Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n chwilio am weithiwr gofal neu gynorthwy-ydd personol i'ch helpu chi i fyw yn annibynnol gartref, efallai y cewch un drwy'r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol neu drwy asiantaeth gofal cartref, neu efallai y byddwch yn dewis cyflogi rhywun yn uniongyrchol.
Mae gan ofalwyr proffesiynol amrywiaeth o sgiliau - mae gan rai gymwysterau nyrsio a chymorth cyntaf a gall eraill fod yn gynorthwywyr personol neu'n weithwyr cymorth cartref. Dyma rai enghreifftiau o'r tasgau y gallai gofalwr eu gwneud:
Mae tri threfniant sylfaenol ar gyfer cael gofalwr proffesiynol.
Efallai y caiff ei ddarparu'n uniongyrchol gan eich adran gwasanaethau cymdeithasol lleol, ac os felly, bydd popeth yn cael ei drefnu i chi.
Efallai y byddwch yn gofyn i asiantaeth gofal ddod o hyd i ofalwr addas. Gyda'r drefn hon rydych chi'n dod o hyd i'r asiantaeth gofal ac yn talu i'r asiantaeth, ond does dim cyfrifoldebau cyflogwr gennych oherwydd bod y gofalwr yn gweithio i'r asiantaeth.
Gallwch hefyd gyflogi gofalwr yn uniongyrchol. Mae'r opsiwn hwn yn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i chi dros y sawl sy'n gofalu amdanoch a'r tasgau a wneir ganddynt, ond mae hefyd yn golygu bod gennych gyfrifoldebau cyfreithiol fel cyflogwr.
Fel arfer y cam cyntaf ar gyfer cael y gofal y mae ei angen arnoch yw asesiad iechyd a gofal cymdeithasol gydag adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol. Yn yr asesiad, bydd arbenigwr (therapydd galwedigaethol fel arfer) yn trafod eich anghenion gyda chi er mwyn iddynt allu darparu'r cymorth gofynnol.
Os bydd yr awdurdod lleol yn cytuno bod angen gofal arnoch gartref, gallwch fel arfer dderbyn taliadau uniongyrchol, er mwyn i chi allu talu am eich gwasanaethau gofal eich hun yn hytrach na'u derbyn gan y cyngor.
Unwaith y byddwch yn gwybod faint fydd y taliadau uniongyrchol, gallwch gyfrifo faint i dalu i ofalwr ac am sawl awr yr wythnos yr hoffech iddynt weithio.
Dylai eich taliadau uniongyrchol fodloni'ch anghenion gofal, ond os ydych am ddefnyddio gwasanaeth gofal drutach neu dalu am oriau ychwanegol, gallwch dalu'r swm ychwanegol eich hun.
Meddyliwch am ba cymorth yn union y byddwch ei angen cyn cyflogi rhywun neu lofnodi contract gydag asiantaeth. Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ddiwrnod nodweddiadol, ac ysgrifennu disgrifiad swydd ar gyfer eich gofalwr. Dylai hwn gynnwys:
Gall disgrifiad swydd manwl helpu asiantaethau gofal cartref i ddewis gofalwr addas ar eich cyfer.
Os ydych yn gobeithio cyflogi gofalwr eich hun, bydd disgrifiad swydd yn helpu pobl sydd am wneud cais i ddeall beth yn union yw'r gwaith.
Mae pob asiantaeth gofal cartref yn Lloegr yn cael eu rheoleiddio a'u harolygu'n gyson gan y Comisiwn Safon Gofal. Mae hyn yn sicrhau safonau sylfaenol. Rhaid i asiantaethau gofal cartref hefyd gynnal archwiliadau'r heddlu ar gyfer pob gweithiwr fydd yn gweithio gyda phobl anabl.
Ar wefannau'r Comisiwn Safon Gofal a Chymdeithas Gofal Cartref y Deyrnas Unedig, gallwch chwilio am asiantaeth gofal cartref yn eich ardal leol. Mae gwefan y Comisiwn Safon Gofal hefyd yn cynnwys adroddiadau arolygu ar asiantaethau gofal cartref unigol.
Gallwch osod hysbyseb swydd yn eich Canolfan Waith leol am ddim. Efallai bod hysbysfyrddau mewn siopau lleol, archfarchnadoedd a chan fudiadau gwirfoddol lle gallwch osod hysbysebion swyddi.
Dylai hysbyseb swydd fod yn fyr a dylai nodi:
Oherwydd diogelwch, mae'n well rhoi eich rhif ffôn symudol neu rif blwch yn eich hysbyseb, yn hytrach na'ch cyfeiriad neu’ch rhif ffôn cartref.
Pan fyddwch wedi derbyn ceisiadau, y cam nesaf yw dewis y bobl yr hoffech eu cyfweld am y swydd. Gallwch ofyn i ffrind neu berthynas fynychu'r cyfweliad er mwyn bod yn gefn i chi, yn enwedig os bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yn eich cartref.
Cyn y cyfweliadau, dylech baratoi rhestr o gwestiynau ar brif agweddau'r swydd.
Ar ôl penderfynu ar y person gorau, chi sy'n gyfrifol am sicrhau eu bod yn addas. Dylech bob amser ofyn am ddau eirda o leiaf - a mynd ar eu hôl - gan gynnwys un oddi wrth rywun y maent wedi gofalu amdano'n flaenorol.
Does dim rhaid i gyflogwyr unigol ofyn am archwiliad gan yr heddlu ar unrhyw weithiwr posib ond mae'n bosibl y byddwch yn dal am wneud hyn. Bydd angen i chi ofyn i'r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol neu fudiad gwirfoddol lleol wneud cais i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol am wybodaeth ar eich rhan.
Efallai y gall rhai elusennau a mudiadau anabledd eich helpu gyda'r broses o gyflogi gofalwr. Mae gwefan y Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yn cynnwys arweiniad i gyflogi cynorthwy-ydd personol, a all fod yn ddefnyddiol.
Pan fyddwch yn cyflogi gofalwr yn uniongyrchol, mae gennych rai cyfrifoldebau fel cyflogwr, yn cynnwys delio gyda threth ac yswiriant. Nid yw hyn yn anodd, a gallwch gael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol gyda'r gwaith papur.