Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Is-deitlau, disgrifiadau llafar ac iaith arwyddion ar y teledu

Er mwyn ei gwneud yn fwy hwylus i bawb fwynhau'r hyn sydd ar y teledu, mae fformatau gwahanol wedi'u datblygu ac yn dal i gael eu datblygu. Mae fformatau a gwasanaethau'n cynnwys is-deitlau, disgrifiadau llafar ac iaith arwyddion. Mae’r llywodraeth wedi gosod targedau ar gyfer darlledwyr teledu i wella’u hygyrchedd.

Is-deitlau

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod am is-deitlau y gellir eu troi ymlaen a'u diffodd ar gyfer amrywiaeth eang o raglenni teledu, DVDs a fideos.

Yn unol â deddfwriaeth, rhaid i 90 y cant o raglenni Sianel 3 (ITV) a Sianel 4 gael is-deitlau erbyn diwedd 2010. Mae’r BBC wedi ymrwymo i isdeitlo ei holl rhaglenni yn barod.

Mae dyletswyddau is-deitlo hefyd wedi eu hymestyn i nifer o sianelau eraill, p'un ai drwy signal daearol digidol ynteu signal lloeren digidol y maent yn darlledu. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o sianeli o flaen y targedau sydd wedi’u osod iddynt.

Mae gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) daflen ffeithiau ar eu gwefan o'r enw 'Sut mae cael is-deitlau'. Mae'n esbonio sut mae defnyddio is-deitlau a'r offer angenrheidiol, pan fo angen.

Disgrifiadau llafar

Mae disgrifiad llafar yn ychwanegol at ddeialog y rhaglen. Gyda disgrifiadau llafar, bydd person yn rhoi disgrifiad, er enghraifft, o weithredoedd ac iaith corff yr actorion.

Mae technoleg wedi'i datblygu er mwyn cael 'modd' ar wahân o gludo'r gwasanaeth hwn. Bydd yn galluogi person dall neu berson â nam ar ei olwg i fwynhau rhaglen drwy ddefnyddio disgrifiad llafar gyda rhywun nad oes angen y gwasanaeth hwn arnynt.

Gall pobl sy'n tanysgrifio i wasanaethau cebl digidol neu signal lloeren digidol gael disgrifiadau llafar drwy addasu'r gosodiadau ar y blychau sy'n mynd ar ben set deledu, a gall pobl sy'n gwylio sianelau daearol digidol eu cael drwy brynu derbynnydd addas.

Mae disgrifiadau llafar ar gael hefyd ar rai fideos a DVDs. Mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda chynhyrchwyr a darlledwyr i ddatblygu'r dechnoleg hon a sicrhau ei bod ar gael i bobl.

Y targed presennol yw cael disgrifiadau llafar gyda 10 y cant o raglenni, a'r rheini gyda'r un dyddiadau targed ag i'r is-deitlau.

Mae gwefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) yn cynnwys gwybodaeth am sut i hwyluso'r defnydd o'r teledu i bobl ddall neu i bobl â nam ar eu golwg. Mae ganddynt hefyd lyfrgell o DVDs a fideos gyda disgrifiadau llafar.

Iaith arwyddion

Dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 rhaid i ddarlledwyr fodloni'r gofynion cyfreithiol naill ai drwy gyfieithu rhaglenni i iaith arwyddion, neu sicrhau bod rhaglenni'n cael eu gwneud gan bobl fyddar neu ar eu rhan, ac yn cael eu cyflwyno mewn iaith arwyddion.

Y targed yw cael iaith arwyddion ar 5 y cant o raglenni gan ddilyn yr un dyddiadau targed ag i'r is-deitlau.

Mae gan wefan y BBC ardal Sign Zone ymroddedig ar ei iPlayer, sy’n caniatáu mynediad i’r holl raglenni gydag iaith arwyddion.

Hwyluso mynediad at wasanaethau teledu

Targedau'r llywodraeth ar gyfer darlledwyr

Mae'r gwaith o hwyluso mynediad at wasanaethau teledu i bobl sydd â nam ar y synhwyrau yn gwella drwy'r amser. Ceir targedau tymor byr a hirdymor ar gyfer darlledwyr teledu masnachol ac anfasnachol er mwyn iddynt ddarparu cyfran o'u rhaglenni mewn fformatau gwahanol.

Mae'r daflen 'Television access for people with sensory impairments' yn cynnwys gwybodaeth am y targedau y mae'n rhaid i ddarlledwyr eu cyrraedd o ran darparu rhaglenni mewn fformatau gwahanol. Gallwch lwytho'r daflen hon oddi ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Y gyfraith ar hwyluso mynediad at wasanaethau teledu

Roedd Deddf Cyfathrebu 2003 yn disodli'r holl ddeddfwriaeth flaenorol ynghylch yr hyn y mae disgwyl i ddarlledwyr ei ddarparu o ran fformatau gwahanol.

Ofcom (Swyddfa Cyfathrebu) sy'n gyfrifol am weithredu darpariaethau'r Ddeddf Cyfathrebu. Byddant hefyd yn monitro pa mor dda mae sianelau perthnasol yn diwallu'r gofynion cyfreithiol ac mae'r grym ganddynt i osod sancsiynau, gan gynnwys rhoi dirwyon i ddarlledwyr nad ydynt yn cydymffurfio. Nodir manylion yr holl sianelau y mae'n ofynnol iddynt ddarparu mynediad at wasanaethau, a'r targedau presennol y mae'n ofynnol iddynt eu cyflawni, yng Nghod Ofcom ar Hwyluso Mynediad at Wasanaethau Teledu, sydd ar gael ar ei gwefan.

Allweddumynediad llywodraeth y DU