Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyn y gall eich cyflogwr benderfynu ar eich hawl i gael Tâl Salwch Statudol, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt eich bod yn sâl. Byddwch hefyd angen darparu rhyw fath o dystiolaeth i’ch cyflogwr i brofi eich bod yn sâl.
Efallai bod gan eich cyflogwr eu rheolau eu hunan ynglŷn â phryd a sut rydych yn dweud wrthynt eich bod yn sâl a dylent ddweud wrthych beth ydynt. Gofynnwch i'ch cyflogwr os nad ydych yn gwybod.
Os nad oes gan eich cyflogwr eu rheolau eu hunan, dylech ddweud wrth eich cyflogwr o fewn saith diwrnod o’r dyddiad cyntaf rydych yn sâl. Fodd bynnag ni all eich cyflogwr fynnu eich bod yn dweud wrthynt:
Nodyn ffitrwydd
Disodlodd y 'nodyn ffitrwydd' nodyn salwch y meddyg ar 6 Ebrill 2010. Gyda chymorth eich cyflogwr, efallai y bydd y nodyn yn eich helpu i ddychwelyd i waith yn gynharach drwy ddarparu mwy o wybodaeth am effeithiau eich salwch neu’ch anaf.
Nid oes rhaid i’ch cyflogwr dalu Tâl Salwch Statudol (SSP) i chi ar gyfer unrhyw oedi wrth ddweud wrthynt eich bod yn sâl. Byddant yn talu o'r dyddiad y dywedwyd wrthynt cyn belled ag y byddwch yn dal yn sâl a bod y rheolau ar gyfer talu yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi wasanaethu 'diwrnodau aros’ cyn talu.
Darllenwch 'Tâl Salwch Statudol - hawl a pha ddyddiau byddwch yn cael eich talu amdanynt' am fwy o wybodaeth.
Eich cyflogwr fydd yn penderfynu a ydych yn analluog i weithio am daliad Tâl Salwch Statudol.
Ni all eich cyflogwr ofyn i chi ddarparu tystysgrif feddygol am y saith diwrnod cyntaf rydych yn sâl. Efallai y byddant yn gofyn i chi lenwi hunandystiad eu hunan neu ffurflen SC2.
Gallwch lawrlwytho copi o ffurflen SC2 o wefan Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) ar drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol.
Os byddwch yn sâl am fwy na saith diwrnod, gall eich cyflogwr ofyn i chi am rywfaint o dystiolaeth feddygol gan eich meddyg.
Mae 'nodyn ffitrwydd' gan feddyg sy'n dweud nad ydych 'yn addas ar gyfer gwaith' yn dystiolaeth gref eich bod yn sâl a fyddai fel arfer yn cael eu derbyn, oni bai fod tystiolaeth i brofi yn wahanol.
Gallech hefyd ddarparu tystiolaeth gan rywun nad yw'n ymarferwr meddygol, er enghraifft deintydd neu ffisiotherapydd. Bydd eich cyflogwr yn penderfynu a yw’r dystiolaeth hon yn dderbyniol. Os oes gan eich cyflogwr unrhyw amheuon, efallai y byddant yn dal i ofyn am dystysgrif feddygol o’ch meddyg.
Os bydd gan eich cyflogwr rheswm da dros gredu nad ydych yn sâl, gallant wrthod talu Tâl Salwch Statudol, hyd yn oed os oes ganddynt dystiolaeth o’ch meddyg. Er mwyn helpu i benderfynu p'un ai i dalu Tâl Salwch Statudol, gyda'ch caniatâd, gall eich cyflogwr gael adroddiad meddygol gan:
• eich meddyg
• eu cynghorwyr meddygol eu hunain
• Darparwr Gwasanaethau Meddygol drwy Gyllid a Thollau EM (HMRC)
Os bydd eich meddyg yn rhoi nodyn ffitrwydd y 'gallech fod yn addas ar gyfer gwaith', byddant hefyd yn rhoi cyngor a fydd yn eich helpu chi a'ch cyflogwr siarad am yr hyn y gallai rhoi cymorth i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith fel yr ydych yn gwella.
Nid oes yn rhaid i’ch cyflogwr ddilyn cyngor eich meddyg, gan y byddant yn gwybod sut ac os ydynt yn gallu gwneud unrhyw newidiadau i'ch helpu. Os na allwch ddychwelyd i'r gwaith, yna gellir defnyddio’r 'nodyn ffitrwydd’ os bydd eich meddyg yn eich cynghori' nad oeddech yn ffit ar gyfer gwaith'. Nid oes yn rhaid i chi ddychwelyd i’ch meddyg am nodyn newydd.
• Gwybodaeth am y nodyn ffitrwydd (adran gyflogaeth)
Os yw eich cyflogwr yn cytuno i chi ddychwelyd i'r gwaith yn raddol neu newid yr oriau y byddech fel arfer yn eu gweithio, gallech barhau i gael Tâl Salwch Statudol.
Darllenwch 'Tâl Salwch Statudol - hawl a pha ddyddiau byddwch yn cael eich talu amdanynt' am wybodaeth.
• Tâl Salwch Statudol – sut y caiff ei weithio allan a pha ddyddiau byddwch yn cael eich talu amdanynt