Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn ôl y gyfraith, mae sgwter symudedd neu gadair olwyn bŵer yn ‘gerbyd i bobl anabl’. Mae cerbydau i bobl anabl yn cael eu dosbarthu i dri chategori neu ddosbarth. Gellir defnyddio sgwter neu gadair olwyn dosbarth 3 ar y ffordd. Ceir rhai gofynion cyfreithiol ar gyfer cerbydau dosbarth 3.
Ceir tri math o gerbyd i bobl anabl:
Rhaid i chi gofrestru cerbyd dosbarth 3 gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Gallwch ddefnyddio eich sgwter neu gadair olwyn dosbarth 3:
Rhaid i chi beidio â'i ddefnyddio ar draffyrdd, ar lonydd beicio ac ar lonydd bysiau.
Dylech osgoi ei ddefnyddio ar ffyrdd deuol sydd â chyfyngiad cyflymder dros 50 mya. Os byddwch yn defnyddio eich sgwter neu eich cadair olwyn â phŵer ar ffordd ddeuol, rhaid i chi ddefnyddio golau ambr sy'n fflachio, sy'n hawdd ei weld.
Nid yw cerbyd dosbarth 3 yn cael ei ddiffinio yn ôl y gyfraith fel cerbyd modur. Am y rheswm hwn, nid yw'n ofynnol i'r defnyddiwr gael trwydded yrru nac i sefyll prawf. Rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn i yrru cerbyd dosbarth 3.
Rhaid i chi beidio â defnyddio’ch sgwter neu'ch cadair olwyn bŵer os ydych dan ddylanwad alcohol, cyffuriau neu feddyginiaeth a allai effeithio'ch gallu i yrru. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'ch meddyg.
Dim ond dan yr amodau canlynol y gall rhywun heb anabledd ddefnyddio cerbyd dosbarth 3:
Nid oes raid i chi dalu Treth Cerbyd – a elwir yn dreth ffordd – ond bydd angen i chi gofrestru eich sgwter neu'ch cadair olwyn gyda’r DVLA a dangos disg ‘dim treth’. Nid oes angen platiau cofrestru ar gyfer cerbyd dosbarth 3
Nid oes rhaid i chi gymryd yswiriant, ond fe'ch argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud hyn.
Rhaid sicrhau bod gan y cerbyd nodweddion penodol o ran adeiladwaith, gan gynnwys:
Os na ddiwellir y gofynion hyn, mae'n bosib y cewch eich erlyn gan yr heddlu.
Mae’n rhaid cofrestru cerbydau dosbarth 3 i bobl anabl i'w defnyddio ar y ffordd, rhaid eu trwyddedu yn y dosbarth treth 'anabl' a dangos disg dim treth.
Nid oes rhaid i gerbydau ar gyfer pobl anabl ddarparu tystiolaeth eu bod wedi’u heithrio rhag talu treth cerbyd pan fyddant yn cael eu trwyddedu yn y dosbarth pobl anabl. Cânt hefyd eu heithrio rhag talu’r ffi cofrestru cyntaf.
I gofrestru a thrwyddedu cerbyd dosbarth 3 i bobl anabl, rhaid i chi lenwi ffurflen V55/5 ar gyfer cerbydau ail-law, neu ffurflen V55/4 ar gyfer cerbydau newydd. Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi, ynghyd â thystiolaeth o oed y cerbyd (os yw ar gael) a dogfennau yn cadarnhau enw'r ceidwad a'i anfon i’ch swyddfa DVLA leol.
Ni allwch drwyddedu’ch cerbyd dosbarth 3 ar gyfer pobl anabl mewn Swyddfa Bost na thrwy ddefnyddio’r gwasanaeth Trwyddedu Cerbydau’n Electronig.
Unwaith y bydd eich cerbyd i bobl anabl wedi'i gofrestru gyda’r DVLA, dylech gael disg treth 12-mis ar ei union gan y DVLA cyn i’ch disg treth gyfredol ddod i ben.
Er nad ydyw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, fe’ch argymhellir yn gryf i gael polisi yswiriant. Mae cynlluniau addas ar gael i warchod eich diogelwch personol chi, diogelwch pobl eraill a gwerth y cerbyd.
See also...