Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd mewn fformatau hwylus

Os ydych yn ddall neu â nam ar eich golwg, mae'n bosibl mwynhau llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd mewn fformatau hwylus. Mae'r rhain yn cynnwys fersiynau Braille, print bras a sain.

Llyfrau llafar

Mae gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) lyfrgell fawr o lyfrau llafar. Rhaid talu tanysgrifiad a bydd rhaid i'ch meddyg neu'ch offthalmolegydd lleol lofnodi'r ffurflen gais. Gwneir hyn er mwyn cadarnhau eich bod yn gymwys i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Ffoniwch gwasanaethau cwsmeriaid y RNIB: 0845 762 6843

Efallai y gall eich gwasanaethau cymdeithasol lleol ddarparu peiriant ar gyfer chwarae llyfrau llafar.

Llyfrau Braille, Moon a phrint bras

Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) yn cyhoeddi cylchgronau a deunydd arall mewn Braille a Moon. Maent yn cynnwys arweinlyfrau i raglenni teledu a radio, ynghyd â chylchgronau hamdden, hobïau a ffordd o fyw.

System print dyrchafedig ydy Moon sy'n haws i'w darllen na'r system Braille fwy cymhleth.

Papurau newydd a chylgronnau llafar

Mae'r mudiad 'Talking Newspapers' (TNAUK) yn cynnig dewis o fformatau i'r rhai sy'n tanysgrifio i'w gwasanaeth ar gyfer papurau newydd a chylchgronau sy'n cael eu recordio. Mae'r rhain yn cynnwys casetiau sain, disgiau cyfrifiadurol ac ebost.

Mae TNAUK yn cynnig dros 200 o gyhoeddiadau gan gynnwys cylchgronau ffordd-o-fyw poblogaidd. Mae'u gwasanaeth digidol yn darparu papurau newydd cenedlaethol yn ddyddiol.

Rhif ffôn: 01435 866 102

Mae yna hefyd dros 500 o bapurau lleol ym Mhrydain sy’n darparu papurau newydd llafar, mewn fformat tâp yn fwy na dim. Am ragor o wybodaeth ar bapurau newydd llafar lleol, gallwch ymweld â gwefan Talking Newspapers Federation.

Mynediad at wasanaethau'r llyfrgell yn lleol

Os ydych yn ei chael hi'n anodd i gyrraedd eich llyfrgell leol, gallwch chwilio'n aml drwy'r catalogau llyfrgell a rheoli eich benthyciadau llyfrgell ar eich wefan awdurdodol lleol. Gallwch lenwi eich manylion am eich cartref yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i'r wefan am eich awdurdod lleol ble gallwch gael gwybod mwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU