Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ar gyfartaledd, mae gweithiwr cyffredin yn y DU yn absennol o'r gwaith am 5.5 diwrnod y flwyddyn. Y ddau brif reswm dros absenoldebau yw salwch a phobl yn teimlo na allant ddod i’r gwaith. Yma, cewch wybod sut y dylai eich cyflogwr ddelio â salwch tymor byr a thymor hir.
Os ydych chi’n absennol o’r gwaith, dylech geisio siarad â’ch rheolwr llinell cyn pen awr ar ôl eich amser dechrau arferol. Dylech roi gwybod i’ch rheolwr am eich salwch gan ddweud pryd rydych yn debygol o ddychwelyd i’r gwaith.
Os ydych chi wedi bod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch am saith niwrnod neu lai, gall eich cyflogwr ofyn i chi gadarnhau eich bod wedi bod yn sâl. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen eich hun pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith. Gelwir hyn yn hunan ardystio.
Mae gan nifer o gyflogwyr eu ffurflenni hunan ardystio eu hunain. Os nad oes gan eich cyflogwr chi ei ffurflen ei hun, mae’n bosib y bydd yn defnyddio ffurflen Datganiad Salwch Cyflogai (Employee's Statement of Sickness).
Os ydych chi wedi bod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch am fwy na saith niwrnod, bydd angen i chi gael ffurflen Datganiad Salwch Cyflogai (nodyn salwch) gan eich meddyg teulu neu’r meddyg a wnaeth eich trin yn yr ysbyty.
Mae’r nodyn ffitrwydd yn galluogi eich meddyg i ddarparu gwybodaeth i chi ar sut y mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio. Efallai y bydd yn awgrymu ffyrdd y gallech ddychwelyd i’r gwaith, er enghraifft, newidiadau i’ch oriau gwaith neu ddyletswyddau gwahanol dros gyfnod dros-dro. Bydd hyn yn helpu’ch cyflogwr i ddeall sut y gallant eich helpu chi i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt. Byddwch chi a’ch cyflogwr yn gallu siarad ynghylch sut y bydd hyn o les i chi wrth ddychwelyd i’r gwaith.
Efallai y bydd eich cyflogwr yn cadw cofnodion am y nifer o ddyddiau salwch yr ydych yn cymryd. Dylech edrych ar eich polisi cwmni ar absenoldeb salwch – gallwch siarad ag Adnodd Dynol i’ch helpu i ddod o hyd i hwn. Gall eich cyflogwr chwilio am batrwm yn y diwrnodau’r wythnos a nifer y dyddiau salwch yr ydych yn eu cymryd.
Dylai eich rheolwr gael sgwrs dychwelyd i’r gwaith gyda chi pan fyddwch yn dod yn ôl i weithio. Dylai’r sgwrs hon fod yn anffurfiol ac yn fer. Diben y sgyrsiau hyn yw gwneud y canlynol:
Os ydych chi’n dioddef o salwch tymor hir, dylai eich cyflogwr wneud y canlynol:
Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr am siarad â chi ynglŷn â gwahanol fathau o waith a threfniadau gweithio. Bydd hefyd yn rhaid iddo ystyried am ba mor hir y gall gadw eich swydd ar agor i chi.
Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus ynghylch dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb hir. Dylai eich cyflogwr gyflwyno rhaglen mynd yn ôl i weithio. Gallai hyn gynnwys y canlynol:
Dim ond fel y dewis olaf y caiff cyflogwr ddiswyddo rhywun sydd â salwch tymor hir. Cyn gwneud penderfyniad, mae’n rhaid i gyflogwr ystyried y canlynol:
Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg o achos salwch tymor hir, gall eich achos gael ei wrando gan Dribiwnlys Cyflogaeth.