Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan eich cyflogwr ddyletswydd i'ch diogelu ac i ddweud wrthych am faterion iechyd a diogelwch sy'n effeithio arnoch. Mae ganddo hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i roi gwybod am unrhyw ddamweiniau a digwyddiadau ac i dalu tâl salwch i chi os oes gennych hawl i'w gael.
Rhaid i'ch cyflogwr, a phobl eraill sy'n gyfrifol am reoli gweithle, roi gwybod am y canlynol a chadw cofnodion ohonynt:
Ceir hefyd ofynion arbennig ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â nwy.
Nid oes rhaid rhoi gwybod am bob marwolaeth ac anaf yn awtomatig. I gael rhagor o wybodaeth a'r rhestr lawn o anafiadau, clefydau a digwyddiadau peryglus y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Mae'r anafiadau i gyflogeion y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn cynnwys:
Mae'n rhaid i'ch cyflogwr gynnal asesiad risg a gwneud popeth sydd ei angen i ofalu am iechyd a diogelwch cyflogeion ac ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys penderfynu sawl swyddog cymorth cyntaf sydd ei angen, a pha fath o gyfarpar a chyfleusterau cymorth cyntaf y dylid eu darparu. Nid oes gan swyddogion cymorth cyntaf unrhyw hawl statudol i gael cyflog ychwanegol, ond mae rhai cyflogwyr yn cynnig hyn.
Rhaid i gyflogeion gymryd gofal rhesymol o'u hiechyd a'u diogelwch eu hunain.
Dylid cofnodi unrhyw ddamwain yn y gwaith - gan gynnwys mân anafiadau - yn 'llyfr damweiniau' eich cyflogwr. Rhaid i bob cyflogwr (ac eithrio cwmnïau bach iawn) gadw llyfr damweiniau. Mae'r llyfr hwn er budd cyflogeion yn bennaf, gan ei fod yn rhoi cofnod defnyddiol o'r hyn a ddigwyddodd rhag ofn y bydd angen i chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith neu hawlio iawndal yn ddiweddarach. Ond mae cofnodi damweiniau hefyd yn helpu eich cyflogwr i weld beth sy'n mynd o'i le a chymryd camau i atal damweiniau yn y dyfodol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, os bydd angen i chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd damwain yn y gwaith, dim ond tâl salwch statudol y bydd gennych hawl i'w gael. Efallai y bydd gan eich cyflogwr gynllun ar gyfer talu mwy am amser i ffwrdd a achoswyd gan ddamweiniau, neu efallai y bydd yn penderfynu talu mwy yn dibynnu ar beth sydd wedi digwydd.
Os cawsoch anaf neu ddamwain yn y gwaith a'ch bod o'r farn bod eich cyflogwr ar fai, efallai y byddwch am hawlio iawndal. Rhaid gwneud unrhyw hawliad o fewn tair blynedd i ddyddiad y ddamwain ac fel arfer bydd angen cyfreithiwr arnoch i'ch cynrychioli. Os ydych yn perthyn i undeb llafur, efallai y gallwch gysylltu â'i wasanaethau cyfreithiol. Fel arall, dylech siarad â chyfreithiwr sy'n arbenigo mewn anafiadau personol.
O dan y gyfraith, mae'n rhaid bod eich cyflogwr wedi'i yswirio i dalu hawliad llwyddiannus. Dylai eich cyflogwr arddangos tystysgrif sy'n nodi enw ei gwmni yswiriant fel cyflogwr mewn man amlwg yn y gwaith. Os nad yw'n gwneud hyn, rhaid iddo roi'r manylion i chi pan fydd eu hangen arnoch.
Os ydych yn ystyried dwyn achos yn erbyn eich cyflogwr, cofiwch mai nod iawndal cyfreithiol yw eich rhoi yn y sefyllfa y byddech ynddi pe na bai'r ddamwain wedi digwydd - nid yw'n ymwneud â chael rhywfaint o arian 'am ddim'.