Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Straen yn y gweithle

Mae un o bob pump yn dioddef o straen yn y gweithle, gyda hanner miliwn o bobl yn dweud iddynt fynd yn sâl o ganlyniad i hyn. Mae'r erthygl hon yn edrych ar y pethau sy'n achosi straen a sut i'w wella, ac mae hefyd yn esbonio'ch hawliau.

Beth yw straen?

Os oes gennych swydd sy'n eich herio, dylech ddisgwyl teimlo rhywfaint o bwysau yn y gwaith. Fodd bynnag, os yw'r pwysau hwnnw'n ormodol a bod hynny'n cael effaith negyddol arnoch, yna, mae'r pwysau wedi troi'n straen.

Nid clefyd 'mo straen, ond fe all fod yn fygythiad i'ch iechyd a'ch diogelwch yn y gwaith. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch cyflogwyr ofalu am eich iechyd a'ch diogelwch pan fyddwch yn y gwaith.

Rhai o'r pethau sy'n aml yn achosi straen cysylltiedig â'r gwaith yw cyfathrebu gwael, amgylchedd gweithio gwael a bod y sgiliau sydd gan rywun yn annigonol ar gyfer y swydd.

Mae straen hefyd yn gallu cael ei sbarduno gan ddigwyddiadau y tu allan i'r gwaith, megis profedigaeth, poeni am arian a salwch.

Beth i'w wneud os ydych chi'n dioddef o straen

Os tybiwch eich bod yn dioddef o straen cysylltiedig â'r gwaith, mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr amdano. Bydd y math o straen rydych chi'n dioddef ohono yn effeithio ar sut y byddwch chi'n mynd at i ddatrys y peth. Er enghraifft,

  • os bydd gofynion eich llwyth gwaith yn ormod i chi, gallwch roi rhybudd nad ydych chi am weithio mwy na 48 awr yr wythnos a mynnu eich bod yn cael egwyl ddigonol yn unol â'r safonau sylfaenol
  • mae’n bosib y bydd gennych yr hawl i ofyn am weithio hyblyg
  • os nad oes gennych ddigon o reolaeth dros eich gwaith, dylech ofyn am fwy o hawliau penderfynu
  • os nad ydych chi'n cael digon o gefnogaeth gan eich cyflogwyr, gofynnwch am gael gwell cyfathrebu
  • os oes digon o'r staff yn awyddus, mae’n bosib fe allech orfodi'ch cyflogwyr i sefydlu un (fe'i gelwir hefyd yn gyngor gwaith)
  • os yw'r berthynas rhwng cydweithwyr yn wael a hynny'n effeithio ar sut rydych chi'n gwneud eich gwaith, edrychwch ar bolisi bwlio ac aflonyddu (harasio) eich cyflogwyr
  • os nad ydych chi'n sicr beth yw eich rôl yn y gwaith, gofynnwch i'ch cyflogwyr egluro'r hyn a ddisgwylir gennych
  • os ydych chi'n teimlo bod newidiadau yn y gwaith yn peri straen, gofynnwch am gael eu trafod mwy gyda'ch cyflogwyr

Dylech hefyd gael sgwrs gyda'ch cyflogwyr os ydych chi'n dioddef o straen nad yw'n gysylltiedig â'ch gwaith. Mae'n bosib y byddan nhw'n gallu cynnig cymorth i chi tra byddwch yn datrys beth bynnag sy'n peri straen i chi yn eich bywyd personol.

Mae bwlio yn y gweithle, boed hynny'n fwriadol ynteu'n ddamweiniol, yn gallu peri straen. Os yw'r bwlio hwnnw'n cael ei ystyried yn fwlio rhywiol (gan gynnwys ymwneud â'ch rhywioldeb), yn aflonyddu (harasio) ar sail crefydd neu hil, neu'n gysylltiedig ag anabledd, bydd gennych hawliau dan y ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu anabledd. Hefyd, os oes gennych anabledd sy'n ei gwneud yn anos i chi ddelio â straen, neu'n fwy tebygol o ddioddef o straen (ee iselder), mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd i addasu pethau er mwyn ceisio'ch helpu.

Datrys anghydfod

Os yw eich cyflogwyr yn gwrthod neu'n methu dileu'r hyn sy'n achosi eich straen, gallwch ddilyn y drefn gwyno a nodir yn eich contract cyflogaeth neu yn llawlyfr y cwmni. Os oes cynrychiolydd iechyd a diogelwch yn eich gweithle, fe all ef neu hi ddod gyda chi i'r cyfarfod gyda'ch cyflogwyr.

Os bydd eich cyflogwyr yn cynnig cymryd camau i'ch helpu (e.e. eich cyfeirio at arbenigwr iechyd galwedigaethol), dylech dderbyn eu cynnig, oni bai bod gennych reswm da dros beidio.

Os na allwch chi ddatrys anghydfod drwy'r drefn gwyno ac na allwch fwrw ymlaen â'ch gwaith yn y ffordd y mae'ch cyflogwyr yn dymuno i chi ei wneud, mae'n bosib y bydd gennych achos diswyddiad annheg "oherwydd ymddygiad eich cyflogwyr" os byddwch chi'n dewis gadael eich swydd. Fodd bynnag, gall hyn fod yn anodd ei brofi, felly mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiwr arbenigol neu weithiwr proffesiynol arall.

Ble mae cael cymorth

Am fwy o wybodaeth ar ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch ymweld â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth i gael gwybod mwy ynghylch undebau llafur.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU