Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Datganiad Ffitrwydd i Weithio - nodyn ffitrwydd

Y nodyn ffitrwydd yw’r ffurflen y bydd eich meddyg yn ei rhoi i chi pan fydd eich iechyd yn effeithio ar eich gallu i weithio. Yma, cewch wybod sut gall y nodyn ffitrwydd eich helpu chi a’ch cyflogwr i reoli’r sefyllfa pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch neu anaf.

Nodyn salwch – beth ydyw

Mae’r nodyn ffitrwydd yn galluogi eich meddyg i roi rhagor o wybodaeth i chi am sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio. Bydd hyn yn helpu’ch cyflogwr i ddeall sut y gallai eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn gynharach.

Mae’r newidiadau’n golygu y gall eich meddyg wneud y canlynol:

  • eich cynghori ynghylch pryd y byddwch o bosib yn ffit i weithio gyda rhywfaint o gefnogaeth
  • awgrymu ffyrdd cyffredin o’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith
  • rhoi gwybodaeth ynghylch sut y bydd eich cyflwr yn effeithio ar beth allwch chi ei wneud

Gall y nodyn ffitrwydd gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth o pam na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anaf ond ni fydd arnoch angen y nodyn ffitrwydd fel tystiolaeth tan ar ôl i chi fod yn sâl am saith niwrnod calendr.

Nodyn ffitrwydd a gwblheir ar gyfrifiadur

O ddechrau mis Gorffennaf 2012, efallai y bydd eich Meddyg Teulu yn dechrau rhoi nodyn ffitrwydd a gwblheir gan gyfrifiadur i chi, yn hytrach nag un sydd wedi’i gwblhau â llaw. Bydd yn cynnwys yr un wybodaeth â nodiadau ffitrwydd a gwblheir â llaw. Byddwch yn parhau i gael nodiadau ffitrwydd a gwblheir â llaw gan feddygon mewn ysbytai, meddygon teulu ar ymweliadau cartref a meddygon teulu sydd â systemau TG hŷn.

Deall eich nodyn ffitrwydd

Pan fydd eich meddyg yn rhoi nodyn ffitrwydd i chi, bydd yn eich cynghori ynghylch un opsiwn o ddau. Byddwch un ai 'ddim yn ffit i weithio' neu 'o bosib yn ffit i weithio'.

‘Ddim yn ffit i weithio’

Bydd eich meddyg yn dewis yr opsiwn hwn pan fydd yn credu y bydd eich cyflwr meddygol yn eich rhwystro rhag gweithio am gyfnod penodol o amser.

‘O bosib yn ffit i weithio’

Bydd eich meddyg yn dewis yr opsiwn hwn pan fydd yn credu ei bod yn bosib y gallech ddychwelyd i’r gwaith wrth i chi wella, gyda rhywfaint o gymorth gan eich cyflogwr.

Mae’n bosib y bydd eich meddyg yn cynnwys rhai sylwadau a fydd yn helpu’ch cyflogwr i ddeall sut y mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch. Os yw’n briodol, gall hefyd awgrymu ffordd neu ffyrdd cyffredin o’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith.

Gallai hyn gynnwys:

  • dychwelyd i’r gwaith gam wrth gam – lle bydd cynnydd graddol yn eich dyletswyddau gwaith neu yn eich oriau gwaith o fudd posib i chi, er enghraifft, ar ôl llawdriniaeth neu anaf
  • newid oriau gwaith – gan roi’r hyblygrwydd i chi ddechrau neu orffen yn hwyrach, er enghraifft, os byddwch yn cael trafferth i deithio yn ystod yr ‘oriau brig’
  • diwygio dyletswyddau – o ystyried eich cyflwr, er enghraifft, peidio â chodi pethau trwm os ydych chi wedi anafu eich cefn
  • newidiadau i’ch gweithle – o ystyried eich cyflwr, er enghraifft, caniatáu i chi weithio ar y llawr gwaelod os ydych chi’n cael problemau wrth fynd i fyny ac i lawr y grisiau

Tâl Salwch Statudol

Os bydd eich meddyg yn argymell eich bod ‘o bosib yn ffit i weithio’, a’ch bod chi a’ch cyflogwr yn cytuno y dylech aros i ffwrdd o’r gwaith, dylech gael Tâl Salwch Statudol o hyd.

Trafod eich nodyn ffitrwydd â’ch cyflogwr

Os yw’ch meddyg wedi awgrymu eich bod ‘o bosib yn ffit i weithio’, bydd y nodyn ffitrwydd yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’ch cyflogwr, er mwyn iddo allu dechrau trafod a allwch chi ddychwelyd i’r gwaith ai peidio.

Os yw’n bosib i chi ddychwelyd i’r gwaith, dylech gytuno ar y canlynol:

  • sut y bydd hyn yn digwydd
  • pa gefnogaeth y byddwch yn ei chael ac am ba hyd
  • os byddwch yn dychwelyd i weithio oriau gwahanol a gwneud dyletswyddau gwahanol, sut gallai hyn effeithio ar eich cyflog

Weithiau, efallai na fydd yn bosib i’ch cyflogwr wneud y newidiadau angenrheidiol i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Os mai dyma fydd yr achos, ni fyddwch yn gallu dychwelyd i’r gwaith nes eich bod yn gwella rhagor. Gallwch ddefnyddio’r datganiad yn yr un modd â fel y byddai’ch meddyg wedi cynghori eich bod 'ddim yn ffit i weithio'. Ni fydd angen i chi ymweld â’ch meddyg i gael nodyn ffitrwydd newydd.

Anghytuno â'ch cyflogwr ynghylch dychwelyd i’r gwaith

Os na fyddwch yn cytuno â’ch cyflogwr ynghylch pryd a sut y byddwch yn dychwelyd i'r gwaith, dylech egluro iddo pam eich bod yn anghytuno. Mae’n bosib bod problemau nad oedd eich cyflogwr yn ymwybodol ohonynt wrth iddo wneud ei benderfyniad.

Os ydych chi’n aelod o undeb llafur, mae’n bosib y bydd arnoch eisiau gofyn i gynrychiolydd eich undeb eich helpu gyda'r sgwrs hon. Fel arall, mae’n bosib y byddwch am geisio cefnogaeth gan ganolfan gyngor leol, er enghraifft Canolfan Cyngor Ar Bopeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU