Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfarpar i'w ddefnyddio o amgylch y cartref

Gall cyfarpar arbenigol ac addasiadau ei gwneud yn llawer haws i chi fyw yn annibynnol yn eich cartref eich hun. Mae'r offer sydd ar gael yn amrywio o gyfarpar mawr megis lifft grisiau a theclynnau codi i declynnau llai ar gyfer pobl ag anableddau penodol.

Nid yw'r dudalen hon yn delio gyda chyfarpar a chymhorthion iechyd personol megis cadeiriau olwyn neu gymhorthion clyw. Ceir adran ar wahân sy'n sôn am gyfarpar personol, sydd hefyd yn sôn am gŵn cymorth.

Eitemau mawr neu osodion parhaol

Os oes gennych anabledd corfforol, ac yn enwedig os ydych yn defnyddio cadair olwyn, efallai y bydd angen cyfarpar a gosodion parhaol arnoch yn eich cartref er mwyn i chi allu byw yno'n annibynnol.

Mae enghreifftiau o gyfarpar ac addasiadau yn cynnwys:

  • lifft grisiau
  • teclynnau codi sy'n sownd yn y to
  • gwely y gellir addasu ei uchder â llaw neu â phŵer
  • offer â phŵer ar gyfer codi coesau pobl sy'n cael trafferth codi'u coesau i fynd i'r gwely

Efallai y bydd angen gwneud gwaith addasu yn eich cartref hefyd - er enghraifft, lledu'r drysau neu osod ramp.

Eitemau bob dydd i wneud bywyd yn haws

Mae ystod eang o declynnau ac offer ar gael i wneud tasgau bob dydd yn haws i bobl ag anableddau penodol. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • clampiau a dalwyr i ddal jariau'n gadarn er mwyn gallu'u hagor ag un llaw
  • clorian cegin sy'n siarad ar gyfer pobl ddall neu bobl â nam ar eu golwg
  • clociau larwm sy'n dirgrynu dan y gobennydd ar gyfer pobl fyddar neu bobl drwm eu clyw
  • teclynnau tywallt dŵr o degell ar gyfer unigolion sy'n gyfyngedig o ran eu gallu i symud neu gryfder yn eu breichiau
  • teclynnau sy'n atgoffa pobl â'u cof yn pallu neu bobl ag anableddau dysgu i wneud tasgau beunyddiol megis cymryd tabledi

Mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu am y cyfarpar eich hun. Os bydd darn o gyfarpar yn ateb angen yn unol ag asesiad y cyngor lleol o'ch anghenion chi, gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu amdano neu i gyfrannu tuag at y gost.

Mae gan y Sefydliad Byw'n Anabl ystod eang o daflenni ffeithiau, gan gynnwys sawl taflen ffeithiau sy'n sôn am gyfarpar i'w ddefnyddio yn y cartref.

Ffyrdd gwahanol o wneud pethau syml bob dydd

Weithiau, nid cyfarpar yw'r ffordd orau o ddiwallu'ch anghenion.

Yn hytrach na phrynu cyfarpar, efallai y gallwch newid eich ffordd o wneud pethau bob dydd er mwyn eu gwneud yn haws. Efallai y gall therapydd galwedigaethol awgrymu ffyrdd o wneud pethau mewn ffyrdd nad ydych chi wedi'u hystyried.

Systemau larwm personol a theleofal

Un ystyriaeth bwysig yn aml i bobl anabl sy'n dymuno byw'n annibynnol gartref yw gallu galw am gymorth ar unwaith mewn argyfwng. Un ateb i hyn yw cael system larwm personol.

Gellir cael sawl math o larwm personol. Mae rhai yn dibynnu ar rywun i fod gerllaw - er enghraifft mewn ystafell gyfagos neu drws nesaf.

Mae larymau teleofal (sy'n cael eu hadnabod fel gwasanaethau larwm cymunedol) yn ddefnyddiol iawn ar gyfer pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Maent yn gweithio drwy uned sylfaen yn eich cartref, sydd wedi'i chysylltu â'ch llinell ffôn.Trwy wasgu botwm ar yr uned neu ar y pendant y byddwch yn ei wisgo o gwmpas eich gwddf, rydych yn cael eich cysylltu â pherson cyswllt drwy drefnu'r cymorth y mae ei angen arnoch.

Mae gan rai larymau teleofal synwyryddion symudiad sy'n gallu dweud pan fydd rhywun wedi disgyn ac yn methu codi, neu'n gadael ardal arbennig. Bydd y larymau'n cael eu hysgogi'n awtomatig, fel na fydd angen i'r unigolyn wneud dim byd i alw am gymorth.

Gall taflen ffeithiau'r Sefydliad Byw'n Anabl 'Choosing a personal alarm system' eich helpu i benderfynu pa system larwm personol fyddai'n addas i chi (os o gwbl).

Mae dyfeisiau teleofal sy'n gallu synhwyro mwg, dŵr yn gorlifo, gollyngiadau nwy, tymheredd yr ystafell a mwy ar gael hefyd. Gall nifer o'r rhain fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer unigolion anghofus.

Mae digon o gyngor defnyddiol ar gael yn nhaflen ffeithiau'r Sefydliad Byw'n Anabl 'Choosing equipment to maintain safety and independence at home (introducing telecare)'.

Yn ogystal â hyn, mae gan wefan y Sefydliad Byw'n Anabl ('Living made easy') adran sy'n sôn am deleofal. Mae'n darparu gwybodaeth ddiduedd am ddim am deleofal yn gyffredinol yn ogystal â chynnyrch teleofal sydd ar gael yn y DU.

Cael gwybod am wasanaethau larwm cymunedol yn lleol

Mae nifer o awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau larwm cymunedol. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Dewis cyfarpar

Bydd cael y cyfarpar iawn gartref yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd eich bywyd, felly dylech gael cyngor a rhoi cynnig ar ddefnyddio'r cyfarpar cyn prynu.

Cyfarpar yn y gweithle

Efallai y bydd angen cymhorthion a chyfarpar arbennig arnoch yn eich gwaith i'ch helpu chi i wneud eich gwaith.

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, rhaid i'ch cyflogwr ystyried gwneud 'addasiadau rhesymol' er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith. Gall hyn gynnwys darparu cymhorthion a chyfarpar.

Gall eich cyflogwr gael cymorth ariannol gan raglen 'Mynediad at Waith' y Ganolfan Byd Gwaith i helpu i dalu am gostau unrhyw offer neu addasiadau sydd ei angen arnoch. Does dim rhaid i chi dalu dim tuag at hyn.

Cysylltiadau defnyddiol

Mae nifer o sefydliadau sy'n darparu cyngor a chymorth ymarferol i helpu pobl sydd angen cyfarpar neu addasiadau i'w galluogi i fyw yn eu cartrefi eu hunain.

Allweddumynediad llywodraeth y DU