Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Profi am gyffuriau a monitro gweithwyr

Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn cadw golwg arnoch chi yn y gwaith, os mae’n angenrheidiol iddynt gynnal eu dyletswyddau iechyd a diogelwch. Ble y mae’r monitro yn golygu cymryd data, lluniau neu brofi am gyffuriau dylai hyn gael ei wneud mewn modd sy’n gyfreithiol ac yn deg i chi. Cael gwybod am eich hawliau.

Cyffuriau a'r gweithle

Bydd unrhyw gyflogwyr yn awyddus i sicrhau nad oes unrhyw gamddefnyddio cyffuriau'n effeithio ar y gweithle. Yn ogystal ag achosi afiechyd, gall camddefnyddio cyffuriau gynyddu'r siawns o ddamweiniau yn y gwaith ac mae'n tarfu ar faint o waith a wneir.

Oherwydd y risg i ddiogelwch yn sgîl camddefnyddio cyffuriau, mae'n ddoeth i'ch gweithle gael polisi am hyn. Fe allai'r polisi gael ei lunio rhwng y cyflogwyr a'r staff neu gynrychiolwyr iechyd a diogelwch y staff. Mae gan eich cyflogwyr gyfrifoldebau cyfreithiol i ofalu am eich iechyd a'ch diogelwch cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol bosib a rhaid iddynt asesu unrhyw risg bosib. Dylai unrhyw bolisi cyffuriau nodi:

  • beth mae'r polisi'n ceisio'i gyflawni
  • sut y gwneir unrhyw brofion
  • pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau
  • pa gamau disgyblu y gellid eu cymryd

Profi am gyffuriau a'ch hawliau

Mae'n bosibl y bydd eich cyflogwyr yn penderfynu profi'r gweithwyr am gyffuriau. Fodd bynnag, rhaid iddyn nhw gael caniatâd y gweithwyr i wneud hyn. Fel arfer, dylid rhoi'r caniatâd hwn os oes gan eich cyflogwyr reswm dros eich profi dan bolisi iechyd a diogelwch galwedigaethol contractaidd llawn. Dylai'r polisi hwn fod yn eich contract cyflogaeth neu yn llawlyfr y cwmni.

Dylai eich cyflogwyr gyfyngu'r profi i'r gweithwyr y mae angen eu profi er mwyn delio â'r risg. Os yw eich cyflogwyr yn dymuno profi'r gweithwyr hyn ar hap, dylai'r profion fod yn rhai 'ar hap' go iawn. Fe allai fod yn enghraifft o wahaniaethu petai gweithwyr penodol yn cael eu dewis i'w profi oni ellid cyfiawnhau hynny oherwydd natur eu swyddi.

Mae chwilio am gyffuriau ar gorff cyflogai'n fater sensitif ac fe argymhellir y dylai cyflogwyr gael polisi ysgrifenedig ynghylch hyn. Dylai unrhyw chwilio o'r fath barchu preifatrwydd, er enghraifft, cael ei wneud gan aelod o'r un rhyw a dylid sicrhau bod tyst yn bresennol.

Does dim modd gorfodi neb i gael prawf cyffuriau, ond os gwrthodwch a bod gan eich cyflogwyr reswm da dros eich profi dan bolisi iechyd a diogelwch galwedigaethol iawn, fe allech wynebu camau disgyblu, gan gynnwys cael eich diswyddo.

E-bost a monitro gyda theledu cylch-cyfyng

Dylech ddisgwyl ychydig o fonitro yn y gweithle gan eich cyflogwr – mae’n ofynnol iddynt gario allan ei dyletswyddau iechyd a diogelwch. Er hyn, ble mae monitro yn cynnwys cymryd data neu luniau, fel e-bost a theledu cylch-cyfyng, mae’n rhaid i hyn gael ei wneud mewn modd sy’n gyfreithiol a theg i chi.

Dylai’r swm o fonitro cael ei osod allan yn glir gan eich cyflogwr (ee yn eich contract neu lawlyfr y cwmni). Os ydych dan wyliadwriaeth, dylai hyn gael ei wneud yn glir. Dylech hefyd wybod beth yw rhif rhesymol am alwadau ffôn ac e-bost personol mewn unrhyw amser penodol neu dylech wybod os nad ydynt yn ganiataol. Gall esiamplau o wyliadwriaeth ehangu o edrych i weld pa wefannau yr ydych wedi ymweld (ee i weld os mae pornograffi wedi ei lawr lwytho) i edrych yn eich bag wrth i chi adael er mwyn gwrthsefyll lladrad.

Mae gennych yr hawl i gadw eich bywyd personol yn breifat ac i gael peth preifatrwydd yn y gweithle. Mae hyn yn golygu ni allwch gael eich monitro ym mhob man (er enghraifft, yn y toiled). Os nad yw eich cyflogwr yn parchu hyn, gallant fod yn torri’r Ddeddf Diogelu Data

Dan y Ddeddf Diogelu Data, rhaid i unrhyw fonitro fel arfer fod yn agored a dylai fod gan eich cyflogwyr neu eraill resymau da dros ei wneud. Dylai eich cyflogwyr asesu effaith y monitro cyn ei ganiatáu.

Datrys anghydfod

Os ydych chi'n anhapus ynghylch cael eich profi am gyffuriau neu'ch monitro yn y gwaith, edrychwch yn llawlyfr eich cwmni, yn eich contract neu yn eich datganiad ysgrifenedig gyntaf i weld a oes gan eich cyflogwyr hawl amlwg i wneud hyn. Os nad oes, dylech godi'r broblem yn anffurfiol gyda'ch cyflogwyr. Os nad yw hyn yn gweithio, dylai fod gan eich lle gwaith drefn gwyno - a dylai manylion y drefn hon fod yn llawlyfr y cwmni, yn eich contract cyflogaeth neu'ch datganiad ysgrifenedig.

Os nad yw'r polisi'n rhan o'r contract, mae'n bosib y gallech chi ymddiswyddo a hawlio diswyddiad annheg oherwydd ymddygiad cyflogwyr am eu bod wedi torri'r amod dealledig o gyd-ymddiriedaeth a chyd-hyder, ond bydd hyn yn dibynnu ar y ffeithiau ac fe all fod yn anodd ei brofi. Mae'n bosib hefyd y gallech ddwyn achos o wahaniaethu neu achos troseddol o ymosod neu gamgarcharu os caiff prawf cyffuriau ei gynnal mewn ffordd annerbyniol.

Ble i gael cymorth

Am ragor o wybodaeth ar ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch ymweld â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy ynghylch undebau llafur.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU