Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio budd-daliadau wrth wirfoddoli

Cewch wirfoddoli a derbyn budd-daliadau yr un pryd gyhyd â bod y gwaith a wnewch yn ddi-dâl, a'ch bod yn cydymffurfio â rheolau'ch budd-dal. Holwch eich cynghorydd budd-daliadau cyn dechrau gwirfoddoli.

Sut y bydd gwirfoddoli yn effeithio ar eich budd-daliadau

Ni ddylai gwirfoddoli effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau, gyhyd â bod unrhyw arian a dderbyniwch ar gyfer treuliau gwirfoddoli, megis teithio o gartref i'r man lle byddwch yn gwirfoddoli.

Does dim terfynau o ran faint o amser y gallwch wirfoddoli gyhyd â'ch bod yn parhau i fodloni amodau'r budd-dal neu gredyd treth yr ydych yn ei dderbyn.

Er enghraifft, os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith rhaid i chi fod wrthi'n chwilio am swydd amser llawn, yn gallu mynychu cyfweliadau swydd ar rybudd o 48 awr a bod ar gael i weithio o fewn wythnos.

Ond, yn y rhan fwyaf o achosion, os byddwch yn gwirfoddoli'n amser llawn ac yn derbyn lwfans gan y mudiad lle rydych yn gwirfoddoli, ni fyddwch fel arfer yn gymwys i dderbyn budd-daliadau. Mae bob amser yn ddoeth trafod eich dewis o waith gwirfoddol gyda'ch cynghorydd budd-daliadau cyn i chi ddechrau.

Gall eich cynghorydd budd-daliadau amrywio yn dibynnu ar y math o fudd-dal yr ydych yn ei dderbyn. Gallai fod o'r cyngor lleol (ar gyfer budd-daliadau megis y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai), y Ganolfan Byd Gwaith neu'r Gwasanaeth Pensiwn.

Sut y diffinnir gwaith gwirfoddol

O ran budd-daliadau a chredydau treth, cewch eich ystyried yn wirfoddolwr:

  • os nad ydych chi'n derbyn unrhyw arian am y gwaith rydych yn ei wneud (nid yw hyn yn cynnwys treuliau)
  • os nad oes dyletswydd gyfreithiol arnoch i wirfoddoli
  • os byddwch yn gwneud rhywbeth i fudiad di-elw
  • os byddwch yn gwneud rhywbeth i rywun nad yw'n aelod o'r teulu

Os byddwch yn derbyn unrhyw arian ar wahân i arian ar gyfer eich treuliau, bydd fel arfer yn cael ei drin fel incwm ac yn cael ei ystyried wrth asesu'ch budd-dal. Mae'n cynnwys taliad ar ffurf nwyddau ac 'arian poced'. Os nad ydych yn siŵr am rywbeth y byddwch yn ei dderbyn ar ben eich treuliau, cysylltwch â'ch cynghorydd budd-daliadau.

Os dewiswch beidio â chael eich talu am waith a wnewch, nid yw hyn yr un peth â gwirfoddoli. Gallai'r cyflog y byddech yn ei dderbyn fel arfer gael ei ystyried yn 'enillion tybiannol'. Os ydych yn derbyn budd-dal sy'n seiliedig ar incwm megis Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor, gallai effeithio ar y budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn.

Treuliau a lwfansau

Fel gwirfoddolwr, efallai y byddwch yn derbyn arian ar gyfer y treuliau sy'n gysylltiedig â gwirfoddoli. Gall hyn gynnwys cost teithio i'ch gwaith gwirfoddol ac yn ôl, cost unrhyw offer arbennig gofynnol megis dillad gwrth-ddŵr, costau unrhyw brydau bwyd yn ystod y gwirfoddoli neu gost gofal plant os oes gennych blant.

Rhaid i chi ddatgan yr holl dreuliau a gewch wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith. Os mai'r unig arian y byddwch yn ei dderbyn yw'r arian ar gyfer eich treuliau o wirfoddoli, ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau.

I gael rhagor o gyngor am fudd-daliadau penodol, darllenwch 'Volunteering while receiving benefits' sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod.

Mae rhai rhaglenni amser llawn yn rhoi lwfansau i'w gwirfoddolwyr ar gyfer costau byw a theithio sylfaenol. Yn achos y rhan fwyaf o fudd-daliadau (heb gynnwys y Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gofalwr) ni fydd gennych hawl i dderbyn unrhyw fudd-daliadau eraill.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Muck In4Life

O glirio pyllau i blannu coed – gallwch ddod o hyd i brosiectau gwirfoddoli cadwraeth i’r teulu i gyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU