Cyfrifoldebau iechyd a diogelwch cyflogwyr
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldebau am iechyd a lles eu gweithwyr. Maent hefyd yn gyfrifol am unrhyw ymwelwyr i’w hadeilad fel cwsmeriaid, cyflenwyr a’r cyhoedd. Cael gwybod mwy ynghylch dyletswydd gofal eich cyflogwr.
Y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Y prif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n cynnwys iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â gwaith yn y Deyrnas Unedig yw’r ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. Mae’n nodi llawer o gyfrifoldebau eich cyflogwr am eich iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Asesiadau risg
Mae gan eich cyflogwyr 'ddyletswydd gofal' i ofalu, cyn belled ag y bo modd, amdano’ch iechyd, eich diogelwch a'ch lles tra'ch bod yn y gwaith. Dylent ddechrau drwy wneud asesiad risg i weld a oes unrhyw beryglon posib i iechyd a diogelwch.
Rhaid iddyn nhw benodi 'rhywun cymwys' sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch. Un o'r perchnogion mewn cwmni llai, neu aelod o'r staff sydd wedi'i hyfforddi ym maes iechyd a diogelwch mewn busnesau mwy, yw hyn fel arfer.
Busnes sy'n cyflogi pump o bobl neu fwy
I fusnesau sy'n cyflogi pump o bobl neu fwy, rhaid hefyd:
- cadw cofnod swyddogol o ganlyniadau'r asesiad (rhaid i'ch cyflogwyr lunio cynllun i fynd i'r afael â'r risgiau)
- cael polisi iechyd a diogelwch ffurfiol, gan gynnwys trefniadau i warchod eich iechyd a'ch diogelwch (dylech gael gwybod beth yw'r rhain)
Dyletswydd gofal cyflogwyr o safbwynt ymarferol
Rhaid i bawb sy'n cyflogi pobl, beth bynnag y bo maint y busnes:
- sicrhau bod y gweithle'n ddiogel
- atal unrhyw risg i iechyd
- sicrhau bod offer a pheiriannau'n ddiogel i'w defnyddio, a bod arferion gweithio diogel wedi'u sefydlu ac yn cael eu dilyn
- sicrhau bod pob deunydd yn cael ei drin, ei storio a'i ddefnyddio'n ddiogel
- darparu cyfleusterau cymorth cyntaf digonol
- dweud wrthych am unrhyw beryglon posib yn sgîl eich gwaith, am gemegau a sylweddau eraill a ddefnyddir gan y cwmni, a rhoi gwybodaeth, cyfarwyddiadau, hyfforddiant a goruchwyliaeth i chi yn ôl y galw
- llunio cynlluniau argyfwng
- sicrhau bod yr awyru, y tymheredd, y goleuo a'r toiledau a'r cyfleusterau ymolchi a gorffwys i gyd yn ateb gofynion iechyd, diogelwch a lles
- sicrhau bod yr offer gweithio priodol yn cael ei ddarparu a'i fod yn cael ei ddefnyddio'n iawn a'i gynnal a'i gadw'n rheolaidd
- atal neu reoli sefyllfaoedd lle byddwch yn agored i sylweddau a allai niweidio'ch iechyd
- cymryd rhagofalon yn erbyn y risgiau a berir gan sylweddau fflamadwy neu ffrwydrol, offer trydanol, sun a phelydredd
- osgoi gwaith a allai fod yn beryglus yng nghyswllt trin a chodi llwyth â llaw ac os nad oes modd ei osgoi, cymryd rhagofalon i leihau'r risg o niwed
- goruchwylio iechyd fel y bo'r galw
- darparu dillad neu offer gwarchod am ddim os nad oes modd dileu'r risgiau neu eu rheoli'n ddigonol drwy ddulliau eraill
- sicrhau bod yr arwyddion rhybuddio cywir wedi'u darparu a bod rhywun yn gofalu amdanynt
- riportio damweiniau, anafiadau, clefydau a digwyddiadau peryglus penodol naill ai i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu i'r awdurdod lleol, gan ddibynnu ar y math o fusnes
Gwneud y gweithle'n ddiogel ac yn iach
Er mwyn sicrhau bod eich gweithle'n ddiogel ac yn iach i weithio ynddo, dylai eich cyflogwyr:
- sicrhau bod y llefydd gweithio'n cael eu hawyru'n iawn, gydag awyr iach a glân
- cadw'r tymheredd yn gyfforddus - o leiaf 13 gradd C os yw'r gwaith yn gorfforol neu 16 gradd C ar gyfer llefydd gwaith 'llonydd' ee swyddfeydd ond nid oes terfyn uchaf
- goleuo adeiladau fel y gall y gweithwyr weithio a symud o gwmpas yn ddiogel
- cadw'r gweithle a'r offer yn lân
- sicrhau bod ystafelloedd gweithio'n ddigon mawr i bobl allu symud o gwmpas yn rhwydd gydago leiaf 11 medr ciwb y person
- darparu gweithfannau addas ar gyfer y gweithwyr ac ar gyfer y gwaith
- cadw'r gweithle a'r offer mewn cyflwr gweithio da
- sicrhau bod lloriau, llwybrau, grisiau, ffyrdd ayb yn ddiogel i'w defnyddio
- gwarchod pobl rhag disgyn o uchder neu i mewn i sylweddau peryglus
- storio pethau fel nad ydynt yn debygol o ddisgyn ac achosi anaf
- gosod dyfeisiau diogelwch ar ffenestri, drysau a gatiau sy'n agor os oes angen
- darparu cyfleusterau ymolchi addas a dur yfed glân
- os oes angen, darparu rhywle i weithwyr newid a storio'u dillad eu hunain
- neilltuo llefydd i bobl gael amser egwyl ac i fwyta'u prydau, gan gynnwys cyfleusterau addas i fenywod beichiog a mamau sy'n bwydo o'r fron
- gadael i weithwyr gael amser egwyl priodol a'r gwyliau y mae ganddynt yr hawl iddynt
- sicrhau bod gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, neu oddi ar y safle, yn gallu gwneud hynny mewn modd diogel ac iach
Beth i'w wneud nesaf
Rydych chi hefyd yn gyfrifol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun yn y gwaith. Cewch wrthod gwneud rhywbeth nad yw'n ddiogel heb gael eich bygwth â chamau disgyblu.
Os tybiwch nad yw'ch cyflogwyr yn ysgwyddo'u cyfrifoldebau, mynnwch sgwrs â nhw'n gyntaf. Mae'n bosib y gallai cynrychiolydd diogelwch neu swyddog undeb llafur eich helpu gyda hyn. Os bydd pethau'n mynd i'r pen, mae'n bosib y bydd rhaid i chi riportio'ch cyflogwyr i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu i adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.
Os cewch chi'ch diswyddo am wrthod gwneud gwaith peryglus, mae'n bosib y bydd gennych hawl i ddwyn achos diswyddo annheg mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.
Ble i gael cymorth
I gael mwy o wybodaeth ar ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch ymweld â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy am undebau llafur.