeth Cadair Olwyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Mae hyn yn cynnwys asesiad i wneud yn siŵr y diwellir eich anghenion. Gellir cael cadair olwyn wthio neu gadair olwyn â phŵer; ceir pedwar math gwahanol o gadair olwyn â phŵer.

Gwasanaeth Cadair Olwyn y GIG

Rhedir Gwasanaethau Cadair Olwyn y GIG gan awdurdodau iechyd lleol. Maent yn gyfrifol am ddyrannu arian i'r Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol a'r Gwasanaeth Cadair Olwyn, sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth ei hun. Mae hyn weithiau'n cynnwys rhoi'r gwasanaeth yng ngofal cwmni allanol.

Mae'n bwysig nodi bod y modd y mae'r gwasanaethau'n cael eu trefnu a'u darparu yn amrywio o'r naill leoliad i'r llall. Mae hyn yn cynnwys y 'meini prawf cymhwyso' a ddefnyddir i benderfynu pa fath o gadair olwyn i'w darparu, os darperir un o gwbl, faint mor fuan i’w darparu, a sut yr ariannir y cadeiriau olwyn. Mae'r broses sylfaenol fel a ganlyn:

  • cewch eich atgyfeirio at Wasanaeth Cadair Olwyn lleol y GIG
  • gwneir asesiad o'ch anghenion
  • trafodir dewisiadau o ran amserlenni a chyllido
  • darperir y gadair olwyn a hyfforddiant ar sut i'w defnyddio
  • gwneir cynllun ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio

Gellir cael cadair olwyn wthio neu gadair olwyn â phŵer a gellir darparu ategolion megis clustogau, breichiau a hambyrddau.

Atgyfeiriadau ac asesiadau

Atgyfeiriadau

Cewch eich atgyfeirio at wasanaeth gan ysbyty, meddyg, ymgynghorydd neu therapydd galwedigaethol, neu efallai fod y gwasanaeth yn defnyddio system hunan-gyfeirio.

Bydd gan bob gwasanaeth ei feini prawf cymhwyso ei hun ac fe adolygir manylion eich atgyfeiriad er mwyn gwybod beth yw'r flaenoriaeth. Bydd hyn yn cynnwys:

  • natur a lefel eich anabledd neu eich cyflwr meddygol
  • eich ffordd o fyw a'ch anghenion
  • ymhle a phryd y byddwch yn defnyddio'r gadair olwyn
  • eich gallu i ddefnyddio math penodol o gadair olwyn

Dylai'r gwasanaeth gydnabod eich atgyfeiriad o fewn ryw wythnos.

Bydd y gwasanaeth yn rhoi gwybod i'r person a'ch atgyfeiriodd oddeutu pryd y byddwch yn cael y gadair olwyn. Fel arfer, bydd y gwaith asesu'n cymryd rhwng pythefnos a phedair wythnos ar ôl yr atgyfeiriad.

Asesiadau

Cyflawnir yr asesiadau fel arfer yng nghanolfannau neu yng nghlinigau Gwasanaethau Cadair Olwyn y GIG. Gofynnwch i'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol os oes angen help arnoch i deithio yno. Cyflawnir yr asesiad gan rywun proffesiynol sy'n gymwys i gyflawni asesiadau cadair olwyn - er enghraifft, therapydd galwedigaethol.

Yn achlysurol, gall ymgynghorydd ysbyty neu feddyg ragnodi cadair olwyn.

Efallai y bydd angen peiriannydd adsefydlu i fod yn gyfrifol am sut mae'r gadair olwyn yn gweithio - ei dimensiynau, ei defnyddioldeb ac unrhyw addasiadau, nodweddion neu osodiadau y mae eu hangen. Mae hyn yn cynnwys seddi arbennig ar gyfer osgo.

Pan fo'n briodol, gall tîm arbenigol ddarparu asesiadau ar gyfarpar i bobl sydd ag anableddau corfforol difrifol nad ydynt yn gallu defnyddio cadeiriau olwyn arferol ac/neu offer llywio.

Gall yr asesiad gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw'r gadair olwyn ar gyfer plentyn a fydd ag anghenion datblygu. Bydd yr holl sefyllfaoedd ble y gallai'r gadair olwyn gael ei defnyddio - megis yn yr ysgol, wrth ddefnyddio trafnidiaeth a mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol - yn rhan o'r asesiad. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn rhan o'r broses hefyd a dylid ystyried eu barn a'u safbwyntiau hwy.

Ail-asesu eich anghenion

Pan fo anghenion person yn newid, efallai y bydd y Gwasanaeth Cadair Olwyn yn cynnal adolygiad. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, newid o gadair olwyn wthio i un â phŵer.

Derbyn, cynnal a chadw ac atgyweirio eich cadair olwyn

Gall yr amser y bydd yn ei gymryd i'ch cadair olwyn gael ei danfon amrywio, yn dibynnu ar ba fath o gadair olwyn ydy hi ac ar adnoddau lleol. Efallai y daw o 'stoc safonol', a archebwyd gan gyflenwr, neu efallai ei bod yn cael ei gwneud yn arbennig er mwyn diwallu anghenion personol rywun. Efallai y bydd yn rhaid aros am rai misoedd am gadair olwyn sy'n cael ei gwneud yn arbennig ar eich cyfer.

Pan fydd y gadair yn barod, bydd yn cael ei throsglwyddo'n ffurfiol, naill ai yng nghanolfan neu glinig y Gwasanaeth Cadair Olwyn neu yn eich cartref (neu lle rydych chi'n byw). Dylai hyn gynnwys:

  • dangos i chi sut mae defnyddio'r gadair olwyn, gan gynnwys materion diogelwch
  • darparu'r dogfennau perthnasol a man cyswllt ar gyfer ymholiadau yn y dyfodol
  • gwybodaeth am yswiriant a threfnu atgyweiriadau/cynnal a chadw - a phwy sy'n gyfrifol am hyn

Os byddwch yn symud tŷ

Os byddwch yn symud i ardal wahanol, dylech fynd â'r gadair gyda chi. Efallai y bydd y Gwasanaeth Cadair Olwyn newydd yn ymgymryd â'r gwaith o gynnal a chadw'r cyfarpar, ond mae hyn yn dibynnu ar y math o gytundeb sydd gennych. Yn aml iawn, gellir gwneud mân atgyweiriadau yn eich cartref (neu lle rydych chi'n byw).

Mathau o gadeiriau olwyn â phŵer

Defnyddir cadeiriau olwyn â phŵer gan bobl anabl nad ydynt yn gallu defnyddio cadair olwyn â llaw. Mae meini prawf yn cael eu pennu ar gyfer defnyddio rhai mathau o gadeiriau olwyn trydan. Er enghraifft, bodloni gofynion prawf llygad DVLA ar gyfer defnyddio'r ffordd neu'r gofyniad am i gynorthwy-ydd fynychu canolfan/clinig cadair olwyn gyda'r defnyddiwr. Mae 'Cynorthwy-ydd' yn golygu rhywun sy'n helpu i wthio cadair olwyn â llaw neu sy'n rheoli cadair olwyn â phŵer ar ran rhywun arall.

Cynigir pedair math o gadair olwyn â phŵer pan nad yw defnyddiwr yn gallu llywio neu ddefnyddio cadair olwyn â llaw:

  • Cadair Drydan i'w defnyddio Dan Do - yn cael ei rheoli gan y defnyddiwr
  • Cadair Drydan ar gyfer yr awyr agored - yn cael ei rheoli gan gynorthwy-ydd
  • Cadair Drydan i'w defnyddio Dan Do/yn yr Awyr Agored - yn cael ei rheoli gan y defnyddiwr
  • Cadair Pwrpas Deuol - yn cael ei rheoli gan y defnyddiwr dan do a chan gynorthwy-ydd yn yr awyr agored

Caiff cadeiriau olwyn â phŵer a ddefnyddir yn yr awyr agored eu grwpio'n ddau gategori gan y rheoliadau priffyrdd, sef Dosbarth 2 a Dosbarth 3:

  • rhaid i gadeiriau olwyn Dosbarth 2 gael uchafswm cyflymder o 4 milltir yr awr (6.4 cilomedr yr awr) a dim ond ar balmentydd y dylid eu defnyddio
  • rhaid i gadeiriau olwyn Dosbarth 3 gael uchafswm cyflymder o 8 milltir yr awr (12.8 cilomedr yr awr) a gellir eu defnyddio ar y ffordd

Allweddumynediad llywodraeth y DU