Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio cyfrifiaduron yn ddiogel

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur fel rhan o’ch swydd naill ai yn y gwaith neu yn y cartref, gallwch gael gwybod ynghylch y ffordd ddiogel i’w ddefnyddio a sut i osgoi problemau potensial. Mae gan eich cyflogwr hefyd gyfrifoldebau penodol o dan y rheoliadau iechyd a diogelwch.

Defnyddio cyfrifiaduron yn ddiogel

Bydd llawer o bobl yn defnyddio cyfrifiaduron neu sgriniau cyfrifiadur fel rhan o'u swydd. Dydy hyn ddim yn cael unrhyw effaith er gwaeth ar y rhan fwyaf. Nid yw'r sgriniau hyn yn cynhyrchu lefelau pelydredd peryglus ac anaml iawn y byddan nhw'n achosi anhwylder ar y croen.

Os byddwch chi'n defnyddio sgrîn a'ch bod yn dioddef oherwydd hynny, efallai mai'r ffordd rydych chi'n defnyddio'r cyfrifiadur sydd ar fai. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dioddef o straen ar gefn eich llaw oherwydd eich bod yn clicio gormod ar y 'llygoden', neu straen neu gric yn eich gwddw os byddwch chi'n defnyddio sgrîn yn hir heb gael hoe. Gellir osgoi problemau fel hyn drwy gynllunio gweithfan a swydd yn ofalus.

Ydy eich cyflogwyr yn gyfrifol?

Dan y rheoliadau iechyd a diogelwch, dylai eich cyflogwyr:

  • edrych ar weithfannau cyfrifiadurol a lleihau unrhyw risg
  • sicrhau bod y gweithfannau'n cydymffurfio â gofynion diogelwch
  • cynllunio gwaith fel bod pawb yn cael seibiant neu'n cael newid y math o waith a wneir
  • trefnu prawf llygaid os oes angen un arnoch
  • darparu hyfforddiant a gwybodaeth am iechyd a diogelwch

Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol hefyd os ydych chi'n gweithio gartref fel cyflogai ac yn defnyddio sgrîn am gyfnod hir.

Er mwyn sicrhau bod eich amgylchedd gweithio'n ddiogel, meddyliwch am sut y byddwch chi'n defnyddio'r sgrîn. Os ydych chi'n poeni am unrhyw beth, dylech sôn wrth eich cyflogwyr neu wrth gynrychiolydd diogelwch y gweithwyr os oes gennych un.

Hawl i gael hoe

Dydy'r gyfraith ddim yn nodi'n benodol am faint y dylech fod o flaen sgrîn, ond dan y rheoliadau iechyd a diogelwch, mae gennych yr hawl i gael hoe oddi wrthi. Does dim rhaid i hyn olygu eich bod yn cael amser egwyl, dim ond eich bod yn gwneud gwaith o fath gwahanol.

Mae canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn awgrymu ei bod hi'n well cael hoe fach yn aml o'ch gweithfan yn hytrach na hoe hir yn llai aml, ee mae hoe o 5-10 munud ar ôl bod wrth y sgrîn a/neu' r bysellfwrdd am 50-60 munud yn ddi-dor yn debygol o fod yn well na hoe o 15 munud bob dwy awr. Ond, os yw eich swydd yn golygu eich bod yn treulio cyfnodau hir o flaen sgrîn (ee bwydo data), yna dylid trefnu i chi gael cyfnodau hwy o seibiant oddi wrth eich gweithfan.

Pan fyddwch chi o flaen sgrîn, cofiwch eistedd yn gyfforddus a bod eich osgo'n iawn. Dylai eich llygaid fel yn lefel â'r sgrîn. Cofiwch sicrhau bod digon o le gennych a pheidiwch ag eistedd heb symud am rhy hir.

Os ydych chi'n anabl, mae'n ddyletswydd ar eich cyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer, ac fe all hyn olygu eu bod yn rhoi offer cyfrifiadurol arbennig i chi (neu'n newid yr offer sydd yno eisoes) i ateb eich anghenion.

Gallwch hefyd gael cyngor a help o bosib i dalu am offer gan eich Canolfan Byd Gwaith.

Profion llygaid am ddim

Does dim tystiolaeth bod cysylltiad rhwng defnyddio sgrîn a difrod i'r golwg, ond os teimlwch fod eich llygaid yn blino wrth ddefnyddio sgrîn, soniwch wrth eich cyflogwyr neu wrth gynrychiolydd diogelwch y gweithwyr.

Mae gennych yr hawl i gael prawf llygaid am ddim os ydych chi'n defnyddio neu ar fin defnyddio sgrîn gryn dipyn yn ystod eich oriau gwaith. Gallwch hefyd gael rhagor o brofion am ddim os bydd yr optometrydd yn argymell hynny.

Os dywedir wrthych fod angen sbectol arnoch i weithio ar sgrîn, rhaid i'ch cyflogwr dalu am bâr sylfaenol o sbectol ar yr amod bod eu hangen yn arbennig ar gyfer eich gwaith.

Beth i'w wneud nesaf

Gwnewch yn siŵr fod eich cyflogwyr wedi asesu risgiau eich swydd, gan roi sylw penodol i ddefnyddio cyfrifiadur.

Cofiwch sicrhau bod unrhyw ddesgiau ac offer arall yn gyfforddus i'w defnyddio a gofynnwch i'ch cyflogwyr am unrhyw offer arbennig sydd ei angen arnoch (ee gorffwysfan i'ch arddyrnau).

Os oes gennych chi unrhyw broblemau iechyd a'ch bod yn amau mai gweithio wrth sgrîn sy'n gyfrifol, cysylltwch â'ch rheolwr/wraig llinell neu â'ch cynrychiolydd diogelwch.

Mae'n ddyletswydd ar eich cyflogwyr hefyd i ymgynghori â chi am faterion iechyd a diogelwch sy'n effeithio arnoch, a dylent groesawu'r ffaith eich bod yn tynnu sylw at rywbeth cyn i'r sefyllfa waethygu.

Ble i gael cymorth

Am fwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch ymweld â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy am undebau llafur.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU