Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae llawer o beryglon y gallech ddod ar eu traws wrth wneud gwaith llaw. Cael gwybod mwy ynghylch y peryglon mwyaf cyffredin a sut y gallwch leihau'r risg o anaf yn y gwaith.
Anhwylderau cyhyrysgerbydol (MSDs) yw'r math mwyaf cyffredin o afiechyd sy'n gysylltiedig â'r gwaith yn y DU, ac mae'r rhain yn cynnwys problemau fel poen yn rhan isaf y cefn, anafiadau i gymalau ac anafiadau straen ailadroddus. Mae'n bosib osgoi'r rhan fwyaf o anhwylderau fel hyn trwy wybod beth sy'n eu hachosi a sut mae'ch diogelu'ch hun.
Dyma rai o'r pethau sy'n achosi anhwylderau cyhyrysgerbydol:
Yn bwysicach na dim, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cael yr hyfforddiant priodol ar gyfer:
Dylech hefyd sicrhau eich bod:
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn dioddef o anhwylder cyhyrysgerbydol, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
Gall problemau eraill godi yn y gwaith, gan gynnwys:
Mae 30 y cant o'r holl anafiadau mwyaf a gofnodir bob blwyddyn yn digwydd oherwydd llithro a baglu.
Mae disgyn o uchder yn berygl ym mhob sector o ddiwydiant.
Gall dirgryniad beri effeithiau hirdymor ar iechyd os na fydd rhywun yn delio â'r peth yn iawn.
Gall sŵn yn y gwaith beri difrod parhaol i'ch clyw.
Mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i asesu pob un o'r peryglon hyn mewn asesiad risg. Yn ogystal â dweud wrthych am y peryglon, rhaid iddyn nhw hefyd ddarparu gwybodaeth, hyfforddiant a chymryd camau gwarchod priodol i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r peryglon.
Gall codi a chludo achosi poen yn y cefn. Cyn codi neu gludo llwyth, dylech ystyried yn gyntaf a oes angen symud y llwyth o gwbl - mae'n bosib y gallwch chi wneud eich tasg gyda'r llwyth yn y fan a'r lle.
Os oes rhaid i chi ei symud, meddyliwch a allwch chi ddefnyddio peiriant i'ch helpu. Os nad oes modd gwneud hyn, mae sawl ffordd o leihau'r risgiau, gan gynnwys:
Mae'r Rheoliadau Gwaith Trin a Chodi â Llaw yn dweud ei bod yn rhaid i'ch cyflogwr:
Os ydych chi'n dioddef o boen cefn, dylech ddal i symud gymaint ag y gallwch a rhowch gynnig ar dabledi lladd poen syml. Os nad yw'r boen yn mynd neu os yw'n gwaethygu, mynnwch sgwrs â'ch Meddyg Teulu.
Os mai eich gwaith sy'n achosi'ch poen cefn, neu os yw'ch gwaith yn ei gwaethygu, mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr yn gyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith, ee swyddog undeb llafur neu gynrychiolydd diogelwch, mae'n bosib y gallan nhw fod o help.
Os ydych chi'n anabl, mae'n bosib y bydd angen mwy o help arnoch i wneud gwaith llaw. Gall eich cyflogwyr gael sgwrs gyda 'Chynghorydd Mynediad at Waith' drwy'ch Canolfan Waith leol a fydd o bosib yn gallu helpu i dalu am unrhyw newid sydd ei angen, ee darparu offer codi.
Er mwyn lleihau'r risgiau pan fyddwch yn gwneud gwaith llaw: