Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliau tâl salwch cwmni

Mae'n bosib y bydd eich contract cyflogaeth yn nodi pa dâl salwch y mae gennych hawl i'w gael. Bydd hyn yn amrywio o swydd i swydd. Ni all tâl salwch cwmni gynnig llai na'r hyn y mae gennych hawl ei gael drwy'r Tâl Salwch Statudol.

Mathau o dâl salwch

Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch, mae'n bosib y bydd gennych hawl i gael tâl salwch. Mae dau fath gwahanol o dâl salwch:

  • tâl salwch cwmni (a elwir hefyd yn dâl salwch dan gontract neu alwedigaethol)
  • Tâl Salwch Statudol

Os yw'ch cyflogwyr yn rhedeg eu cynllun tâl salwch eu hunain, fe'i gelwir yn 'gynllun tâl salwch cwmni' a dylech gael eich talu am yr hyn sy'n ddyledus i chi yn ôl hwnnw. Bydd hyn yn dibynnu ar beth a gaiff ei gynnwys yn eich contract cyflogaeth.

Os nad oes gennych yr hawl i ddim byd dan gynllun cwmni, dylai eich cyflogwyr ddal i dalu'r Tâl Salwch Statudol i chi os ydych chi'n gymwys.

Tâl salwch cwmni

Mae'n bosib bod eich cyflogwyr yn cynnig cynllun tâl salwch sy'n fwy hael na'r Tâl Salwch Statudol. Caiff eich cyflogwyr gynnig unrhyw gynllun nad yw'n is na'r lleiafswm yn ôl y gyfraith.

Dylid cynnwys manylion eich hawl i dâl salwch cwmni yn eich datganiad ysgrifenedig o fanylion eich cyflogaeth, y dylech ei gael o fewn dau fis ers i chi ddechrau gweithio. Os nad yw eich cwmni'n cynnig cynllun, rhaid i'r datganiad ysgrifenedig nodi hynny.

Cynllun tâl salwch cwmni nodweddiadol

Mae cynlluniau tâl salwch cwmni'n amrywio o gyflogwr i gyflogwr.

Bydd cynllun tâl salwch nodweddiadol fel arfer yn dechrau ar ôl cyfnod sylfaenol o wasanaeth (ee, cyfnod prawf o dri mis). Yna, byddech yn derbyn eich cyflog arferol yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddwch yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch, hyd at nifer penodol o wythnosau. Ar ôl hyn, rydych yn debygol o gael hanner-cyflog am gyfnod pellach cyn bod unrhyw absenoldeb oherwydd salwch yn mynd yn absenoldeb heb dâl.

Pa fath o brawf o salwch fydd eich cyflogwyr yn gofyn amdano

Caiff eich cyflogwyr nodi sut y dylech ddweud wrthynt eich bod yn sâl (e.e. ffonio cyn rhyw amser penodol). Fel arfer, byddwch yn gallu hunan-dystysgrifo wythnos o salwch, y tu hwnt i hynny, fel arfer bydd angen nodyn gan y meddyg.

Dewis

Caiff eich cyflogwyr ddewis gwneud eithriad a thalu tâl salwch i chi hyd yn oed os nad ydych chi'n gymwys dan reolau'r cwmni. Hefyd, mae rhai cynlluniau tâl salwch yn dweud y caiff y 'cyflogwyr ddewis' talu'r taliadau ai peidio, sy'n golygu y gallant wrthod gwneud y taliad os ydyn nhw'n teimlo nad oes modd cyfiawnhau'r absenoldeb. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu o gwbl wrth benderfynu (sef nad ydynt yn ffafrio un categori o weithwyr yn fwy nag un arall pan fo gofyn iddynt beidio â gwneud hynny).

Os yw eich cyflogwyr wedi dewis talu tâl salwch dewisol i chi yn y gorffennol, nid yw hyn yn golygu bod rhaid iddynt wneud hynny yn y dyfodol. Fodd bynnag, weithiau, mae modd i drefniant dewisol ddod yn rhan o'ch contract drwy 'ddefod ac arfer'.

Salwch sy'n gysylltiedig â gwaith

Fel arfer, ni fydd achos eich salwch yn effeithio ar swm y tâl salwch a gewch chi. Mae'n bosib y bydd gan eich cyflogwyr gynllun arbennig ar gyfer anafiadau yn y gwaith - holwch nhw am fanylion.

Os yw eich cyflogwyr yn gyfrifol am eich analluogrwydd, mae'n bosib y bydd gennych hawl yn ôl y gyfraith i ddwyn achos am anaf personol. Mae hyn yn berthnasol i anafiadau corfforol neu seicolegol (ee, straen). Mynnwch sgwrs â thwrnai neu gynrychiolydd undeb llafur os ydych chi'n ystyried hyn.

Amser o'r gwaith i ofalu am rywun sy'n sâl ac yn dibynnu arnoch

Efallai y cewch amser o'r gwaith i ofalu am rywun sy'n sâl ac yn dibynnu arnoch. Fodd bynnag, nid oes rhaid i'ch cyflogwyr dalu i chi am yr amser hwn oni bai bod eich contract yn dweud bod rhaid iddyn nhw.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw beth sy'n berthnasol i dâl salwch, mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr gyntaf.

Os ydych yn cael problem gyda chael eich tâl salwch:

  • edrychwch ar eich contract i weld faint y dylech ei gael
  • holwch eich cyflogwyr a oes problem wedi bod o ran talu eich tâl salwch
  • mynnwch gael gwybod eich hawliau am Dâl Salwch Statudol

Os byddwch chi’n anghytuno ynghylch penderfyniad am dâl salwch cwmni, ceisiwch ddatrys y broblem gyda’ch cyflogwr. Os yw eich cyflogwyr yn gwrthod talu'r tâl salwch sy'n ddyledus i chi, ystyrir hyn yn 'ddidyniad anghyfreithlon o gyflog'. Mae'n bosib y gallwch fynd at Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble mae cael cymorth

I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu darllenwch fwy am undebau llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU