Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynrychiolwyr iechyd a diogelwch

Mae gan eich cyflogwr ddyletswydd i ymgynghori â phob aelod o'r staff am faterion iechyd a diogelwch yn y gweithle. Byddant yn gwneud hyn naill ai drwy sgwrsio'n uniongyrchol â'r gweithwyr neu â chynrychiolwr diogelwch sy'n gweithredu ar ran y gweithwyr.

Hawliau a swyddogaethau cynrychiolwyr diogelwch

Os yw eich cyflogwr yn cydnabod undeb llafur a bod yr undeb wedi penodi cynrychiolydd diogelwch, rhaid i'ch cyflogwr ymgynghori â'r cynrychiolydd diogelwch.

Os nad oes undeb llafur cydnabyddedig, rhaid i'ch cyflogwr naill ai ymgynghori'n uniongyrchol â chi neu, os oes cynrychiolydd diogelwch gweithwyr (CDG) wedi'i ethol, cysylltu â'r CDG.

Mae gan gynrychiolwyr diogelwch hawliau a swyddogaethau penodol gan gynnwys yr hawl cyfreithiol i wneud y canlynol:

  • cynrychioli'r gweithwyr mewn sgyrsiau gyda'r cyflogwyr neu gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) neu asiantaethau eraill yn y maes gorfodi diogelwch neu amgylcheddol
  • archwilio cwynion, peryglon posibl a digwyddiadau peryglus
  • cynnal archwiliadau rheolaidd yn y gweithle
  • cymryd rhan mewn asesiadau risg yn y gweithle

Mae swyddogaethau CDG yn cynnwys:

  • cynrychioli buddiannau gweithwyr mewn sgyrsiau gyda'r cyflogwyr drwy ymgynghori gyda HSE ac asiantaethau eraill yn y maes gorfodi diogelwch neu amgylcheddol
  • siarad â'r cyflogwyr am beryglon yn y gwaith a materion iechyd a diogelwch eraill

Dyletswydd cyflogwr i ymgynghori am iechyd a diogelwch

Mae gan eich cyflogwr ddyletswydd gyfreithiol i:

  • ymgynghori am unrhyw beth a allai effeithio ar iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • rhoi cyfle i chi, os ydynt yn ymgynghori'n uniongyrchol â chi, neu i'ch cynrychiolydd diogelwch neu'ch CDG, y cyfle i leisio barn

Rhaid iddynt ystyried y farn hon wrth benderfynu.

Rhaid i'ch cyflogwr ymgynghori ynghylch:

  • newidiadau mewn arferion neu weithdrefnau gweithio a allai effeithio ar eich iechyd a'ch diogelwch
  • trefniadau i ddefnyddio pobl gymwys i helpu'r busnes i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • darparu gwybodaeth am risgiau i iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • cynllunio hyfforddiant iechyd a diogelwch
  • materion iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â thechnoleg newydd

Os na fydd eich cyflogwr yn ymgynghori'n unol â'r gyfraith, bydd hynny'n drosedd.

Ydych chi wedi'ch gwarchod os byddwch chi'n riportio rhywbeth i'ch cynrychiolydd diogelwch?

Dan y gyfraith, rydych wedi'ch gwarchod fel 'chwythwr chwiban' ynghylch diogelwch dan yr amodau hyn:

  • trosedd
  • os torrwyd dyletswydd dan y gyfraith
  • achos o gamweinyddu cyfiawnder
  • os oes perygl i iechyd neu ddiogelwch unrhyw unigolyn
  • niwed i’r amgylchedd
  • os oes gwybodaeth am unrhyw un o'r uchod yn cael ei chuddio'n fwriadol

Public Concern at Work yw'r prif awdurdod ym maes chwythu'r chwiban er budd y cyhoedd. Mae modd cysylltu â nhw ar 020 7404 6609 (rhwng 9.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu e-bost helpline@pcaw.co.uk.

Sut mae dod yn gynrychiolydd diogelwch?

Os yw eich undeb llafur yn cael ei gydnabod a'ch bod yn awyddus i ddod yn cynrychiolydd diogelwch, mynnwch sgwrs ag ysgrifennydd eich cangen i gael gwybod sut mae cael eich ethol neu'ch penodi i gynrychioli'r gweithlu. Fel arfer bydd angen dwy flynedd o brofiad arnoch chi yn eich swydd bresennol neu waith tebyg.

Fel cynrychiolydd diogelwch, bydd gennych yr hawl i:

  • ddefnyddio ffôn ac offer y swyddfa i wneud eich gwaith
  • amser rhesymol o'r gwaith gyda chyflog i gyfarfod â'r staff a chynrychiolwyr eraill ac er mwyn gwneud archwiliadau
  • amser o'r gwaith i gael hyfforddiant perthnasol a chael eich talu am yr amser o'r gwaith os yw hynny yn ystod oriau gweithio arferol

Rhaid i CDG gael ei ethol gan y gweithlu. Fel CDG rhaid i’ch cyflogwr ddarparu hyfforddiant perthnasol i chi ym maes iechyd a diogelwch a thalu amdano. Os bydd yr hyfforddiant hwnnw yn ystod eich oriau gweithio arferol bydd gennych yr hawl i gael amser o'r gwaith gyda thâl.

Gwarchodaeth i gynrychiolwyr iechyd a diogelwch

Nid yw hawliau a swyddogaethau cynrychiolwyr iechyd a diogelwch yn rhoi unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol iddynt. Golyga hyn fod gan gynrychiolydd diogelwch yr un cyfrifoldeb cyfreithiol am dorri rheolau iechyd a diogelwch ag unrhyw weithiwr arall.

Y cam nesaf

Os ydych chi am drafod mater iechyd a diogelwch yn y gwaith, holwch pwy yw eich cynrychiolydd diogelwch. Cysylltwch â chynrychiolydd eich undeb llafur neu ag ysgrifennydd eich cangen leol os ydych chi'n aelod o undeb. Fel arall, holwch eich rheolwr/wraig llinell.

Os ydych chi eisoes yn gynrychiolydd diogelwch, gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch hyfforddi'n briodol. Os nad yw'ch cyflogwr yn fodlon rhoi amser i chi o'r gwaith i gael eich hyfforddi, neu os nad yw'n talu ichi am amser o'r gwaith, fe allwch fynd â nhw at Dribiwnlys Cyflogaeth.

Os nad yw eich cyflogwr yn dilyn y rheoliadau ar gyfer ymgynghori am iechyd a diogelwch, dylech ddilyn y drefn gwyno a nodir yn eich contract cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

I gael cyngor am iechyd a diogelwch yn y gwaith, ffoniwch linell wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055 (8.00 am - 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU