Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Chwythu'r chwiban ar gamweddau yn y gweithle

Os ydych chi'n chwythu'r chwiban ar gamweithredu neu gamwedd yn y gweithle dylech ddatgelu'r wybodaeth wrth eich cyflogwr neu 'unigolyn penodedig' er mwyn sicrhau bod eich hawliau cyflogaeth wedi'u diogelu.

Chwythu'r chwiban - dweud wrth eich cyflogwr

Os ydych chi'n chwythu'r chwiban ar gamweithredu yn y gweithle dylech wir ystyried datgelu'r wybodaeth wrth eich cyflogwr. Os byddwch yn datgelu'r wybodaeth wrth eich cyflogwr bydd hyn yn help i sicrhau yr ymdrinnir â'ch pryderon yn gyflym a gan y person iawn.

Os ydych yn gweithio i gwmni bach, mae'n bosib mai cyfarwyddwr y cwmni yw'r person iawn i ddatrys y broblem.

Dylech edrych ar eich contract cyflogaeth i weld a oes gan eich cwmni broses i'ch helpu i wneud y datgeliad. Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd eich cyflogwr yn addasu'r drefn, er enghraifft i ganiatáu datgeliadau cyfrinachol.

Chwythu'r chwiban - dweud wrth unigolyn penodedig

Os ydych chi'n teimlo nad ydych yn gallu defnyddio trefn ddatgelu eich cwmni gallwch ddatgelu'r wybodaeth wrth bobl benodedig eraill.

Ni chewch wneud datgeliad wrth unigolyn penodedig oni bai eich bod:

  • yn datgelu'r wybodaeth yn ddidwyll
  • yn credu'n rhesymol bod yr wybodaeth yr ydych yn ei datgelu gan fwyaf yn wir
  • yn credu'n rhesymol eich bod yn datgelu'r mater wrth yr unigolyn neu'r corff iawn (ee yn datgelu materion iechyd a diogelwch wrth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu wrth yr awdurdod lleol)

Chwythu'r chwiban i’ch cynghorwr cyfreithiol

Gallwch ddatgelu gwybodaeth am gamweddau yn eich gwaith tra byddwch yn cael cyngor cyfreithiol gan gynghorydd cyfreithiol. Byddai'r datgeliad hwnnw wedi'i ddiogelu.

Chwythu'r chwiban i un o weinidogion y llywodraeth

Os ydych yn gyflogedig yn y sector cyhoeddus fe allech ddatgelu gwybodaeth am gamweddau wrth weinidog neu aelod o Weithrediaeth yr Alban, os byddwch yn gwneud hynny'n ddidwyll.

Chwythu'r chwiban wrth eraill

Os ydych yn datgelu gwybodaeth wrth rywun nad yw'n cael ei restru uchod, ni fydd y datgeliad wedi'i ddiogelu oni bai:

  • eich bod yn datgelu'r wybodaeth yn ddidwyll
  • eich bod yn credu'n rhesymol bod yr wybodaeth gan fwyaf yn wir
  • eich bod yn ei wneud am resymau heblaw budd personol
  • eich bod yn gweithredu'n rhesymol gan ystyried yr amgylchiadau

I wneud datgeliad wedi'i ddiogelu wrth eraill rhaid eich bod naill ai:

  • yn credu'n rhesymol y byddai eich cyflogwr yn eich trin yn annheg petaech yn datgelu'r wybodaeth wrth eich cyflogwr neu wrth unigolyn penodedig
  • yn credu'n rhesymol y byddai datgelu'r wybodaeth wrth eich cyflogwr yn arwain at ddinistrio neu guddio gwybodaeth am y camweddau
  • wedi datgelu'r un wybodaeth neu wybodaeth debyg iawn wrth eich cyflogwr neu wrth unigolyn penodedig yn y gorffennol

Rhaid i Dribiwnlys Cyflogaeth hefyd dybio iddo fod yn rhesymol i chi ddatgelu'r wybodaeth. Bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn ystyried:

  • yr unigolyn y gwnaethoch ddatgelu'r wybodaeth iddo (ee, mae'n bosib y bydd datgelu'r wybodaeth i gorff proffesiynol perthnasol, yn hytrach na'r cyfryngau, yn fwy tebygol o gael ei ystyried yn rhesymol)
  • pa mor ddifrifol yw’r camwedd
  • a yw'r camwedd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto
  • p'un a yw eich datgeliad yn torri dyletswydd cyfrinachedd eich cyflogwr ai peidio (ee os yw'r wybodaeth a ddatgelsoch yn cynnwys manylion cyfrinachol am gleient)
  • a ydych wedi gwneud datgeliad o'r blaen, a wnaethoch ddilyn unrhyw gamau bryd hynny, a chamau'ch cyflogwr yn dilyn eich datgeliad blaenorol

Chwythu'r chwiban am fethiant eithriadol

Os ydych chi'n credu eich bod yn chwythu'r chwiban ar fethiant difrifol eithriadol mewn gweithle nid oes angen i chi ddilyn y llwybrau arferol a chewch chwythu'r chwiban yn gyhoeddus yn syth.

Nid yw'n ddigon i rywbeth fod yn fethiant difrifol eithriadol yn eich barn chi'n unig (ee os nad ydych yn cytuno â'r arferion gwaith). Rhaid i rywbeth fod yn fethiant difrifol yn ddiffuant. Byddai risg iechyd a diogelwch difrifol eithriadol sy'n peryglu bywyd y gweithwyr yn un enghraifft.

Ni fydd yr amodau ar gyfer chwythu'r chwiban i eraill yn berthnasol os ydych:

  • yn datgelu'r wybodaeth yn ddidwyll
  • yn credu'n rhesymol bod yr wybodaeth gan fwyaf yn wir
  • yn ei wneud am resymau heblaw budd personol
  • yn gweithredu'n rhesymol gan ystyried yr amgylchiadau

Ble mae cael cymorth

Mae datgelu'n gyhoeddus yn fater difrifol ac os nad ydych yn siŵr o'ch pethau, dylech gael cyngor proffesiynol cyn datgelu gwybodaeth.

Mae Public Concern at Work yn fudiad annibynnol a allai roi cyngor am ddim i chi os nad ydych yn siŵr sut mae lleisio pryder am gamymarfer yn y gweithle neu a ddylech leisio eich pryder.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU