Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallech gael Tâl Salwch Statudol os ydych yn gyflogai ac na allwch weithio oherwydd eich bod yn sâl. Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y gallech gael Tâl Salwch Statudol gan bob cyflogwr. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut y caiff enillion ar gyfartaledd eu gweithio allan.
Gallech gael Tâl Salwch Statudol, os ydych wedi bod:
Terfyn Enillion Is
Y Terfyn Enillion Is yw’r swm y byddai’n rhaid i chi ei ennill cyn i chi ddechrau talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol. O 9 Ebrill 2012, bydd y Terfyn Enillion Is yn £107 yr wythnos.
O 9 Ebrill 2012, mae’n rhaid i’ch enillion wythnosol fod yn £107 yr wythnos ar gyfartaledd cyn i dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol gael eu didynnu.
Caiff cyfartaledd eich enillion wythnosol ei gyfrifo dros gyfnod o wyth wythnos cyn i’ch salwch ddechrau. Gallai’r cyfnod hwn amrywio ychydig yn dibynnu os cewch eich talu’n wythnosol, misol neu os oes gennych batrymau tâl eraill. Gallai’r cyfrifiad fod yn wahanol os ydych newydd ddechrau eich swydd, a dylech gysylltu â’ch cyflogwr am ragor o wybodaeth.
Dim ond enillion sydd wedi cael eu talu yn ystod y cyfnod wyth wythnos hwn a all gael eu defnyddio ar gyfer y cyfrifiad cyfartaledd enillion. Mae’n rhaid i’r enillion hyn fod yn destun Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu y byddent pe bai eich enillion yn ddigon uchel a gallent gynnwys:
Os oes gennych drefniant aberthu cyflog, cyfrifir cyfartaledd eich enillion wythnosol gan ddefnyddio’r enillion gwirioneddol (llai’r aberth cyflog) a delir i chi.
Gallai hyn olygu na fydd eich enillion wythnosol ar gyfartaledd yn cyrraedd y Terfyn Enillion Is ar gyfer talu Tâl Salwch Statudol.
Os ydych yn bodloni'r amodau cymhwyso ar gyfer talu, mae Tâl Salwch Statudol yn daladwy i chi. Mae o hyd yn daladwy pan fyddwch yn gweithio ar aseiniad neu o dan gontract gyda’ch asiantaeth. Ni all eich cyflogwr terfynu eich contract gwasanaeth er mwyn osgoi talu Tâl Salwch Statudol i chi.
Mae pwy bynnag sy’n gyfrifol am ddidynnu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch enillion, hefyd yn gyfrifol am dalu Tâl Salwch Statudol.
Telir Tâl Salwch Statudol ar gyfer dyddiau cymhwyso. Rhain yw’r dyddiau y byddech fel arfer yn gweithio i’ch cyflogwr o dan gytundeb cyflogaeth. Fodd bynnag nid yw’n daladwy am y tri diwrnod cymhwyso cyntaf. Gelwir y dyddiau hyn yn ddyddiau aros.
Os ydych yn gweithio’n rhan amser mae’n rhaid i chi o hyd ddisgwyl tri diwrnod aros cyn y gallwch gael taliad. Golyga hyn efallai na fyddwch yn cael taliad ar ddechrau eich cyfnod o salwch.
Os yw’ch patrwm gwaith yn amrywio, gallai eich dyddiau cymhwyso fod yn wahanol ym mhob wythnos rydych yn gweithio. Dylech siarad â’ch cyflogwr am hyn.
Enghreifftiau
Os ydych yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn mynd yn sâl ar ddydd Gwener, eich dyddiau aros fydd dydd Gwener, dydd Llun a dydd Mawrth. Os byddwch yn parhau i fod yn sâl, caiff Tâl Salwch Statudol ei dalu o ddydd Mercher.
Os ydych yn gweithio dydd Iau a dydd Gwener ac yn mynd yn sâl ar ddydd Gwener eich dyddiau aros fydd dydd Gwener yr wythnos rydych yn sâl gyntaf a dydd Iau a dydd Gwener yr wythnos ganlynol. Os byddwch yn parhau i fod yn sâl bydd Tâl Salwch Statudol yn cael ei dalu o ddydd Iau'r wythnos ganlynol yn unig.
Os ydych wedi cael Tâl Salwch Statudol am gyfnod blaenorol o salwch o fewn yr wyth wythnos diwethaf, gall eich cyfnod newydd o salwch gysylltu â hwn. Er mwyn i gyfnodau o salwch gael eu cysylltu, mae’n rhaid eich bod wedi bod yn sâl am o leiaf bedwar diwrnod yn olynol yn ystod yr ail gyfnod er mwyn iddo gael ei drin fel un cyfnod parhaus. Caiff Tâl Salwch Statudol ei dalu am y cyfnod newydd, heb i chi orfod disgwyl diwrnodau aros.
Os ydych chi a'ch cyflogwr wedi cytuno eich bod yn dychwelyd i'r gwaith yn raddol neu’n newid oriau ar ôl cyfnod o salwch, dylech gael: